Modiwl SCL-3113:
Traethawd Hir
Traethawd Hir 2024-25
SCL-3113
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Hayley Roberts
Overview
Bydd dewis y myfyriwr o bwnc traethawd hir yn cael ei drefnu cyn dechrau'r modiwl gyda'r goruchwyliwr (gyda'r cyfle i weithio gyda'r goruchwyliwr nes ymlaen i ddatblygu'r pwnc ymhellach). Bydd y pynciau dan sylw yn amrywiol, yn unol ag arbenigedd y staff. Bydd gweithdai/grwpiau bach yn cyflwyno'r modiwl, ac yn egluro prosesau pwysig fel llunio rhagdybiaeth, nodau ac amcanion, a chwestiynau ymchwil; pwysigrwydd strwythur da; a llunio dadleuon rhesymegol.
Gyda'r gefnogaeth hon yn cael ei darparu ar gychwyn y modiwl, bydd myfyrwyr fel arall yn gweithio'n annibynnol ond gyda chefnogaeth goruchwyliwr. Ceir gyfle i dderbyn adborth ar y cyflwyniad ac dau bennod arall gan y goruchwyliwr. Bydd gweithdai neu grwpiau bach eraill ar gael ar adegau priodol dros y flwyddyn, yn ymdrin a pynciau megis llunio pennod casgliadau a sgiliau cyflwyno.
Ar ddiwedd y modiwl, bydd pob myfyriwr yn rhoi cyflwyniad llafar byr.
Bydd dewis y myfyriwr o bwnc traethawd hir yn cael ei drefnu cyn dechrau'r modiwl gyda'r goruchwyliwr (gyda'r cyfle i weithio gyda'r goruchwyliwr nes ymlaen i ddatblygu'r pwnc ymhellach). Bydd y pynciau dan sylw yn amrywiol, yn unol ag arbenigedd y staff. Bydd gweithdai yn cyflwyno'r modiwl, ac yn egluro prosesau pwysig fel llunio rhagdybiaeth, nodau ac amcanion, a chwestiynau ymchwil; pwysigrwydd strwythur da; a llunio dadleuon rhesymegol.
Gyda'r gefnogaeth hon yn cael ei darparu ar gychwyn y modiwl, bydd myfyrwyr fel arall yn gweithio'n annibynnol ond gyda chefnogaeth goruchwyliwr. Ceir gyfle i dderbyn adborth ar y cyflwyniad ac dau bennod arall gan y goruchwyliwr. Bydd gweithdai eraill ar gael ar adegau priodol dros y flwyddyn, yn ymdrin a pynciau megis llunio pennod casgliadau a sgiliau cyflwyno.
Ar ddiwedd y modiwl, bydd pob myfyriwr yn rhoi cyflwyniad llafar byr i gynulleidfa sy'n cynnwys cyd-fyfyrwyr a staff mewn fformat arddull cynhadledd, a bydd gofyn iddynt fod yn rhan o'r gynulleidfa honno ar gyfer myfyrwyr eraill. Mae hyn yn datblygu sgiliau gwrando a deall.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy: Bydd myfyrwyr (D- hyd at D+) yn dangos sgiliau ymchwil boddhaol mewn rhannau o leiaf o'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i archwilio a dadansoddi'r wybodaeth ac i ysgrifennu'r project mewn dull academaidd.D- hyd at D+Ateb sy'n gywir gan fwyaf o ran cyflwyno deunydd, ond sy’n cynnwys lefel sylweddol o wallau, ac felly nid yw’n hollol ddibynadwy. -good -Da: Bydd myfyrwyr da (B- hyd at B+) yn llwyddo'n gadarn yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.B- hyd at B+Ateb cynhwysfawr, yn cynnwys yr holl neu bron y cyfan o’r deunydd sy’n berthnasol i’r cwestiwn a dim amherthnasedd, neu ychydig iawn; yr holl ddeunydd a’r cyfeiriadau yn gywir at ei gilydd, heb ddim anghywirdeb na gwallau, gan gyflwyno’r cyfan mewn dadl glir, resymegol a beirniadol, ond sydd â lle i wella ei adeiladwaith a’i gyflwyniad. Ateb sy’n dangos hyfedredd llwyr yn y pwnc. -excellent -Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol (A- hyd at A) yn cyflawni'n gyson gadarn ar draws y deilliannau dysgu, ac yn cyfuno hyn â gwreiddioldeb, gwybodaeth eang o'r pwnc yn ei gyd-destun ehangach ynghyd â dadleuon a dadansoddiad treiddgar a soffistigedig.A- hyd at AAteb rhagorol, sy’n dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr ddim lle o gwbl i wella. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb fawr ddim camgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol manwl o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno bron yn berffaith yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi’i lunio’n hynod dda ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg. -another level-Da/Boddhaol: Bydd myfyrwyr lefel C- i C+ yn llwyddo'n ddisgrifiadol yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.C- i C+Ateb sydd, er ei fod bob amser yn gywir gan fwyaf, serch hynny yn methu â gwahaniaethu rhwng deunydd perthnasol ac amherthnasol, ac sydd â diffyg beirniadaeth. Ateb sy’n ddibynadwy o ran cywirdeb, ond nad yw’n gynhwysfawr neu nad yw’n hollol berthnasol.
Learning Outcomes
- Cyfosod a gwerthuso'n feirniadol gwybodaeth gyhoeddedig priodol ar bwnc ymchwil penodol.
Synthesise and critically evaluate relevant published information on a specific topic of research.
- Dangos lefel uchel o fedrusrwydd wrth strwythuro a mynegi dadleuon mewn maes problem.
Demonstrate a high level of skill in structuring and articulating arguments in a problem area.
- Dangos medrusrwydd wrth gyflwyno canfyddiadau ymchwil ar lafar, gan ddefnyddio cyflwyniad Powerpoint (neu tebyg)
Demonstrate proficiency in presenting research findings orally, using a Powerpoint presentation (or similar)
- Dangos meistrolaeth o systemau cyfeirio priodol.
Demonstrate mastery of appropriate referencing systems.
- Dangos tystiolaeth o feddwl dadansoddol neu datrys problemau gwreiddiol, yn cynnwys y gallu i ddadansoddi awdurdodau cyfreithiol mewn cyd-destunau sy'n berthnasol i bwnc y traethawd hir. Display evidence of original analytical thinking or problem solving, including the ability to analyse legal authorities in contexts relevant to the dissertation topic.
Assessment method
Oral Test
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad
Weighting
30%
Due date
21/03/2025
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd Hir
Weighting
70%
Due date
02/05/2025