Xray background image

Datblygu Efelychiadau Pelydr-X: Iwan Mitchell yn Ennill Gwobr Effaith CoSeC

Mae Iwan Mitchell, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Effaith CoSeC 2023 am ei waith ar efelychu a delweddu pelydrau-X. Dyfarnwyd y wobr yn y cyfarfod cyntaf ar gyfer defnyddwyr CIL a drefnwyd gan CCPi, ac fe’i cyflwynwyd gan Gyfarwyddwr CoSeC, Dr Barbara Montanari. 

Yn ystod cyfarfod cyntaf defnyddwyr Core Imaging Library (CIL), a drefnwyd gan CCPi (The Collaborative Computational Project in Tomographic Imaging), dyfarnwyd Gwobr Effaith y Computational Science Centre for Research Communities (CoSeC) 2023 i Iwan Mitchell o Brifysgol Bangor am ei waith arloesol ym maes cyfrifiadura gwyddonol. Fframwaith cod agored Python yw CIL ar gyfer delweddu tomograffig gyda phwyslais arbennig ar ail-greu setiau data heriol. Roedd y seremoni wobrwyo, a arweiniwyd gan Dr Barbara Montanari, sef Cyfarwyddwr CoSeC, yn rhan o ddiwrnod a neilltuwyd i rannu mewnwelediadau a datblygiadau yn y maes delweddu cyfrifiannol. Yn ddiweddarach yr un diwrnod, cafodd Iwan gyfle i gyflwyno ei waith, “Creating Functional Digital Shadows of X-ray Systems”, i’r gynulleidfa. Yn y sgwrs esboniodd gymhlethdodau Tomograffeg Gyfrifiadurol Pelydr-X (XCT).

Mae Iwan Mitchell yn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor, ac mae’n cael ei ariannu gan yr UKRI Centre for Doctoral Training in Artificial Intelligence, Machine Learning and Advanced Computing (AIMLAC). Mae ymchwil Mitchell yn canolbwyntio ar ddatblygu algorithmau a systemau cyfrifiadurol arloesol mewn tomograffeg gyfrifiadurol pelydr-X (XCT) ac mae wedi bod yn ymchwilio i dechnegau cysgodi ar gyfer XCT, gyda'r nod o ail-greu sganwyr pelydr-X yn rhithiol, gan gynnwys eu hymddygiad a'u diffygion. Mae ei waith yn hanfodol i oresgyn yr heriau a gyflwynir gan ddulliau efelychu pelydr-X cyfrifiadurol traddodiadol, sy'n cymryd llawer o amser ac sy'n aml yn gofyn am feddalwedd ddrud. Aeth ati i greu WebCT, sef meddalwedd porwr gwe hawdd ei defnyddio sy’n efelychu ac ail-greu pelydr-X ac sy’n darparu rhyngwyneb mwy hygyrch i ymchwilwyr, gan leihau'r rhwystrau i fynediad i faes profion annistrywiol pelydr-X (NDT). 

Mae effaith ymchwil Mitchell yn ymestyn y tu hwnt i hyfforddiant a chwestiynau dichonoldeb. Trwy gynhyrchu Efeilliaid Digidol o sganwyr XCT diwydiannol, mae wedi agor y porth ar gyfer rhaglenni Dysgu Peirianyddol wrth optimeiddio dylunio gweithgynhyrchu. Mae Gefeilliaid Digidol, ynghyd â llyfrgell feddalwedd gVirtualXRay (gVXR) a CIL y CCPi, yn galluogi creu setiau data tomograffig mewn eiliadau, gan hwyluso hyfforddiant modelau Dysgu Peirianyddol ar gyfer canfod diffygion ac optimeiddio gweithgynhyrchu. 

Dywedodd Dr Franck Vidal (cyn Ddarllenydd ym Mhrifysgol Bangor a Gwyddonydd yn y Science and Technology Facilities Council), gan gydnabod cyflawniad Mitchell,

Mae ymroddiad Iwan a’r hyn y mae wedi’i gyflawni yn enghraifft o ysbryd Gwobr Effaith CoSeC. Mae ei waith nid yn unig yn gwthio ffiniau cyfrifiadura gwyddonol ond hefyd yn llawn addewid aruthrol ar gyfer dyfodol delweddu pelydr-X. Hoffem longyfarch Iwan am yr anrhydedd haeddiannol hon ac edrychwn ymlaen at weld effaith barhaus ei gyfraniadau yn y gymuned wyddonol.

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?