Myfyrwyr yn cerdded tu allan i Pontio

Wythnos Groeso - Myfyrwyr Israddedig

Bydd y wefan groeso hon yn eich helpu ar eich ffordd i gychwyn eich taith yn fyfyriwr ym Mangor. Bydd yn eich cyfeirio at yr holl wybodaeth hanfodol y bydd ei hangen arnoch wrth i chi ymgartrefu yn eich bywyd fel myfyriwr.

Yr Athro Turnbull yn y Cwad

Croeso gan y Brifysgol

Wrth eich croesawu i Brifysgol Bangor, hoffem gynnig rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i chi ynghyd â chroeso 'ffurfiol' gan Dirprwy'r Is-ganghellor, yr Athro Oliver Turnbull, a hynny i nodi carreg filltir swyddogol ar ddechrau eich profiad prifysgol.

Llun o Swyddogion Sabathol Undeb Bangor 2022/23

Croeso gan Undeb Bangor

Undeb Bangor yw enw undeb y myfyrwyr - enw uniaith Gymraeg gan ein bod yn falch iawn o'n gwreiddiau Cymreig.

Y pwyslais ar gyfer yr Wythnos Groeso yw eich helpu i gael eich traed danoch: gan roi digon o gyfle i chi gwrdd â phobl a chymryd rhan gydag Undeb Bangor.

Myfyriwr yn ysgrifennu mewn llyfryn efo ffôn symudol a gliniadur ar y ddesg

Cofrestru a Dewis eich Modiwlau

Rhaid i chi gofrestru gyda'r Brifysgol - ar-lein cyn i chi gyrraedd, a chael eich manylion wedi eu gwirio pan fyddwch yn cyrraedd.

Yma fe welwch yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gofrestru a hefyd am ddewis eich modiwlau.

 Cyfrifydd yn gweithio ar rai taflenni cyllid

Ffioedd a Chyllid

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud yr holl drefniadau ariannol angenrheidiol ar gyfer ffioedd dysgu a’r holl gostau byw, gan gynnwys eich rhent.

Myfyrwyr yn cymdeithasu mewn ystafell neuadd preswyl

Neuaddau Preswyl

Aros yn Neuaddau'r Brifysgol? Mae'r dudalen hon yn ateb eich holl gwestiynau, gan gynnwys gwybodaeth am Campws Byw a chael trwydded parcio i fyfyrwyr.

Sudents in quad

Llety Preifat a Byw yn Lleol

Yn byw mewn llety preifat neu'n byw'n lleol ac yn teithio i'r Brifysgol ar gyfer eich astudiaethau?

Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am geisio a chael cymorth sy'n ymwneud â llety preifat, gwybodaeth am y diwrnod cynefino i fyfyrwyr sy'n byw gartref, a sut i gael trwydded parcio i fyfyrwyr.

Myfyriwr ar liniadur yn gwisgo clustffonau

Sut rydym yn Cyfathrebu â chi

Ym Mangor mae gennym wefan fewnrwyd, FyMangor, a hefyd cylchlythyr wythnosol, y Bwletin Myfyrwyr, a ddefnyddiwn i rannu gwybodaeth a chyfleoedd pwysig gyda chi.

Arweinwyr Cyfoed yn cerdded drwy bentref Ffriddoedd yn ystod Wythnos Groeso

Arweinwyr Cyfoed

Myfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli ac sydd wedi cael eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd i ymgynefino â bywyd prifysgol yw Arweinwyr Cyfoed. Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, dangos y dref a'r brifysgol i chi, a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am fywyd fel myfyriwr.

Myfyrwyr yn sgwrsio a chwerthin.

Cymorth, Lles ac Iechyd

Mae gan Fangor ystod eang o gefnogaeth ar gael pe bai angen ychydig o help neu gyngor arnoch chi - naill ai'n academaidd neu'n ymwneud â'ch lles.

Myfyrwyr yn chwarae gyda phêl ar draeth cyfagos

Beth sydd ymlaen yn ystod yr Wythnos Groeso?

Beth fyddai’r Wythnos Groeso heb ddigwyddiadau? Cynhelir digwyddiadau a fydd yn eich cyflwyno i'r Brifysgol yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol i chi gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr.

Yma hefyd cewch wybodaeth am fwyd, diod a phethau eraill y gellir eu prynu yn y Brifysgol, yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon.

Myfyrwyr yn cymdeithasu tu allan i Pontio

Eich Ysgol Academaidd

Yma fe welwch wybodaeth am drefniadau ymgynefino eich Ysgol a gwybodaeth arall yn ymwneud â'ch Ysgol academaidd.

Myfyrwyr yn Llyfrgell Gymraeg

Cymuned Ddwyieithog ym Mangor

Mae dwyieithrwydd yn rhan naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae gan tua 70% o’n staff sgiliau yn y Gymraeg felly mae modd i chi dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob agwedd o’ch bywyd fel myfyriwr yma, gan gynnwys adran Gwasanaethau Myfyrwyr.

Myfyrwyr yn cymdeithasu mewn gofod cymdeithasu

Cymuned Gynhwysol Bangor

Gyda myfyrwyr yn dod o bob rhan o'r byd ac o gefndiroedd gwahanol iawn, bwriad Prifysgol Bangor yw creu amgylchedd i chi fyw ac astudio ynddo sy'n sicrhau y gellwch fod yn chi eich hun, cymryd mantais o bob cyfle a chyrraedd eich llawn botensial.

Myfyrwyr yn astudio yn y llyfrgell

Siarter Myfyrwyr

Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn falch o’r bartneriaeth agos sydd gennym gyda’r myfyrwyr a’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu profiad unigryw myfyrwyr Bangor. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein Siarter Myfyrwyr.

Myfyrwyr yn y Cwad Mewnol yn ystod diwrnod graddio

Awgrymiadau am yr Wythnos Groeso gan Raddedigion Bangor

Er mwyn eich sbarduno ar eich antur newydd yn y brifysgol, rydym wedi gofyn i'n cyn-fyfyrwyr pa gyngor y byddent yn ei roi i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau ar eu cyfnod ym Mangor.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?