The delegates who attended this annual technical meeting outside Neuadd Reichel. (15.06.2023)

Ysgol yn Cynnal Digwayddiad ydweithredol Mewn Hydroleg Thermol Niwclear

Ysgol yn cynnal Grŵp Diddordeb Arbennig a Phroject Cyfrifiadurol Cydweithredol mewn Hydroleg Thermol Niwclear

Yn gynharach y mis hwn, cafodd y Sefydliad Dyfodol Niwclear (NFI) y fraint o gynnal cyfarfodydd technegol blynyddol Grŵp Diddordeb Arbennig Rhwydwaith Hylifau'r Deyrnas Unedig mewn Hydroleg Thermol Niwclear, a'r Project Cyfrifiadurol Cydweithredol ar gyfer Hydroleg Thermol Niwclear. Yn y digwyddiad, cafodd nifer o ymchwilwyr academaidd a diwydiannol gyfle gwych i gyflwyno a thrafod eu hymchwil, eu cynlluniau a’r uchelgeisiau sydd ganddynt i fynd i’r afael â’r heriau pwysicaf mewn ymchwil hydrolig thermol niwclear (NTH).

Brynhawn Iau, 15 Mehefin 2023, agorodd Dr Marat Margulis o Brifysgol Bangor y cyfarfod i groesawu’r 50 o gynrychiolwyr a oedd yn bresennol i Neuadd Reichel. Roedd Neuadd Reichel yn lleoliad gwych ar gyfer y digwyddiad. Yn y sesiwn dechnegol gyntaf hon, cafodd y cynrychiolwyr eu swyno gan sgyrsiau syfrdanol yn nigwyddiad grŵp Diddordeb Arbennig Cymwysiadau Thermol Niwclear (SIG/CCP-NTH). Cafwyd sgyrsiau hynod ddiddorol gan ymchwilwyr o MIT, Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Manceinion ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys; astudiaethau dirgryniad a achosir gan lif ac efelychiadau oerydd plwm. Ar ôl egwyl fer am goffi, dechreuodd yr ail sesiwn dechnegol â ffocws cychwynnol ar ddefnyddio ymchwil cyfrifiadurol gyda CHAPsim ((A CHannel And Pipe flow simulation solver, ar gyfer efelychu llif a throsglwyddo gwres), a chyflwyniadau wedyn ar efelychiadau mawr o dargedau yn y Ffynhonnell Niwtron ISIS ac o jetiau heliwm poeth.

Yna daeth sesiynau technegol y diwrnod cyntaf i ben gyda dau gyflwyniad gan Brifysgol Bangor. Roedd y cyflwyniad cyntaf gan Dr. Walter Villanueva, a gyflwynodd gyfleuster BULLET Sefydliad y Dyfodol Niwclear. BULLET yw Dolen Arweiniol Prifysgol Bangor ar gyfer Profion Erydu/Cydrydiad. Mae'n gyfleuster ymchwil a fydd yn profi deunyddiau mewn plwm sy'n llifo, ar dymheredd uchel, (Pb). Fe'i defnyddir i asesu sut mae deunyddiau, fel y rhai sy'n cynnwys cydrannau o danwydd niwclear, yn ymddwyn mewn oeryddion adweithydd cyflym wedi'u hoeri â phlwm a chydrannau ar gyfer gweithfeydd pŵer ymasiad niwclear. Cafwyd yr ail sgwrs gan y myfyriwr PhD Harvey Plows, a fu’n trafod nodweddion llif seiliedig ar gratio Bragg ffibr.

Yna, ymneilltuodd y cynrychiolwyr am gyfnod byr i'w gwestai cyn ailymgynnull yn Neuadd Reichel am swper hynod bleserus; a agorwyd gan Is-Ganghellor y Brifysgol. Yn ystod y cinio cafwyd sgwrs hudolus gan yr Athro em Horst-Michael Prasser, Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, am yr amrywiol gymwysiadau niwclear-thermol, a ffocws penodol ar synwyryddion rhwyll wifrog.

Drannoeth, dechreuodd sesiwn dechnegol olaf y cyfarfod. Dechreuodd honno gyda chyflwyniad a oedd yn ymchwilio i fodelau cyfryngau mandyllog o nodweddion hydrolig thermol cyfnewidwyr gwres. Yna, bu'r sesiwn dechnegol yn canolbwyntio ar gyflwyniadau gan sefydliadau niwclear diwydiannol, megis; Rolls-Royce Submarines, EDF R&D UK, Frazer-Nash Consultancy Ltd a'r Labordy Niwclear Cenedlaethol. Bu’r sgyrsiau hynny’n archwilio ymchwil parhaus y sefydliadau hynny, ac yn nodi eu huchelgeisiau ar gyfer cyfeiriad ymchwil hydroleg thermol niwclear (NTH) at y dyfodol. Roedd pwyslais ar yr angen am ffocws academaidd a diwydiannol ar broblemau heriol allweddol.

Ar ôl y sesiwn dechnegol olaf, daeth y cyfarfod i ben gyda thrafodaeth ar ffurf panel i drafod rôl cydgynhyrchu niwclear at y dyfodol. Yn y panel, o dan gadeiryddiaeth Dr Michael Rushton o Brifysgol Bangor, cafwyd trafodaeth fywiog ymhlith aelodau’r panel: Dr Mike Bluck, yr Athro Em Horst-Michael Prasser, Richard Underhill, Dr Steve Graham, a'r Athro Christos Markides. Ymhlith pynciau eraill, bu'r panel yn trafod ymarferoldeb cynlluniau gwresogi ardal niwclear a chynlluniau adweithyddion tymheredd uchel a oerir â nwy - gan ganolbwyntio'n bennaf ar eu haddasrwydd i effeithio ar ddyfodol uchelgeisiau ynni niwclear y Deyrnas Unedig.

Yn olaf, ar ôl y cyfarfod, trefnodd yr NFI goets fawr i gludo'r cynrychiolwyr o Neuadd Reichel i Barc Gwyddoniaeth Menai (M-Sparc) y Brifysgol; yn y Gaerwen ar Ynys Môn. Yno aeth y cynrychiolwyr ar daith o amgylch Cyfleuster Ymchwil Mynediad Agored Hydroleg Thermol (THOR) y Fenter, a chyfleusterau BULLET, a gwelsant arddangosiad o nodweddu llif amlgyfran gyda synhwyrydd rhwyll wifrog. Yn arddangos, yn y fan a’r lle, y galluoedd ymchwil NTH trawiadol a sefydlwyd ym Mhrifysgol Bangor gan yr NFI.

Diolch i bawb a fu’n bresennol, ac a gyflwynodd, ac a helpodd i drefnu’r digwyddiad. Gobeithiwn y cawsoch ymweliad difyr ac addysgiadol; ni fuasai’n llwyddiant heboch chi.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?