Gwyddonydd hinsawdd yn ymuno â rhestr o weithwyr proffesiynol amgylcheddol mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig
Mae gwyddonydd hinsawdd o Brifysgol Bangor wedi'i gynnwys ar restr o'r 100 o weithwyr proffesiynol amgylcheddol mwyaf dylanwadol yn y Deyrnas Unedig.
Mae Dr Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, wedi'i enwi ar Restr Pŵer ENDS Report 2025 diolch i’w waith yn llunio'r wyddoniaeth ar faterion amgylcheddol.
Mae unigolion sy'n cyrraedd y rhestr fawreddog yn cael eu henwebu gan eu cydweithwyr, eu cleientiaid a'u cystadleuwyr.
Mae ei waith arloesol yn disgrifio effeithiau cynhesu hinsawdd ar lynnoedd ledled y byd, gan gynnwys newidiadau mewn amseru tymhorol, haenu, gorchudd iâ a thonnau gwres.
Mae’n pontio eigioneg (astudiaeth wyddonol o'r cefnfor) a llynoleg (astudiaeth o ecosystemau dyfrol mewndirol megis afonydd a llynnoedd), ac yn defnyddio dulliau arloesol i archwilio effeithiau newid hinsawdd ar ddyfroedd naturiol.
Mae ymchwil Dr Woolway, yn enwedig ar donnau gwres mewn llynnoedd, dadocsigeneiddio, a chyflymder newid hinsawdd, wedi peri i wyddonwyr edrych o’r newydd ar ganlyniadau ffisegol ac ecolegol newid hinsawdd ar systemau dŵr croyw.
Cylchgrawn arbenigol ar gyfer gweithwyr proffesiynol amgylcheddol yw ENDS Report, sy'n darparu newyddion, dadansoddiadau a chyfeiriadau ar draws yr agenda carbon, amgylcheddol a chynaliadwyedd.
Dywedodd Dr Iestyn Woolway, “Rwyf wrth fy modd o gael fy enwi ar Restr Bŵer ENDS Report 2025. Yn wyneb newid hinsawdd, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar hyrwyddo dealltwriaeth wyddonol o ecosystemau dŵr croyw. Mae'r maes ymchwil hwn yn dod yn fwyfwy hanfodol o ran cynaliadwyedd ein planed.”
Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, “Llongyfarchiadau mawr i Iestyn ar dderbyn y gydnabyddiaeth hon am ei gyfraniadau eithriadol i wyddoniaeth hinsawdd.
“Mae’n arloeswr ym maes llynoleg, ac yn ogystal â hynny, mae wedi dangos ymrwymiad i fentora gwyddonwyr dyfrol sydd ar ddechrau eu gyrfa.
“Diolch i’w ymchwil arloesol a dylanwadol, rydym yn datblygu ein dealltwriaeth o effaith newid hinsawdd ar systemau dŵr croyw.”