Modiwl BSC-1028:
Tiwtorialau Blwyddyn 1
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Natural Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Stella Farrar
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig, sgiliau trefnu a rheoli amser, sgiliau rhyngweithio personol a sgiliau cyfathrebu syniadau a dadleuon gwyddonol. Bydd y tiwtorialau’n eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau allweddol sy’n ategu’r sgiliau academaidd a ddysgir yn y darlithoedd a’r sesiynau labordy ar eich cwrs gradd. Yn ogystal â hyn, mae tiwtorialau hefyd yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod eich tiwtor personol a’r myfyrwyr eraill ar eich cwrs.
Cynnwys cwrs
Semester Un: Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy ysgrifennu traethodau (1000-1500 o eiriau) ar bwnc sy’n berthnasol i’w cwrs gradd. Bydd cyfleoedd ar gael i dderbyn adborth ffurfiannol - cyffredinol a phenodol - cyn cyflwyno traethawd crynodol terfynol.
Semester Dau: Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar drwy roi cyflwyniad byr i amryw o gynulleidfaoedd, gan orffen gyda 'mini-gynhadledd' ar gyfer myfyrwyr o fewn rhaglenni gradd penodol.
Semester Un & Dau: Bydd myfyrwyr yn mynychu darlithoedd 'Gwyddoniaeth Boblogaidd' a roddwyd gan aelodau o'r staff academaidd. Mae'r rhain yn darparu enghreifftiau a chyfleoedd ar gyfer adfyfyrio ar y sgiliau sydd eu hangen i gyfathrebu gwyddoniaeth cymhleth, yn ogystal â rhoi cyfle fyfyrwyr i ddechrau nodi a datblygu eu diddordebau mewn agweddau penodol o'u pwnc. Bydd hyn hefyd yn caniatáu datblygu sgiliau cymryd nodiadau a nodi pwyntiau allweddol mewn darlithoedd.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+: Bydd gan fyfyriwr trothwy’r gallu sylfaenol i ateb cwestiynau trwy roi gwybodaeth berthnasol, ac i osod ei syniadau mewn rhyw fath o drefn a dangos ei fod yn deall rhywfaint ar y pwnc. Gall fod rhywfaint o gamddealltwriaeth amlwg mewn cyfathrebu ond bydd yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o'r egwyddorion. Defnyddir cyfeiriadau ond yn brin neu efallai yn dibynnu ar ffynonellau llai priodol.
ardderchog
A- i A+: Bydd myfyriwr rhagorol yn dangos dealltwriaeth gadarnach o oblygiadau’r cwestiwn y tu hwnt i’r hyn sy’n amlwg. Bydd hefyd yn gallu dangos ei fod yn deall y datblygiadau diweddaraf yn y maes (gan gynnwys y pethau sy’n cyfyngu ar y datblygiadau) a gallu cadarn iawn i feddwl yn feirniadol. Bydd cyfathrebu yn rhugl a chymalog, gyda'r gallu i ennyn diddordeb y gynulleidfa. Bydd cyfeiriadau/ffynonellau yn briodol iawn, gwyddonol, wedi eu gwerthuso'n dda a'u hymchwilio'n eang.
da
B- i B+: Bydd myfyriwr da yn gallu trefnu a chyflwyno dadl gadarn gan ddangos dealltwriaeth gadarn o’r wybodaeth y gofynnwyd amdani a dealltwriaeth o’r pwnc. Bydd cyfathrebu yn gydlynol ac yn cyfateb i'r gynulleidfa darged. Bydd cyfeiriadau/ffynonellau yn briodol, gwyddonol ac wedi'u gwerthuso'n dda.
C- i C+
C - C+: Bydd myfyriwr sydd yn ennill graddau lefel C yn dangos dealltwriaeth resymol o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani a rhywfaint o wybodaeth am y pwnc, er gyda rhai diffygion mewn manylder a chywirdeb syniadau. Gwneir ymgais resymol i gyfleu syniadau, gyda rhywfaint o dystiolaeth o ystyried y gynulleidfa darged. Bydd cyfeiriadau/ffynonellau yn briodol ond gallent fod yn gyfyngedig.
