Modiwl SCW-4050:
Cyfraith i Waith Cymdeithasol 1
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Medical and Health Sciences
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Mrs Gwenan Prysor
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn anelu i gyflawni tair amcan sylfaenol, sef darparu dealltwriaeth sylfaenol mewn cyfraith gwaith cymdeithasol, cyflwyno myfyrwyr i'r fethodoleg a'r goblygiadau sydd i ymyrraeth gyfreithiol, ac i ddatblygu gallu i gymhwyso'r gyfraith i ddiogelu oedolion a phlant. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar natur ddadleuol gofynion cyfreithiol a'r tensiwn, cyfyngiadau a chymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth a chyfraith achos mewn cyd-destun teuluol.
Bydd pwyslais y modiwl hwn ar osod ymarfer proffesiynol yn ei gyd-destun sefydliadol er mwyn dangos sut gall awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol unigol fod dan ddyletswydd neu a’r grym i ymyrryd er mwyn hyrwyddo lles unigolyn penodol, teulu, grŵp cleient neu gymuned.
Bydd cynnwys ac asesiad y modiwl yn ystyried pwysigrwydd gwerthoedd gwaith cymdeithasol a bydd hefyd yn adlewyrchu effaith gynyddol o hawliau dynol a deddfwriaeth cydraddoldeb ar wneud penderfyniadau barnwrol yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol. Felly bydd y modiwl yn rhoi sylw i'r angen i sicrhau cydbwysedd rhwng cysyniadau fel partneriaeth, ymreolaeth, hunan-benderfyniad a risg yn erbyn yr angen anghyson mewn rhai amgylchiadau i ddiogelu ac ymyrryd yn orfodol. Yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gynnal ymchwil cyfreithiol gan gynnwys sut i ddefnyddio cronfeydd data cyfreithiol soffistigedig.
Bydd llawer o gynnwys y modiwl yn canolbwyntio ar broblemau a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r gyfraith i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau. Er enghraifft, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar anghenion teuluoedd sy'n agored i niwed a’u hawliau i ddiogelwch, amddiffyn a chymorth mewn meysydd allweddol o'r gyfraith, teulu, tai, anabledd a chymhorthdal incwm, gan ystyried ffactorau penodol perthnasol i ymarfer gwaith cymdeithasol megis risg, hawliau, gwahaniaethau diwylliannol a sensitifrwydd ieithyddol, cyfrifoldebau i ddiogelu unigolion agored i niwed ac oblygiadau cyfreithiol.
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol yng Nghymru a, lle bo'n briodol, yn tynnu sylw at nodweddion unigryw sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i Ddatganoli.
Bydd myfyrwyr yn cael cyflwyniad i sgiliau Llys Barn ac Ysgrifennu Adroddiadau. strong text
Cynnwys cwrs
Bydd y themâu fydd yn cael sylw yn y modiwl yn cynnwys:
Gwaith Cymdeithasol a'r Gyfraith: Y Fframwaith Cyfreithiol, datblygu deddfwriaeth, hawliau a chyfrifoldebau Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat mewn Gofal Plant Diogelu plant: Atal ac Asesu Diogelu plant: Diogelu Brys Plant sy’n 'derbyn gofal' & Gadael Gofal Diogelu oedolion: Oedolion mewn risg Gofal yn y Gymunedol i Oedolion: Dyletswyddau a phwerau Asesiad & Gwasanaethau ar gyfer Oedolion & Gofalwyr Deddfwriaeth Galluedd a'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Ymyriad gorfodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a symud i fan diogel o dan Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru – gan gynnwys y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010, Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) (2010) Mesur Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol (Cymru) 2011 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gall yr wybodaeth sy'n ymwneud â chyfraith gwaith cymdeithasol yn y modiwl newid yn sgîl deddfwriaeth newydd a chyfraith achos.
Meini Prawf
ardderchog
(A- / A *): Bydd y lefel hon yn cael ei gyflawni fel arfer gan fyfyrwyr sydd ar y brig yn unig. Dylai'r myfyriwr rhagorol ddangos lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o gyfraith gwaith cymdeithasol a gallu parhaus a chyson i ddefnyddio hyn mewn sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyriwr ardderchog yn dangos gallu cynhwysfawr i ddadansoddi'n feirniadol goblygiadau cyfraith gwaith cymdeithasol ar gyfer gwerthoedd ac ymarfer gwrth-ormesol.
da
(B): Dylai'r myfyriwr ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o gyfraith gwaith cymdeithasol a lefel gadarn o allu cymhwyso hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai fod capasiti cadarn i ddadansoddi'n feirniadol a deall goblygiadau'r gyfraith gwaith cymdeithasol ar gyfer gwerthoedd ac ymarfer gwrth-ormesol hefyd.
trothwy
(C): Dylai pob myfyriwr gyflawni'r isafswm safonau gofynnol. Dylai'r myfyriwr trothwy ddangos lefel sylfaenol o wybodaeth a dealltwriaeth o gyfraith gwaith cymdeithasol a lefel sylfaenol o allu i gymhwyso'r gyfraith i sefyllfaoedd ymarfer. Dylai hefyd fod a'r gallu sylfaenol i ddadansoddi yn feirniadol a deall goblygiadau cyfraith gwaith cymdeithasol ar gyfer gwerthoedd ac ymarfer gwrth-ormesol.
