
Helo bawb! Fy enw i yw Vishnu.
Rwy'n 21 oed ac rwyf yn fy ail flwyddyn yn astudio Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial.
Rwy'n gefnogwr brwd o Godi Pwysau Olympaidd ac yn ymarfer y gamp yn rheolaidd, felly rwy'n hoffi treulio llawer o amser yn y gampfa.
Gallwch ddod o hyd i mi yno fel rheol, peidiwch â bod yn swil a dewch draw i ddweud helo os gallwch chi. Mae tîm Campws Byw yn gyfuniad talentog o bobl fel chi, sy'n trefnu a chytgordio digwyddiadau sy'n cyfoethogi eich cyfnod ym Mhrifysgol Bangor.
Cynhelir digwyddiadau bob wythnos trwy gydol y flwyddyn, a byddwch yn cwrdd â phobl newydd ac yn cael profiadau cofiadwy. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â chi i gyd a chael blwyddyn wych yn llawn digwyddiadau Campws Byw.