Canlyniad dysgu
-
Casglu gwybodaeth am bwnc penodol o wahanol ffynonellau, gan gynnwys llenyddiaeth wyddonol wreiddiol.
-
Datblygu sgiliau dysgu gydol oes.
-
Meithrin sgiliau datblygiad personol ym maes rheoli amser, blaenoriaethu gwaith, trefnu ac ymdopi â dyddiadau cau.
-
Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau gwyddonol mewn dull effeithiol a chryno ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
Dangos ymwybyddiaeth o ddatblygiadau a materion cyfoes yn y Gwyddorau Biolegol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd 1 | 0.00 | ||
Traethawd 2 (Peer reviewed) | 0.00 | ||
Traethawd 3 | 40.00 | ||
Cylchgrawn Myfyriol | 10.00 | ||
Ymgysylltu a Cyfraniad | 5.00 | ||
Presenoldeb & Chyfranogiad | 5.00 | ||
Cyflwyniad Gwyddonol o fewn tiwtorialau | 25.00 | ||
Cylchgrawn Myfyriol | 10.00 | ||
Crynodeb | 5.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Cyflwynir y tiwtorialau mewn grwpiau bach, gyda tiwtoriaid unigol. Darperir cymorth gyda sgiliau ysgrifennu gwyddonol, cymorth bugeiliol a chyfleoedd am adborth ffurfiannol. |
8 |
Lecture | Cyflwyniadau gwyddoniaeth boblogaidd. Nod y cyflwyniadau yw arddangos yr amrywiaeth eang a chyffrous o ymchwil a wneir yn yr ysgol a rhoi cyfle i chi ddod i adnabod y staff academaidd a’u diddordebau ymchwil. Bydd y sesiynau yma hefyd yn caniatáu datblygu sgiliau cymryd nodiadau ac i werthuso egwyddorion cyfathrebu gwyddoniaeth drwy'r defnydd o bapurau cofnod. |
12 |
Yn dilyn pob seminar, bydd gan fyfyrwyr gyfle i siarad ag aelod penodol o staff i fyfyrio ar eu profiad o'r flwyddyn gyntaf ac i ystyried y darlithoedd y maent wedi mynychu. Mae presenoldeb i'r sesiynau yn ddewisol ond mae myfyrwyr yn eu gwerthfawrogi fel fforwm ar gyfer trafodaeth gyda'r staff a'u cyfoedion. |
12 | |
Private study | Anogir myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth wyddonol eang o bob agwedd ar y gwyddorau biolegol trwy ddarllen testunau gwyddonol cyfoes, a thrwy fod yn ymwybodol o faterion a datblygiadau cyfredol ym maes gwyddoniaeth trwy raglenni newyddion, gwefannau a rhaglenni dogfen. |
150 |
Gosodir tasgau ar-lein ar ymarferion adfyfyrio ac ysgrifennu gwyddonol ffurfiannol a gefnogir gan diwtoriaid. Caiff y rhain eu cynllunio i annog ymgysylltiad parhaus, amser ar y dasg ac i hyrwyddo ymarfer sgiliau sy'n cael eu dysgu yn y modiwl hwn ac yn y modiwl Sgiliau Ymarferol. |
10 | |
Seminar | Bydd Semester 2 yn gorffen gyda 'mini-gynhadledd' gan y myfyrwyr, gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu diddordebau i eraill ar eu cwrs gradd. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno papur cyfoes ar destun sy'n berthnasol i'w gradd. |
8 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Consider issues from a range of interdisciplinary perspectives.
- Apply subject knowledge to the understanding and addressing of problems.
- Engagement with current developments in the biosciences and their application.
- Appreciation of the complexity and diversity of life processes through the study of organisms.
