Mae ymchwil yn y maes hwn yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau lle defnyddir dulliau moleciwlaidd, yn cynnwys geneteg ffurfiant, addasu, bioleg esblygiadol a datblygiadol, microbioleg, monitro bioamrywiaeth ac ecoleg. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau blaengar fel eDNA, dilyniant a chydosod genom procaryotig ac ewcaryotig (gan ddefnyddio dulliau hir a byr), a thrin modelau planhigion ac anifeiliaid mewn dull genetig. Mae gan ymchwilwyr fynediad i labordai ac ystafelloedd ymchwil a adnewyddwyd yn ddiweddar, gan gynnwys ystafelloedd glân eDNA; ystafell ficrosgopeg cydffocal; ystafelloedd tymheredd rheoledig; tai gwydr; acwaria morol a dŵr croyw; tai mamaliaid bach; ac ystafelloedd ymlusgiaid gwenwynig a rhai nad ydynt yn wenwynig.
It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?