Cwestiynau Cyffredin: Gwersi Cymraeg
1. Rwyf eisiau gwella fy Nghymraeg, sut y gallaf wneud hyn?
Cysylltwch gydag Uned Datblygu Staff y Brifysgol am gyngor. Mae dosbarthiadau iaith ar gael ar bob lefel yn y Brifysgol.
Os ydych yn fyfyriwr, cysylltwch gydag adran Cymraeg i Oedolion y Brifysgol.
2. Rwyf yn gallu ysgrifennu Cymraeg yn eithaf da, ond hoffwn wella fy Nghymraeg ysgrifenedig ymhellach. Oes yna ddosbarthiadau ar gael i mi yn y Brifysgol?
Oes, mae Canolfan Bedwyr yn cynnal dosbarthiadau Gloywi Iaith wythnosol ar gyfer staff y Brifysgol. Cysylltwch gyda thiwtoriaid y Ganolfan am ragor o fanylion. Mae Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol yn cynnal dosbarth Gloywi Iaith hefyd, gall myfyrwyr fynychu'r dosbarth hwn.