Sudents in quad

Siarter Myfyrwyr

Siarter Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor ac Undeb y Myfyrwyr wedi cydweithio i ddatblygu’r Siarter hon. Gwyddom y gallwn gyflawni mwy mewn partneriaeth ac mae’r Siarter hon yn amlinellu ein hymrwymiad i wella profiad addysgol pob myfyriwr yn barhaus. Y bwriad yw rhoi trosolwg o’r cyfrifoldebau a’r disgwyliadau ar bob partner – y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a phob myfyriwr. Caiff ei adolygu bob blwyddyn i wneud yn siŵr ei fod yn parhau i fod yn berthnasol.

Bydd Prifysgol Bangor yn:

Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:

Disgwylir i fyfyrwyr:

  • Cwblhau cofrestriad ar-lein mewn da bryd, a phan gewch e-bost i wneud hynny.
  • Darllen llawlyfrau eich cwrs a modiwlau.
  • Paratoi at ddosbarthiadau a darllen testunau gosod ymlaen llaw.
  • Cynnal astudiaeth annibynnol a, lle bo'n briodol ar gyfer y lefel astudio, ymgymryd ag ymchwil i gefnogi dysgu a chanlyniadau.
  • Cwblhau a chyflwyno eich asesiadau erbyn dyddiadau cau penodedig.
  • Casglu’n brydlon eich gwaith pan fydd wedi’i farcio, ac ystyried yr adborth a roddwyd er mwyn gwella eich gwaith yn y dyfodol
  • Cofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd os oes arnoch angen addasiadau sy’n ymwneud ag anabledd a’u rhoi ar waith.

Bydd Prifysgol Bangor yn:

Sicrhau ein bod yn gweithredu ein polisi dwyieithog fel eich bod yn cael:

Disgwylir i fyfyrwyr:

  • Cofleidio a pharchu ethos dwyieithog Prifysgol Bangor, yn unol â’n Polisi Dwyieithod, gan gydnabod y bydd holl gyfathrebiadau ysgrifenedig swyddogol y Brifysgol yn cael eu darparu’n gyson yn y ddwy iaith.

Bydd Prifysgol Bangor yn:

Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:

Bydd Prifysgol Bangor yn:

Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:

  • Sicrhau fod popeth maen nhw'n ei wneud yn cynnal ein hymrwymiad i gyfleoedd cyfartal a’i chorff amrywiol o fyfyrwyr.

Disgwylir i fyfyrwyr:

  • Cadw at holl reoliadau’r brifysgol, gan gynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer myfyrwyr.
  • Cynnal diwylliant o degwch a pharch tuag at eich cyfoedion a staff y Brifysgol, gan feithrin cymuned academaidd gynhwysol a chydweithredol.
  • Trin ein cymuned myfyrwyr a staff amrywiol gyda chwrteisi, urddas a pharch, yn cynnwys wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
  • Parchu eich amgylchedd ar y campws ac oddi arno, ac ymddwyn yn ystyriol tuag at y gymuned leol yr ydym i gyd yn rhan ohoni.
  • Rhoi gwybod i ni am unrhyw beth a fo’n effeithio ar eich astudiaethau, fel y gallwn eich cefnogi a’ch cynghori.
  • Mynd ati i geisio cefnogaeth bersonol, os byddwch yn teimlo eich bod angen hynny.
  • Gwneud defnydd llawn o’n system tiwtoriaid personol.

Bydd Prifysgol Bangor yn:

  • Gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Bangor i gael system Cynrychiolwyr Cwrs effeithiol drwy ymgysylltu â Chynrychiolwyr Cwrs a sicrhau bod gwybodaeth am Gynrychiolwyr Cwrs yn cael ei chyhoeddi i chi ei gweld.
  • Gofyn yn rheolaidd am ac ymateb i'ch adborth ar addysgu a dysgu, a defnyddio'ch adborth i ddatblygu a gwella'ch profiad dysgu yn barhaus.
  • Sicrhau bod cyfarfodydd Cyswllt Staff-Myfyrwyr yn cael eu cynnal yn rheolaidd ac wedi’u dogfennu’n dda yn unol â Chod Ymarfer Cynrychiolwyr Cwrs.
  • Sicrhau bod buddiannau’r myfyrwyr yn cael eu gwarchod ac yn cydweithio ag Undeb y Myfyrwyr.

Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:

Disgwylir i fyfyrwyr:

  • Ymgysylltu â'u Cynrychiolwyr Cwrs a defnyddio sianeli priodol i roi adborth.
  • Cymryd cyfrifoldeb i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y sianeli adborth a’r cyfleoedd democrataidd sydd ar gael.
 

Bydd Prifysgol Bangor yn:

Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:

Disgwylir i fyfyrwyr:

Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn falch o’r bartneriaeth agos sydd gennym gyda’r myfyrwyr a’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu profiad unigryw myfyrwyr Bangor. Cydnabuwyd arwyddocâd hynny’n ddiweddar gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) a ganmolodd y Brifysgol am ei hagwedd tuag at weithio mewn partneriaeth â’r myfyrwyr.
Yn ystod eich amser ym Mangor cewch amryw o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau a’ch cyflogadwyedd, dod yn aelod gweithgar o’n cymuned ddysgu, a chyfrannu at yr amgylchedd lleol. Yn sicr mae’n werth ymroi i’ch astudiaethau, a’r budd a ddaw o fanteisio ar bob cyfle a gewch chi i feithrin eich gwybodaeth a’ch profiad y tu hwnt i’r byd academaidd.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg rhagorol, datblygu gweinyddiaeth ddwyieithog gref a pharhau i gyfrannu'n helaeth at ddatblygiad diwylliannol ac ieithyddol yr ardal. Er mwyn datblygu a chyfoethogi ei darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ymhellach, mae'r brifysgol wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae rhan lawn yng ngweithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a manteisio i'r eithaf ar ei fentrau. Byddwn yn cefnogi myfyrwyr i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel modd i fyfyrwyr arddangos eu sgiliau iaith Gymraeg.
Anelwn at fod yn gynaliadwy ym mhopeth a wnawn. Mae'r Brifysgol yn gyd ymrwymedig i les y myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl, a nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu, a nodweddion gwarchodedig. Cafodd Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Chynllun Gweithredu'r Brifysgol eu datblygu yng nghyd-destun y dyletswyddau cyfreithiol sydd ar y Brifysgol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Dyletswyddau sy'n Benodol i Gymru, ac mae'n ddatganiad o ymrwymiad parhaus Prifysgol Bangor i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i les ac iechyd myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl a dulliau diogelwch rhag hunanladdiad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein nodau yn ein Strategaeth Iechyd Meddwl dan Arweiniad Myfyrwyr.
Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i ledaenu’r siarter hon yn flynyddol i’r holl fyfyrwyr a’r staff ar e-bost, ar-lein ac mewn sgyrsiau croeso a chyfarfodydd gyda thiwtoriaid personol.
Bydd y Brifysgol yn cyflawni ei rhwymedigaethau cytundebol i fyfyrwyr a chydymffurfio â’i hymrwymiadau dan gyfraith defnyddwyr fel yr amlinellwyd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Wrth wneud hynny, bydd prifysgolion yn gweithio i ddiogelu buddiannau’r myfyrwyr wrth ymateb i amgylchiadau megis newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff cwrs ei gyflwyno neu gwrs yn dod i ben. Mae’r brifysgol wedi sefydlu gweithdrefnau i ymateb i’r amgylchiadau hyn a byddant yn lliniaru’r effaith bosibl ar y myfyrwyr ac yn cydnabod anghenion gwahanol ei myfyrwyr amrywiol. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth gyfoes a thryloyw i fyfyrwyr ynghylch costau astudio.

Dylai’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno cwyno ddilyn y gweithdrefnau a nodir yma.

Diweddarwyd diwethaf: 08/09/2023.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?