Fodd bynnag, mae rhai o'r mathau basmati hyn wedi profi'n israddol i’r hyn a ddisgwylir ar y farchnad, gan golli'r arogl tebyg i bobcorn sy'n gwneud basmati mor werthfawr.
Mae ymgyrch Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) sy’n ymchwilio i ddosbarthu a gwerthu reis basmati mewn deunydd pecynnu ffug wedi arwain at arestio pedwar o bobl. Canfu nifer fawr o fagiau 10kg a 20kg o reis cymysg mewn deunydd pecynnu basmati brand premiwm ffug fel rhan o’r ymgyrch.
Mae gan y DU reolwyr llym ar ansawdd a dilysrwydd ar gyfer reis basmati, sydd wedi eu gosod yn 'Cod Ymarfer Basmati', set o safonau sy'n cael eu gorfodi'n gyfreithiol a ddatblygwyd ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Chymdeithas y Reis, y corff masnach sy'n cynrychioli sector reis y DU.
Dywedodd pennaeth materion technegol a rheoleiddiol y Gymdeithas Reis, Joe Brennan:
“Mae’n dda gweld bod Cod Ymarfer Reis Basmati yn cael eu gorfodi yn barhaus. Ochr yn ochr ag arolygon rheolaidd y diwydiant mae hyn yn sicrhau pan fydd defnyddwyr y DU yn prynu reis basmati eu bod yn cael cynnyrch dilys.”
Mae'r cod yn nodi gofynion ansawdd ffisegol ac arogl sydd rhaid i reis eu cyrraedd i gael eu hystyried fel reis basmati. Caiff reis eu profi am ddilysrwydd DNA gan labordai achrededig. Rhaid tyfu reis Basmati yn India a Phacistan.
Un o amodau’r aelodaeth Gymdeithas Reis yw cynnal safonau'r diwydiant, fel glynu wrth God Ymarfer Basmati. Cymerir y gofyniad hwn o ddifrif ac ymchwilir i ymholiadau defnyddwyr.
“Os oes gan ddefnyddwyr bryderon nad yw reis basmati yn ddilys neu’n bodloni safonau ansawdd, rydym yn argymell eu bod yn cysylltu â pherchennog y brand neu'r Gymdeithas y Reis” ychwanega Joe.
Mae Dr Katherine Steele, Darllenydd mewn Cynhyrchu Cnydau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn ddylanwadol wrth greu'r dull presennol o brofi DNA i ddilysu gwahanol amrywiadau o reis, gan gynnwys reis basmati, meddai:
“Mae reis yn gynnyrch pwysig, sydd â chymaint o amrywiaeth fel ei bod hi’n hanfodol cynnal ansawdd cynnyrch premiwm y farchnad. Mae gan ddulliau DNA rôl bwysig ar gyfer gorfodi safonau.”