Canlyniad dysgu
-
Dangos dealltwriaeth feirniadol o system gyfreithiol a’i phosibiliadau a chyfyngiadau gweithredol o ran ymarfer gwaith cymdeithasol
-
Dangos dealltwriaeth feirniadol o’r gyfraith o ran ymarfer sy'n seiliedig ar hawliau, ac ymarfer dinesydd-ganolog a pherson-ganolog
-
Cymhwyso gwybodaeth fanwl am elfennau hanfodol o gyfraith gwaith cymdeithasol mewn perthynas â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed
-
Dadansoddi rhai o'r heriau a'r atebion sy'n gysylltiedig â diogelu
-
Dangos dealltwriaeth o'r fframwaith cyfreithiol yng Nghymru
-
Dangos y gallu i gydbwyso gofynion gwerthoedd gwaith cymdeithasol sydd weithiau’n gwrthdaro â gofynion sefydliadol a/neu gyfreithiol
-
Trafod cymhwyso’r gyfraith yn gymwys a datrys problemau gyfeirio at y ddarpariaeth cyfraith statudol yn ogystal â chyfraith achos
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Aseiniad 3,000 o eiriau | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Ymchwil annibynnol wedi ei arwain a dysgu cyfrifiadurol. |
76 |
Lecture | Darlithoedd. Yn dilyn cyfyngiadau Covid-19, bydd cyfran helaeth o’r ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno ar lein drwy sesiynau cydamserol ac anghydamserol (synchronous / asynchronous), gyda dysgu cyfunol yn cael ei ganiatau yn dilyn cymeradwyaeth a chaniatâd y Brifysgol ei bod yn ddiogel i fyfyrwyr / staff i gynnal sesiynau wyneb-yn-wyneb. |
20 |
Practical classes and workshops | Ymarferion grŵp, astudiaethau achos a dysgu drwy ddatrys problemau. Yn dilyn cyfyngiadau Covid-19, bydd cyfran helaeth o’r ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno ar lein drwy Microsoft Teams, gyda dysgu cyfunol yn cael ei ganiatau yn dilyn cymeradwyaeth a chaniatâd y Brifysgol ei bod yn ddiogel i fyfyrwyr / staff i gynnal sesiynau wyneb-yn-wyneb. |
4 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Demonstrate critical appreciation of the competing views on the nature of social work and its place and purpose in society, and the complex relationship between social justice, social care and social order/control and their practical and ethical implications.
- Develop critical understanding of the relationship between society, state and social work and its centrality to assessing the wellbeing, care and support needs of individuals as well as safeguarding requirements in relation to individuals, families and communities at risk.
- Demonstrate in-depth understanding and reflection of how social work, both as an occupational practice and as an academic subject, evolves, adapts and changes in response to the social, political and economic challenges and demands of contemporary social welfare policy, practice and legislation.
- Critically understand and examine the root causes of discrimination, oppression, prejudice and inequality and how legislation and policy can be applied to challenge them, as well as the ethical concepts of rights, responsibility, freedom, authority and power inherent in the practice of social workers as agents with statutory powers in different situations
- Examine and critically apply a range of theories and research informed evidence that informs understanding of the child, adult, family or community and of the range of assessment and interventions which can be used to address wellbeing and risk.
- Develop critical understanding with critical evaluation of the underpinning perspectives that determine explanations of the characteristics and circumstances, the stages of development and behaviour of people who need care and support, drawing on research, practice experience and the experience and expertise of people who use services
- Demonstrate critical understanding of the factors and processes that facilitate effective interdisciplinary, interprofessional and interagency collaboration and partnership across a plurality of settings and disciplines
- Develop critical appreciation of the current and evolving range and appropriateness of statutory, voluntary and private agencies providing services and the organisational systems inherent within these
- In-depth and critical understanding of the development of strengths-based, person-centred services which focus on the human and legal rights of individuals for control, power and self determination
- Work in a transparent and responsible way, balancing autonomy with complex, multiple and sometimes contradictory accountabilities (for example, to different individuals, employing agencies, professional bodies and the wider society)
- Social work as an ethical activity requires practitioners to recognise the dignity of the individual, as well as make and implement difficult decisions (including the restriction of liberty) in human situations that involve the potential for benefit or harm.
