KESS II


Mae Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS) yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Mae KESS yn cynnig prosiectau ymchwil ar y cyd (Gradd Meistr Ymchwil a PhD) sy’n gysylltiedig â chwmni partner lleol, gydag ysgoloriaethau wedi’u cefnogi gan arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Rydyn ni’n gweithioar draws Cymru, gyda’r holl Brifysgolion yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y prosiect.
Hyd yn hyn rydyn ni wedi cyflawni 230 prosiect PhD a 223 prosiect Gradd Meistr Ymchwil ledled Cymru (73 PhD a 84 Gradd Meistr Ymchwil ym Mangor). Daeth prosiect cyfredol KESS i ben diwedd mis Medi 2015.
O dan gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth KESS II, bydd academyddion a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn gweithio mewn partneriaeth â mwy na 500 ofusnesau. Byddant yncydweithio iddatblygu prosiectau ymchwil arloesol gyda’r nod o ysgogi twf mewn busnesau.
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi cynllun newydd £36m sy’n cael cymorth gan yr UE i ddatblygu sgiliau ymchwil ac arloesi ar gyfer graddedigion, a fydd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â busnesau bach a chanolig (BBaCh).
Bydd y cynllun, a fydd yn elwa ar £26m o gyllid gan yr UE, yn caniatáu i fwy na 600 o raddedigion elwa ar gyfleoedd i ddatblygu fel gweithwyr ymchwil proffesiynol, a hynny drwy raglenni Ymchwil ar lefel gradd Meistr a PhD a fydd yn cael eu hariannu gan y cynllun.
Lansiwyd gwefan KESS 2 yn ystod noson gyflwyno yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mangor ar y 4yddo Ebrill 2017.
Bydd cynllun KESS II, a fydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â phrifysgolion eraill yng Nghymru, yn cael ei roi ar waith yn y Gogledd, y Gorllewin ac yng Nghymoedd y De dros y chwe blynedd nesaf.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n newyddion gwych i’r cannoedd o fusnesau sy’n mynd i elwa o gydweithio â’n prifysgolion mewn ymchwil a datblygu, ac i’r bobl ifanc dalentog sydd am ddatblygu sgiliau ac arbenigedd ar lefel uchel yng Nghymru.
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan yr UE a fydd yn helpu i alinio ymchwil ag anghenion busnesau bach gan ysgogi sgiliau ar lefel uwch yng Nghymru dros y blynyddoedd sydd i ddod. Mae’n enghraifft glir o sut mae Cymru ar ei hennill oherwydd bod y DU yn aelod o’r UE.”
Bydd y cynllun KESS II yn canolbwyntio wrth gydweithio â BBaChau ym maes ymchwil ar sectorau allweddol economi Cymru gan gynnwys gwyddorau bywyd, deunyddiau a pheirianneg uwch, ynni carbon isel, TGCh a’r economi ddigidol. Mae’n datblygu ar lwyddiant y cynllun KESS cyntaf a gefnogodd waith ymchwil a datblygu ar y cyd â 380 o fusnesau Cymru rhwng 2009 a 2015, gan arwain at dros 400 o raddau Ymchwil ar lefel gradd Meistr a PhD.
Dywedodd yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o arwain y sector addysg uwch yng Nghymru trwy’r cynllun pellgyrhaeddol, trawiadol hwn sy’n derbyn cymorth gan yr UE. Bydd gwerth £26 miliwn o gyllid gan yr UE yn galluogi KESS II i gynnig 645 o brosiectau PhD a Meistr Ymchwil, pob un ar y cyd â busnesau lleol mewn wyth Prifysgol yng Nghymru.”
Ychwanegodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Effaith ym Mhrifysgol Bangor: “Bydd y rhaglen KESS II yn sicrhau y bydd Prifysgolion Cymru yn parhau i ddatblygu ymgeiswyr PhD a Meistr Ymchwil o safon sy’n meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion busnesau.
“Bydd KESS II yn cefnogi mentrau yn y Gogledd, y Gorllewin a’r Cymoedd i sefydlu ymchwil ac arloesi sy’n cyd-fynd â’r gwaith o ddatblygu sgiliau lefel uwch â manteision i fusnesau. Bydd y cynllun hwn yn creu manteision sylweddol i bobl, busnesau a’r economi.”
Yn dilyn cais blaenorol KESS II, mae sawl prosiect Meistr Ymchwil a PhD wedi cael eu cymeradwyo ac yn weithredol erbyn hyn.
Bydd angen i gynigion prosiectau gael eu llunio gan bartner academaidd ym Mhrifysgol Bangor a phartner cwmni – gyda’r prosiect yn canolbwyntio ar angen yn y cwmni.
Rydyn ni’n bwriadu cynnal ceisiadau KESS II ddwywaith y flwyddyn – ar gyfer dechrau ym mis Hydref a mis Ionawr.
Er mwyn bod yn gymwys i gael arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, rhaid i brosiectau ddilyn y meini prawf canlynol :
- Cael eu llunio mewn partneriaeth â phartner cwmni.
- Rhaid i weithgarwch y prosiect fod yn rhanbarth cydgyfeirio Cymru.
- Bydd yn rhaid i’r cwmni partner wneud cyfraniad ariannol blynyddol rhwng £3k a £4k +TAW (gan ddibynnu ar faint y cwmni).
- Rhaid iddo berthyn i un o feysydd heriau mawr Llywodraeth Cymru : Gwyddorau Bywyd ac Iechyd; Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd; TGCh a’r Economi Ddigidol; Deunyddiau a Pheirianneg Uwch.
- Rhaid iddo arwain at gymhwyster Gradd Meistr drwy Ymchwil; MRes neu PhD.
- Rhaid iddo gael ei gwblhau cyn pen 3.5 blynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn a 3 mis ar gyfer Gradd Meistr Ymchwil.
Ar ôl cymeradwyo’r prosiectau arfaethedig, bydd ysgoloriaeth yn cael ei chynnig.
Mae’r ysgoloriaeth yn cynnig y canlynol i’r cyfranogwr (myfyriwr) cymwys:
- Tâl misol yn unol â chyfraddau RCUK : 3 blynedd o gyllid sef £14,002 ar gyfer PhD; blwyddyn o gyllid sef £11,313 ar gyfer Gradd Meistr Ymchwil.Ni fydd Prifysgol Bangor yn codi ffioedd dysgu.
- Cyfle i fanteisio ar lu o hyfforddiant sgiliau lefel uwch a phresenoldeb yn Ysgol Breswyl Graddedigion KESS.
- Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan gwblhau Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig KESS.O leiaf 30 diwrnod y flwyddyn yn gweithio gyda’r partner cwmni ar eu prosiect penodol.
- Cyllideb KESS safonol ar gyfer costau eraill sy’n ymwneud â’r prosiect ymchwil (teithio, nwyddau traul ac offer).
- Rhaid i’r myfyrwyr gwblhau a chyflwyno eu traethawd mewn 3.5 blynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn a 3 mis ar gyfer Gradd Meistr Ymchwil.
Dylai’r ymgeiswyr fyw yn ardal cydgyfeirio Cymru wrth gael eu penodi, a dylen nhw fod â’r hawl i weithio yn y rhanbarth wrth gymhwyso.
Llwytho i lawr
Gellir lawrlwytho project KESS II yma.