- Engage in debate and/or discussion with specialists and non-specialists using appropriate language.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/bsc-1028.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- C100: BSC Biology year 1 (BSC/B)
- C10F: BSc Biology year 1 (BSC/BF)
- C511: BSc Biology with Biotechnology year 1 (BSC/BIOT)
- C512: BSc Biology with Biotechnology with International Experience year 1 (BSC/BIOTIE)
- C102: BSc Biology (with International Experience) year 1 (BSC/BITE)
- C300: BSC Zoology year 1 (BSC/Z)
- C305: BSc Zoology with Animal Behaviour (with International Exp) year 1 (BSC/ZABIE)
- C3L2: BSC Zoology with Conservation year 1 (BSC/ZC)
- C319: BSc Zoology with Climate Change Studies year 1 (BSC/ZCC)
- C327: BSc Zoology with Climate Change Studies w International Exp year 1 (BSC/ZCCIE)
- C3L3: BSc Zoology with Conservation with International Experience year 1 (BSC/ZCIE)
- C3L4: BSc Zoology with Conservation with Placement Year year 1 (BSC/ZCP)
- C30F: BSc Zoology year 1 (BSC/ZF)
- C304: BSC Zoology with Herpetology year 1 (BSC/ZH)
- C307: BSc Zoology with Herpetology (with International Experience) year 1 (BSC/ZHIE)
- C324: BSc Zoology with International Experience year 1 (BSC/ZIE)
- C3C1: BSc Zoology with Marine Zoology (with International Exp) year 1 (BSC/ZMB)
- C350: BSC Zoology with Marine Zoology year 1 (BSC/ZMZ)
- C36P: BSc Zoology with Marine Zoology with Placement Year year 1 (BSC/ZMZP)
- C329: BSc Zoology with Primatology year 1 (BSC/ZP)
- C32P: Zoology with Primatology with Placement Year year 1 (BSC/ZPP)
- C330: BSc Zoology with Ornithology year 1 (BSC/ZR)
- C3P0: BSc Zoology with Ornithology with Placement Year year 1 (BSC/ZRP)
- C3D3: BSC Zoology with Animal Behaviour year 1 (BSC/ZWAB)
- C3DP: BSc Zoology with Animal Behaviour with Placement Year year 1 (BSC/ZWABP)
- C101: MBiol Master of Biology year 1 (MBIOL/BIO)
- C510: MBiol Biology with Biotechnology year 1 (MBIOL/BIOT)
- C302: MZool Zoology with Animal Behaviour year 1 (MZOOL/AB)
- C30P: MZool Zoology with Animal Behaviour with Placement Year year 1 (MZOOL/ABP)
- CD34: MZool Zoology with Conservation year 1 (MZOOL/CONS)
- CD3P: MZool Zoology with Conservation with Placement Year year 1 (MZOOL/CONSP)
- C303: MZool Zoology with Herpetology year 1 (MZOOL/HERP)
- C325: MZool Zoology with Animal Behaviour with International Exp year 1 (MZOOL/ZAIE)
- C321: MZool Zoology with Climate Change year 1 (MZOOL/ZCC)
- CD35: MZool Zoology with Conservation w International Experience year 1 (MZOOL/ZCIE)
- C326: MZool Zoology with Herpetology with International Experience year 1 (MZOOL/ZHIE)
- C353: MZool Zoology with Marine Zoology year 1 (MZOOL/ZMZ)
- C354: MZool Zoology with Marine Zoology with International Exp. year 1 (MZOOL/ZMZI)
- C37P: MZool Zoology with Marine Zoology with Placement Year year 1 (MZOOL/ZMZP)
- C306: MZool Zoology (with International Experience) year 1 (MZOOL/ZOIE)
- C301: MZool Master of Zoology year 1 (MZOOL/ZOO)
- C333: MZool Zoology with Primatology year 1 (MZOOL/ZP)
- C33P: MZool Zoology with Primatology with Placement Year year 1 (MZOOL/ZPP)
- C334: MZool Zoology with Ornithology year 1 (MZOOL/ZR)
- C3P4: MZool Zoology with Ornithology with Placement Year year 1 (MZOOL/ZRP)