Pwy sydd angen cyflwyno cais moeseg drwy'r system Foeseg?
Os yw eich project yn cynnwys casglu data gwreiddiol gan bobl neu anifeiliaid, mae angen cymeradwyaeth foesegol gan un o'r ddau bwyllgor moeseg ymchwil academaidd (PMYA) yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, pwyllgor moeseg ymchwil academaidd yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon neu bwyllgor moeseg ymchwil academaidd y Gwyddorau Meddygol ac Iechyd. Mae hyn yn berthnasol i’r holl staff a myfyrwyr (israddedigion ac ôl-raddedigion).
Os ydych ond yn defnyddio data eilaidd sydd ar gael i'r cyhoedd, h.y. data sydd wedi'i gasglu gan rywun arall, data cyfrifiad, ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid, dogfennau o archifau cenedlaethol, heb unrhyw gyfranogiad dynol na data personol adnabyddadwy, yna NI DDYLAI fod arnoch angen cymeradwyaeth foesegol. Fodd bynnag, o safbwynt llywodraethu ymchwil, hoffem gadw copi o'ch protocol methodolegol llawn ar y gronfa ddata moeseg. Anfonwch y ddogfen i'r blwch post moeseg a rennir comh.ethics@bangor.ac.uk .
Sut mae cyflwyno cais moeseg?
Bydd angen gwneud pob cais moeseg ymchwil newydd drwy system Infonetica. Y cam cyntaf yw darllen y dogfennau canlynol yn ofalus:
Ar ôl i chi ddarllen y dogfennau, bydd angen i chi'ch hun neu'ch goruchwyliwr gyflwyno cais drwy wefan Infonetica.
Gwybodaeth i Fyfyrwyr Israddedig a Myfyrwyr Ôl-radd Hyfforddedig sy’n Gwneud Cais
Os ydych yn fyfyriwr israddedig neu'n fyfyriwr ôl-radd hyfforddedig, rhaid i'ch goruchwyliwr greu a chyflwyno eich cais moeseg. Rhaid i'r goruchwyliwr eich rhestru fel cyd-ymchwilydd.
Neu gall eich goruchwyliwr ddewis pennu rôl i chi sy’n caniatáu i chi gydweithio i lenwi'r ffurflen. Bydd angen i'r goruchwyliwr greu cais newydd yn gyntaf, nodi teitl, ac yna pennu rôl i chi a gadael i chi ei lenwi. Yna bydd y goruchwyliwr yn dod i mewn ar y diwedd ac yn llofnodi’r cais i ganiatáu iddo gael ei gyflwyno.
Os yw eich goruchwyliwr yn dymuno, gallant wneud y cyflwyniad cyfan eu hunain ar eich rhan. Byddwch yn dal i allu gweld y cais oherwydd byddwch wedi'ch rhestru fel cyd-ymchwilydd a bydd angen i chi lofnodi'r ffurflen cyn y gellir ei chyflwyno.
Gwybodaeth i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd sy’n Gwneud Cais
Bydd angen cyflwyno pob project newydd sydd angen adolygiad moeseg yma: Safle ymgeisydd Infonetica. Mewngofnodwch i’r system trwy Fewngofnodi Sengl (SSO) gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Microsoft yn y Brifysgol a Dilysu Amlffactor (MFA). Os na allwch fewngofnodi cysylltwch â’r Ddesg Gymorth: desg-gymorth@bangor.ac.uk
Hyfforddiant
Mae sleidiau hyfforddi ar sut i lywio a defnyddio'r platfform i'w gweld ar y wefan ei hun o dan Help > Help.
Mae recordiadau a sleidiau o’r sesiynau hyfforddi i Ymgeiswyr ac Adolygwyr hefyd ar gael yn adran ‘Help’ pob porth.
Yn ogystal, mae dolenni at y pyrth a'r sleidiau ar gael trwy Dudalen RM Moeseg Gwasanaethau Digidol Infonetica.
Os mai chi yw'r un sy'n cyflwyno cais, mae’n rhaid i chi restru eich goruchwyliwr fel cyd-ymchwilydd. Gallwch hefyd bennu rôl i’ch goruchwyliwr sy’n caniatáu iddynt gydweithio i lenwi'r ffurflen.
Gallwch ddod o hyd i dempled o'r cwestiynau a ofynnir i chi ar y wefan yma. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi drafod hyn gyda'ch goruchwyliwr cyn cyflwyno cais. Bydd y wefan yn gadael i chi hepgor yr adrannau nad ydynt yn berthnasol.
Gwybodaeth i Staff sy’n Gwneud Cais
Bydd angen cyflwyno pob project newydd sydd angen adolygiad moeseg yma: Safle ymgeisydd Infonetica. Mae sleidiau hyfforddi ar sut i lywio a defnyddio'r platfform i'w gweld ar y wefan ei hun o dan Help > Help. Os bydd arnoch angen cymorth pellach, gallwch gysylltu â gweinyddwr Infonetica y Coleg drwy e-bostio d.dingeo@bangor.ac.uk
Faint o amser mae'n ei gymryd cyn y bydd project yn cael ei gymeradwyo?
Dylai cymeradwyaeth drwy system Infonetica gymryd hyd at 30 diwrnod, er ein bod yn ymdrechu i gymeradwyo projectau llai manwl o fewn cyfnod byrrach. Yn achos projectau sensitif y mae angen eu hystyried ar lefel prifysgol, gall y broses gymryd hyd yn oed yn hirach.