- Involve users of social work services in ways that increase their resources, capacity and power to influence factors affecting their lives
- Demonstrate the ability to reflect on and learn from the exercise of their skills, and develop their professional identity, recognise their own professional and organisational limitations and accountability, and know how and when to seek advice from a range of sources including constructive professional supervision
- Assess human situations, taking into account a variety of factors (including the views of participants, theoretical concepts, research evidence, legislation and organisational policies and procedures)
- Think logically, systematically, creatively, critically and reflectively, in order to carry out a holistic assessment
- Demonstrate persistence in gathering information from a wide range of sources and using a variety of methods, for a range of purposes, critically assessing the reliability and relevance of the information gathered. These methods include electronic searches, reviews of relevant literature, policy and procedures, face-to-face interviews, and written and telephone contact with individuals and groups take into account differences of viewpoint in gathering information
- Apply ethical principles and practices critically in planning problem-solving activities
- Critical analysis and professional judgement and the processes of defensible risk assessment and decision making, including the balance of choice and control, rights and protection in decision making, focussing on wellbeing outcomes.
- Practice in a manner that promotes well-being, protects safety and resolves conflict
- Engage appropriately with the life experiences of service users, to understand accurately their viewpoint, overcome personal prejudices and respond appropriately to a range of complex personal and interpersonal situations
- Make decisions based on evidence, set goals and construct specific plans to achieve outcomes, taking into account relevant information including ethical guidelines
- Assimilate, present and disseminate relevant information and conclusions verbally and on paper, in reports and case records, in a structured form, appropriate to the audience for which these have been prepared
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Darllen hanfodol / Essential reading
Brammer, A. (2015) Social Work Law (4th Ed). Pearson
Carr, H & Goosey, D. (2017) Law for Social Workers (14th Ed). OUP Oxford
Johns, R. (2014) Using the Law in Social Work (Transforming Social Work Practice Series) (6th Ed). Learning Matters
Darllen ychwanegol / Extended reading
Ball, C. (2014) Looked After Children (Focus on Social Work Law). Palgrave
Brammer, A. (2014) Safeguarding Adults (Focus on Social Work Law). Palgrave Macmillan
Braye, S. & Preston-Shoot, M. (2016) Practising Social Work Law (Practical Social Work Series) (4th Ed) Palgrave Macmillan
Clements, L. & Thompson, P. (2011) Community Care and the Law. 5th Ed, LAG
Davis, L. (2015) See You in Court (2nd Ed). Jessica Kingsley Publishers
Davis, L. (2014) The Social Worker's Guide to Children and Families Law. Jessica Kingsley Publishers
Dickens, J. (2011) Social Work Law and Ethics. Routledge
Eales, M. (2013) Mental Capacity Act and Deprivation of Liberty Workbook. CreateSpace Independent Publishing Platform
Graham, M. et al (2015) A Practical Guide to the Mental Capacity Act 2005: Putting the Principles of the ACT into Practice. Jessica Kingsley Publishers
Hale, B., Pearl D., Cooke, E. & Bates, P. (2009) The Family Law & Society: Cases & Materials, 6th Ed. Butterworths
Herring, J. (2009) Family Law. Pearson, Longman
Herring, J (2009) Older People, Law and Society. Pearson, Longman
Holt, K. (2014) Child Protection (Focus on Social Work Law). Palgrave
Hutchinson, C. & Huckman, N. (2016) Mental Health (Focus on Social Work Law) Palgrave
Johns, R. (2014) Capacity and Autonomy (Focus on Social Work Law). Palgrave
Laird, S.E. (2010) Practical Social Work Law, Analysing Court Cases & Inquiries Longman Pearson.
Long, L. (2010) Law and Social Work: Contemporary Issues for Practice, 2nd Ed, Palgrave Macmillan
Mandelstam, M. (2009) Safeguarding Vulnerable Adults. Jessica Kingsley
Mugal, A.F. & Richards, S. (2015) The Deprivation of Liberty Safeguards (DoLS) Handbook. Books Wise Publications Ltd
Preston-Shoot, M. (2014) Making Good Decisions: Law for Social Work Practice (Focus on Social Work Law). Palgrave
Scragg, T. & Mantell, A. (2011) Safeguarding Adults In Social Work. Learning Matters
Seymour, C. & Seymour, R. (2011) Courtroom and Report Writing Skills for Social Workers (Post-Qualifying Social Work Practice Guides) Sage Publications Ltd
Westwood, J. (2014) Children in Need of Support (Focus on Social Work Law) Paperback. Palgrave Macmillan
Williams, J. (2008) Child Law and Social Work. Sage.
Bas data Cyfreithiol / Legal Databases
Lawtel
Westlaw
LexisNexis