Fy ngwlad:
Delwedd gysyniadol o adeilad newydd Ysgol Fusnes Albert Gubay

Ysgol Fusnes Albert Gubay - Ein Gweledigaeth

Grymuso'r Genhedlaeth Nesaf o Arweinwyr mewn Byd sy'n Newid

Mae Dyfodol Busnes yn Dechrau Yma

Diolch i rodd arfaethedig o £10.5m gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay, mae ysgol fusnes newydd yn dod i ogledd Cymru. Bydd y datblygiad newydd ar hen safle Ysgol Friars a bydd yn cynnwys cyfleusterau o'r radd flaenaf a bydd yn lle modern a chroesawgar i'n myfyrwyr a'n partneriaid busnes, wrth i ni addysgu a grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes.

Dod â Gweledigaeth yn Fyw: Delweddau Cysyniadol o'r Ysgol Fusnes Newydd

Edrychwch ar y cynllun arloesol a'r mannau o'r radd flaenaf a fydd yn dylanwadu ar ddyfodol dysgu.

Yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Cyfleusterau sy’n Barod at y Dyfodol

Bydd adeilad newydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn darparu amgylchedd dysgu eithriadol a phroffesiynol, gyda chyfleusterau sydd wedi eu cynllunio i ysbrydoli arloesi, cydweithio a llwyddiant.
Bydd y cyfleusterau’n cynnwys y canlynol:
  • Ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau dysgu o safon uchel
  • Ystafell fasnachu ariannol o'r radd flaenaf
  • Mannau cydweithredol gyda chyfarpar llawn
  • Mannau dysgu cymdeithasol a rhwydweithio
  • Mannau wedi eu cyfarparu ar gyfer ymchwil arloesol
  • Ystafelloedd i gynadleddau a digwyddiadau

Ym Mhrifysgol Bangor, ein nod yw grymuso cenhedlaeth o fyfyrwyr i ddilyn ôl troed Albert Gubay - nid yn unig i ddod yn arweinwyr y dyfodol, ond i dderbyn cyfrifoldeb dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol, parhaol ar y byd.

Yr Athro Bruce Vanstone,  Pennaeth yr Ysgol

Wedi ei ysbrydoli gan waddol Albert Gubay

Delwedd o'r dyn busnes, Albert Gubay

Y Gweledydd y tu ôl i'r Enw Pwy oedd Albert Gubay?

Roedd Albert Gubay yn athrylith entrepreneuraidd a adeiladodd ymerodraeth fusnes gwerth dros £700 miliwn.

O blentyndod di-nod yng Nghymru ar ôl y rhyfel, aeth o werthu melysion ar stondinau marchnad i sefydlu'r gadwyn Kwik Save Discount hynod lwyddiannus, gan ddangos grym arloesi, gwydnwch ac uchelgais.

Gwaddol mwyaf Gubay oedd ei haelioni: trwy Sefydliad Elusennol Albert Gubay, mae ei lwyddiant yn parhau i newid bywydau.

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn credu y dylai arweinwyr y dyfodol ddilyn ei esiampl; gan baru ysbryd entrepreneuraidd â chyfrifoldeb cymdeithasol, a llunio dyfodol sy'n fuddiol i fenter a chymdeithas.
 

Adeiladu Llwyddiant Gyda'n Gilydd

Lle y gall myfyrwyr ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i ragori, lle y gall busnesau ddarganfod atebion newydd a lle y gall cymunedau dyfu'n gryfach, gyda'i gilydd.

I'n myfyrwyr

Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, mae eich addysg wedi ei chynllunio o'ch amgylch chi. Bydd ein rhaglenni arloesol yn eich arfogi â'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i lwyddo mewn economi byd eang sy'n newid yn gyflym. Gyda mannau dysgu arloesol, addysgu sy’n seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf a chanolfannau cydweithredol lle rydym yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau go iawn, byddwch yn cael eich ysbrydoli i feddwl yn greadigol, mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn a datblygu meddylfryd entrepreneuraidd a fydd yn eich gwneud yn wahanol.

I’n Cymuned

Mae ein cymuned wrth wraidd popeth a wnawn. Bydd yr Ysgol Fusnes newydd yn gwasanaethu fel canolfan ar gyfer twf, cyfle a chydweithio ledled gogledd Cymru. Fel arloeswyr addysg ddwyieithog, rydym wedi ymrwymo nid yn unig i ddarparu cyfleoedd gyrfa o ansawdd uchel ond hefyd i sicrhau bod myfyrwyr a graddedigion talentog yn aros yng Nghymru, gan gryfhau ein heconomi a chyfoethogi ein diwylliant.
 

I’n Heconomi

Bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn meithrin partneriaethau ystyrlon a hirdymor gyda diwydiannau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Trwy gydweithio, gallwn greu cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr a gwaith ymchwil arloesol sy'n sbarduno twf, yn datrys heriau'r byd go iawn, ac yn darparu manteision pendant i fusnesau o bob maint.Bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn meithrin partneriaethau ystyrlon a hirdymor gyda diwydiannau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Trwy gydweithio, gallwn greu cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr a gwaith ymchwil arloesol sy'n sbarduno twf, yn datrys heriau'r byd go iawn, ac yn darparu manteision pendant i fusnesau o bob maint.