Ymchwil Sensitif
Mae Prifysgol Bangor yn cefnogi'i hymchwilwyr wrth ymgymryd ag ymchwil dilys gan ddefnyddio deunydd sensitif. Fel rhan o’r gefnogaeth honno, mae'n cydnabod y cyfrifoldeb sydd arni i sicrhau y caiff yr ymchwilwyr eu diogelu rhag camddehongli eu bwriadau gan yr awdurdodau, a allai arwain at sancsiynau cyfreithiol. Mae felly’n hanfodol fod y Brifysgol yn ymwybodol o waith ymchwil o'r fath, ac yn ei awdurdodi drwy'r prosesau moesegol priodol, cyn i'r gwaith ymchwil ddechrau, gan ganiatáu felly i'r Brifysgol ddangos ei bod yn ymwybodol o'r project a'i fod wedi bod drwy'r broses adolygu briodol. Os ydych yn ansicr a yw eich ymchwil yn cyfrif fel “ymchwil sensitif” ond yn meddwl y gallai wneud, cysylltwch â chadeirydd y pwyllgor moeseg ymchwil academaidd mwyaf priodol (yr un ar gyfer eich ysgol) a thrafod hynny â nhw.
- Gweithdrefn ar gyfer Cymeradwyo a Chofrestru Projectau Ymchwil Sensitif
- Proses Lles Anifeiliaid ac Adolygu Moesegol
Nawdd
O dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig, mae’n ofynnol i astudiaethau meddygol neu astudiaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd sy’n cynnwys cleifion y GIG neu eu teuluoedd, adeiladau, adnoddau, data’r GIG neu feinwe ddynol fynd gerbron pwyllgor moeseg ymchwil y GIG o dan brosesau cymeradwyo Gofal Ymchwil Iechyd/Ymchwil Gofal Iechyd Cymru/yr Awdurdod Ymchwil Iechyd. Gweler Fframwaith Polisi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Deyrnas Unedig. Mae'r un peth yn wir am rai mathau eraill o astudiaethau, megis y rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion ledled Cymru a Lloegr, unigolion o dan y gwasanaethau prawf neu garchardai, y defnydd o ddyfeisiadau meddygol, ymbelydredd ïoneiddio neu ymyriadau genetig penodol. O dan y system hon, wrth gyflwyno astudiaeth i Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG neu Ofal Cymdeithasol drwy'r System Ceisiadau Ymchwil Integredig (IRAS) yn gyntaf mae'n ofynnol i'r brifysgol ymgymryd â'r swyddogaeth o fod yn 'noddwr' yr astudiaeth. Mae noddwyr astudiaethau yn gyfrifol am gynnal a chwblhau astudiaeth yn briodol yn unol â gofynion cyfreithiol a safonau ymarfer da (gan gynnwys unrhyw fesurau a nodir gan adolygiad moeseg ymchwil).
I wirio a oes arnoch angen cymeradwyaeth moeseg ymchwil y GIG ac a oes arnoch angen nawdd, defnyddiwch Offeryn Penderfynu ar Ymchwil yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) neu’r Pecyn Cymorth Ymchwil Myfyrwyr.
Am ragor o wybodaeth ac arweiniad ar ofynion nawdd cysylltwch â Rheolwr y Coleg, Dr Huw Roberts huw.roberts@bangor.ac.uk
Cymeradwyaeth Foesegol gan sefydliadau / cyrff eraill
Ceir lefel ychwanegol o gyfrifoldeb ac archwilio’n gysylltiedig ag ymchwil a wneir y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu sy’n cynnwys partneriaid o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, a dylai ymchwilwyr sicrhau eu bod wedi rhoi ystyriaeth lawn i unrhyw ofynion cyfreithiol a gofynion y cyrff proffesiynol perthnasol. Dylech adolygu paragraff 4.4 i 4.7 y Polisi Moeseg Ymchwil yn ofalus.
Llywodraethu Ymchwil
Hyd yn oed os na fyddwch yn cyflwyno eich project am gymeradwyaeth foesegol, mae’n ofynnol i chi hysbysu’r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon bod yr ymchwil yn cael ei wneud. Mae'r broses hon ar waith i gadarnhau nad oes angen cymeradwyaeth foesegol ar eich project.
Mae hyn yn berthnasol dim ond ar gyfer projectau sy'n cynnwys dadansoddi data eilaidd, a gyrchwyd yn gyfan gwbl o ymchwil a gyhoeddwyd yn flaenorol ac a adolygwyd gan gymheiriaid, heb unrhyw gyfranogiad dynol na data personol adnabyddadwy. Cyn dechrau’r ymchwil, lawrlwythwch y Ffurflen Gofrestru/Adolygu Project yma, ynghyd â chopi o'ch cynnig ymchwil a'ch protocol methodolegol llawn, a’u hanfon at comh.ethics@bangor.ac.uk i'w ystyried. Ceir arweiniad pellach ar ddadansoddi data eilaidd yn y Polisi Ymchwil.
Adnoddau Defnyddiol
Canllawiau Prifysgol Bangor
- Llawlyfr Gwaith Maes
- Gweithdrefnau Cymeradwyo Moeseg
- Moeseg a Moeseg Ymchwil
- Fframwaith Moeseg Ymchwil Prifysgol Bangor
- Gwybodaeth am y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
- Diogelu Data
- Cymeradwyo'r Broses Gofrestru Ymchwil Sensitif
- Polisi Rheoli Data Prifysgol Bangor
- Moeseg a’r Gymraeg
I weld Polisi Llywodraethu Ymchwil BCUHB a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, cysylltwch â;
Dr Huw Roberts huw.roberts@bangor.ac.uk.