Learned Society of Wales logo on white background

Tri academydd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Llongyfarchiadau i fy nghydweithwyr ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon o'u cyfraniadau i'r byd academaidd a'r gymdeithas. Fel Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, mae'n anrhydedd i mi fod yn rhan o grŵp hynod nodedig sy'n cynrychioli pinacl llwyddiannau academaidd, diwylliannol a dinesig Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at genhadaeth y Gymdeithas o ysgogi ymchwil ac arbenigedd er mwyn gwella cymdeithas Cymru a thu hwnt.

Yr Athro Edmund Burke,  Is-ganghellor

Rwy'n falch iawn o gael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Edrychaf ymlaen at gefnogi cyfraniad hanfodol y Gymdeithas i fywyd a dysg Cymru, yn enwedig yn y sectorau celfyddydol a chreadigol.

Yr Athro Andrew Lewis,  Athro mewn Cyfansoddi

Mae cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gymaint o anrhydedd, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn annog genethod a merched, a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac sydd eisiau dilyn gwyddoniaeth, i wneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr y Gymdeithas i amrywiaethu cymuned academaidd Cymru, a thrwy hynny, cyfoethogi ein trafodaethau a'n cyflawniadau.

Yr Athro Yueng-Djern Lenn,  Athro mewn Eigioneg Ffisegol

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010, ac mae’n tynnu ar gryfderau sylweddol o bron i 700 o Gymrodyr nodedig yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Drwy ddod â’r Cymrodyr mwyaf llwyddiannus a thalentog sy’n gysylltiedig â Chymru at ei gilydd, mae’r Gymdeithas Ddysgedig yn cyfrannu at ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, gan ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i’r Llywodraeth.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?