Person yn gweithio mewn labordy biodechnoleg

£13 miliwn ar gyfer ymchwil biotechnoleg i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol

Mae'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB) ym Mhrifysgol Bangor yn rhan o ganolfan ymchwil newydd, y cyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig, sy'n cael ei sefydlu i wella a datblygu galluoedd naturiol micro-organebau i lanhau’r blaned.

Mae rhwydwaith y Ganolfan Arloesi Biotechnoleg Amgylcheddol yn agor llwybrau ymchwil newydd gwerthfawr ar gyfer targedu llygryddion penodol i’w bioddiraddio. Bydd y project yn ei gyfanrwydd yn darparu atebion arloesol ar gyfer gwella arferion rheoli gwastraff a dŵr gwastraff, a bydd yn gwella'r potensial ar gyfer adfer adnoddau, lleihau'r gwastraff a gynhyrchir ac arwain at arferion mwy cynaliadwy ac effeithlon.

 

Yr Athro Peter Golyshin, Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol,  Arweinydd y gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Bangor
“Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o sicrhau bod ein Prifysgol yn un o’r deg sefydliad mwyaf blaenllaw yn y DU sy’n ffurfio’r Ganolfan Arloesi Biotechnoleg Amgylcheddol (EBIC). Bydd sefydlu’r ganolfan ymchwil flaengar hon yn gwella gallu’r Brifysgol i gydweithio ag arbenigwyr biotechnoleg haen uchaf o bob rhan o’r DU, gan godi proffil ein gwaith helaeth yn y maes hwn ac yn rhoi cyfle i ni gyfrannu ein harbenigedd er mwyn dod o hyd i atebion i’r her amgylcheddol o wastraff plastig.”

 

Yr Athro Paul Spencer,  Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil)

Mwy o wybodaeth am gronfa Technology Missions yr UKRI

Bwriad cronfa Technology Missions yr UKRI yw ecsbloetio blaengaredd byd-eang y Deyrnas Unedig ym maes technolegau trawsnewidiol i helpu i ddatrys problemau penodol, a chadarnhau'r blaengaredd hwnnw.  Yn gyffredinol, mae’r UKRI yn buddsoddi £250 miliwn yn y ‘Technology Missions’ hyn i alluogi gallu a chapasiti presennol a newydd mewn deallusrwydd artiffisial, technolegau cwantwm a bioleg peirianyddol yn 2023-2025 a thu hwnt.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?