Cwestiynau Cyffredin: Cynllun Iaith y Brifysgol
1. Beth yw 'Dewis Iaith'?
Mae staff a myfyrwyr yn gallu rhoi gwybod i'r Brifysgol pa iaith y maen nhw eisiau ei defnyddio i ymwneud â'r sefydliad. Ar gyfer staff, mae'r wybodaeth yma yn Agresso. Ar gyfer myfyrwyr, mae'r wybodaeth yn Banner.
2. Oes angen i'r e-bost / llythyr fod yn ddwyieithog?
Gohebiaeth at unigolyn yng Nghymru: yn newis iaith yr unigolyn neu yn ddwyieithog os nad ydych chi'n gwybod beth yw'r dewis iaith.
At grwpiau o staff / myfyrwyr / y cyhoedd / sefydliadau yng Nghymru: yn ddwyieithog (os nad ydych chi'n sicr o ddewis iaith pob unigolyn)
3. Oes rhaid i'r deunydd marchnata fod yn ddwyieithog?
Deunydd i'w ddosbarthu yng Nghymru: yn ddwyieithog gyda'r ddwy fersiwn i fod ar gael ar yr un pryd.
4. Oes angen i'r hysbyseb ar gyfer Y Daily Post fod yn ddwyieithog?
Mae angen i bob hysbyseb yn y wasg yng Nghymru fod yn ddwyieithog, heblaw am hysbysebion mewn cyhoeddiadau Cymraeg.
5. Beth ddylai gofyn iaith y swydd yma fod?
Ystyriwch natur y swydd yn ofalus. Edrychwch ar y Cod Ymarfer ar gyfer penodi yn unol â'r Cynllun Iaith am ganllawiau pellach neu cysylltwch ag Adnoddau Dynol neu Ganolfan Bedwyr.