Athro yn dangos cefnogaeth i Wcráin mewn digwyddiad cymunedol
Mae’r brifysgol yn Wcráin sy’n bartner i Brifysgol Bangor wedi canmol y berthynas gynyddol rhwng y ddau sefydliad.
Yn ddiweddar, bu’r Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, i gynrychioli’r Brifysgol mewn digwyddiad yn Church Stretton, Swydd Amwythig, lle daeth trigolion ynghyd i gefnogi digwyddiad ac iddo’r teitl ‘Support Ukraine – Sign the Flag of Hope’. Cafodd y cyfranwyr eu gwahodd i ysgrifennu negeseuon o gydsafiad â phobl Okhtyrka, yn rhanbarth Sumy yn Wcráin, a hynny ar faner ac iddi hanes nodedig.
Roedd y faner hon yn cwhwfan yn Okhtyrka ar y diwrnod y cafodd y ddinas ei goresgyn gan luoedd Rwsia, cyn i offeiriad lleol beryglu ei fywyd i achub y faner a'i chuddio. Nawr, mae arni gannoedd o negeseuon sydd wedi eu hysgrifennu gan bobl o’r Deyrnas Unedig ac, yn o fuan, bydd y faner yn dychwelyd i Okhtyrka.
Trefnwyd y digwyddiad gan grŵp gwirfoddol o’r enw Strettons Ukraine Relief Effort, sydd wedi bod yn darparu cymorth dyngarol i Wcráin ers 2022.
Ychwanegodd Christian y neges “Slava Ukraini!”, i gyfleu partneriaeth barhaus Prifysgol Bangor â Phrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi drwy’r Fenter Gefeillio rhwng y Deyrnas Unedig ac Wcráin.


Yn gynharach eleni aeth Christian ar ymweliad i Brifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi i gydweithio ar broject ymchwil gydag ymchwilwyr yno, a gwneud rhaglen ddogfen i'r BBC.
Gan ddiolch i Christian am ei gefnogaeth, dywedodd yr Athro Kateryna Skyba, Is-Reithor Gwaith Gwyddonol a Phedagogaidd ym Mhrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi, “Mae’r weithred hon o gydsafiad yn tynnu sylw at sut mae’r bartneriaeth rhwng ein prifysgolion yn datblygu’n gyfeillgarwch ehangach, gan uno cymunedau ar draws ffiniau. Mae hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus partneriaid yn y Deyrnas Unedig i gefnogi Wcráin yn ei brwydr dros ryddid.”
Meddai Christian, "Un o Swydd Amwythig ydw i, felly roedd hi'n braf iawn cael mynychu digwyddiad yn fy sir enedigol a oedd yn cysylltu Wcráin a Bangor. Roedd yn brofiad bythgofiadwy ymweld â Wcráin tra oedd y rhyfel yn mynd rhagddo, a bythgofiadwy hefyd oedd cyfeillgarwch ein cydweithwyr ym Mhrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi. Mae gan ein prifysgolion ni lawer o bethau’n gyffredin, a dwi'n teimlo’n wirioneddol gyffrous am gael datblygu ar ein cryfderau ymchwil gyda'n gilydd."
Ychwanegodd yr Athro Oliver Turnbull, Is-brofost (Ymgysylltu Byd-eang), "Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi yn berthynas sy’n golygu llawer iawn i ni ym Mangor, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y blynyddoedd nesaf - wrth i ni barhau i gydsefyll a phobl Wcráin!"