Enfys dros Prif Adeilad Prifysgol Bangor University

Cofio'r Athro Nigel W. John (7 Hydref, 1963 - 14 Hydref, 2023)

Cofiwn yr Athro Nigel W John, a fu farw’n sydyn ddydd Sadwrn 14 Hydref 2023, wythnos ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.

Bu farw’r Athro Nigel W. John yn sydyn ar 14 Hydref. Rydym yn cofio’n arbennig am ei wraig a'i deulu. Bu Nigel yn Athro ym Mhrifysgol Bangor, ac yn aelod gweithgar o’r Ysgol Cyfrifiadureg (fel y’i gelwid bryd hynny) rhwng 2003 a 2015, pan dderbyniodd gadair ym Mhrifysgol Caer. Roedd Nigel yn ffrind agos i lawer o academyddion sy'n gweithio ym Mangor, a bydd colled fawr ar ei ôl.

Ganed Nigel ar 7 Hydref 1963 yng Ngŵyr, Abertawe. Aeth i Brifysgol Caerfaddon i astudio Mathemateg a Chyfrifiadureg, a pharhau â’i astudiaethau dan oruchwyliaeth agos yr Athro Phil Willis, gan gyflwyno ei draethawd PhD, o’r enw “Techniques for Planning Computer Animation”, yn 1989. Roedd gan Nigel ddiddordeb mewn graffeg gyfrifiadurol erioed, ac yn falch o'r animeiddiadau yr oedd wedi'u creu ar gyfer ei waith PhD. Cyhoeddodd ei bapur cyntaf yn 7fed cynhadledd flynyddol Eurographics UK Chapter ym mis Mawrth 1989, ac ers hynny bu’r Eurographics Association a’r UK Chapter of Eurographics (EGUK) yn agos iawn at ei galon. 

Ar ôl cwblhau ei PhD, aeth Nigel ymlaen i weithio gydag AstraZeneca Pharmaceuticals, Silicon Graphics Inc, ac ymunodd â’r Manchester Visualisation Centre, a arweiniwyd ar y pryd gan yr Athro Terry Hewitt. 

Yn 2003 symudodd Nigel i Fangor a dod yn Athro Cyfrifiadureg yn yr Ysgol Cyfrifiadureg (fel y’i gelwid bryd hynny). Sefydlodd grŵp ymchwil cyfrifiadureg o'r enw Delweddu Perfformiad Uchel a Graffeg Feddygol (HPVMG). Nigel oedd yn arwain y grŵp ymchwil hwn nes iddo adael Bangor yn 2015. Mae’r grŵp hwn yn parhau heddiw, gyda chylch gorchwyl sydd wedi’i addasu a’i ehangu ychydig, dan arweiniad yr Athro Jonathan C. Roberts. Yn ystod ei amser ym Mangor, am gyfnod byr bu Nigel yn bennaeth dros dro yr ysgol, a bu’n Gyfarwyddwr Ymchwil. Helpodd Nigel i ddatblygu ymchwil y grŵp a gyrfaoedd y bobl oedd yn rhan ohono. Bu iddo feithrin a chryfhau sgiliau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ym meysydd graffeg gyfrifiadurol, delweddu, hapteg, prosesu delweddau a rhithrealiti.

Roedd ymchwil Nigel yn canolbwyntio ar ddefnyddio graffeg gyfrifiadurol, rhithrealiti, ac offerynnau haptig (adborth gorfodol a dyfeisiau diriaethol eraill) i greu systemau hyfforddi meddygol rhyngweithiol. Cydweithiodd ag ysbytai lleol, athrawon yn Imperial College London a Phrifysgol Lerpwl i enwi dim ond rhai. Cafodd ymrwymiad Nigel i ymchwil feddygol, a’r datblygiadau a wnaethpwyd ganddo yn y maes hwnnw, eu cydnabod yn 2006, a bu i Nigel dderbyn Gwobr Satava, a ddyfernir i “unigolyn neu grŵp ymchwil sy'n dangos ymrwymiad eithriadol i wella gofal iechyd trwy dechnoleg uwch”. Roedd gwaith Nigel mewn hapteg a graffeg feddygol yn torri tir newydd ac enillodd lawer o wobrau. Datblygodd Nigel a’i gydweithwyr y system ImaGINe-S: Imaging Guided Interventional Needle Simulation, sef system i hyfforddi ymarferwyr mewn gweithdrefnau penodol ar gyfer gosod nodwyddau, a dyfarnwyd yr ail wobr i Nigel a’i gyd-ymchwilwyr am y gwaith hwnnw yng Ngwobr Eurographics Dirk Bartz yn 2009. Bu Nigel hefyd yn gadeirydd pwyllgor dyfarnu Gwobr Dirk Bartz am nifer o flynyddoedd. Roedd ei waith yn cynnwys Efelychydd Nodwydd Ymyriadol dan Arweiniad Delweddau, Pigiadau Nodwyddau dan Arweiniad Uwchsain, delweddu cyfaint 3D mewn theatrau llawdriniaethol, Realiti Estynedig ar gyfer Addysg Anatomegol, Efelychu Techneg Seldinger, ac Amgylchedd Rhithwir ar gyfer Sgiliau Rygbi.

