Cysgliad
Mae pecyn Cysgliad yn cynnwys detholiad defnyddiol o feddalwedd sy'n eich cynorthwyo i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith ac yn y cartref. Mae dwy brif raglen i'w cael ym mhecyn Cysgliad, sef:
- Cysill (sy'n gwirio sillafu a gramadeg)
- Cysgeir (sy'n eiriadur electronig defnyddiol a chynhwysfawr ar gyfer eich cyfrifiadur)
Mae'r ddwy raglen hon ar gael ar holl gyfrifiaduron Prifysgol Bangor yn syth o far offer Word ac Outlook neu drwy'r eiconau ar y bwrdd gwaith.
Mae'r pecyn hefyd ar gael i'w brynu ar gyfer eich cyfrifiadur cartref. Cysylltwch â Chanolfan Bedwyr os ydych eisiau prynu'r meddalwedd.
Am ragor o fanylion am Cysgliad, cysylltwch â gwefan Canolfan Bedwyr.