Helpodd Nigel i sefydlu Sefydliad Ymchwil Cyfrifiadureg Gweledol Cymru Gyfan, a bu’n gyfarwyddwr y sefydliad hwnnw rhwng 2007-2015. Cydweithrediad oedd y sefydliad rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe, a sbardunodd hynny lawer o gydweithrediadau eraill o’r fath mewn Cyfrifiadura Perfformiad Uchel ac uwchgyfrifiadura ledled Cymru. Mae gwaddol y cydweithrediadau hyn yn parhau, gan gynnwys ym meysydd dadansoddi data, Deallusrwydd Artiffisial, delweddu a chyfrifiadureg gweledol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Deithio Churchill i Nigel yn 2013, a galluogodd hynny iddo wneud taith ymchwil estynedig i Awstralia a Singapore, gan ymchwilio ac ymweld ag ysbytai a oedd yn datblygu dyfeisiau hyfforddi meddygol rhithwir ac offer graffeg cyfrifiadurol addysgol.

Fe wnaeth ymrwymiad parhaus Nigel i'r gymuned ymchwil, a'i gysylltiad ag Eurographics, barhau tra bu ym Mangor. Bu’n gyd-gadeirydd cynhadledd Eurographics 2008, a gynhaliwyd yn Creta, a chwaraeodd ran allweddol wrth ddod â chynhadledd flynyddol Eurographics i’r Deyrnas Unedig (am y tro cyntaf yn 2001, pan oedd ym Manceinion) ond yn arbennig yn 2011, pan ddaeth cynhadledd Eurographics i Fangor a’i chynnal yn Venue Cymru, Llandudno, lle bu’r Athro Roberts yn arwain y gynhadledd fel cadeirydd cyffredinol.  Daeth Nigel yn Gymrawd Eurographics yn 2009 ac fe’i hetholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (academi genedlaethol y celfyddydau a’r gwyddorau) yn 2014. 

Symudodd Nigel i Brifysgol Caer yn 2015, lle parhaodd i fod yn weithgar gydag Eurographics, a daeth â chyfres o weithdai Cyfrifiadureg Gweledol ar gyfer Bioleg a Meddygaeth (VCBM) i Gaer yn 2015. Dyfarnwyd doethuriaeth uwch i Nigel gan Brifysgol Caer yn 2021, a chafodd ei chyflwyno iddo yn 2022.

Roedd Nigel yn seiclwr brwd ac yn gefnogwr eiddgar o dîm rygbi’r undeb Cymru a thîm rhanbarthol y Gweilch. Roedd wrth ei fodd â phinbel, snwcer, gemau bwrdd, hedfan barcud a ffuglen wyddonol. Roedd yn chwaraewr Petanque brwd, gan wahodd eraill i chwarae gydag ef.

Dywedodd yr Athro Jonathan C. Roberts (athro mewn delweddu) “Byddaf yn gweld colli Nigel. Roedd nid yn unig yn ffrind gwych, ond roedd hefyd yn gydweithiwr ymchwil annwyl. Roeddwn yn adnabod Nigel i ddechrau trwy fynychu cynadleddau Eurographics, a chwaraeodd ran allweddol wrth ddylanwadu ar fy newis i ddod i Fangor. Roedd yn garedig ac yn hael, bob amser yn annog pobl eraill, a bob amser eisiau helpu eraill i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u diddordebau eu hunain.”

Cynhelir angladd yr Athro Nigel John DSc FEG FLSW ddydd Gwener 10 Tachwedd. Bydd y gwasanaeth angladd am 2pm yn Amlosgfa Blacon, Caer CH1 5BB i deulu, ffrindiau agos a chydweithwyr academaidd, ac yna cynhelir gwasanaeth diolchgarwch am 2:45pm yn eglwys All Saints, 91 Hoole Road, Caer CH2 3HZ gyda lluniaeth wedi hynny.

Blodau gan y teulu’n unig, rhoddion i anrhydeddu gwaith Nigel fel llywodraethwr ysgolion i’r Chester Schools Christian Work (https://www.cscw.org.uk/).
 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?