Sut i wneud cais


Mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd bwysig, a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg uwch yng Nghymru. Mae KESS, sy’n elwa o Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop, yn cefnogi prosiectau ymchwil cydweithredol ar lefel gradd Meistr Ymchwil a Doethuriaeth ochr yn ochr â busnesau a sefydliadau yn ardal Cydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd).
Bydd angen i gynigion prosiectau gael eu llunio gan bartner academaidd ym Mhrifysgol Bangor a phartner cwmni – gyda’r prosiect yn canolbwyntio ar angen yn y cwmni.
Rydyn ni’n bwriadu cynnal ceisiadau KESS II ddwywaith y flwyddyn – ar gyfer dechrau ym mis Hydref a mis Ionawr.
Er mwyn bod yn gymwys i gael arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, rhaid i brosiectau ddilyn y meini prawf canlynol:
- Cael eu llunio mewn partneriaeth â phartner cwmni.
- Rhaid i weithgarwch y prosiect fod yn rhanbarth cydgyfeirio Cymru.
- Bydd yn rhaid i’r cwmni partner wneud cyfraniad ariannol blynyddol rhwng £3k a £4k +TAW (gan ddibynnu ar faint y cwmni).
- Rhaid iddo berthyn i un o feysydd heriau mawr Llywodraeth Cymru : Gwyddorau Bywyd ac Iechyd; Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd; TGCh a’r Economi Ddigidol; Deunyddiau a Pheirianneg Uwch.
- Rhaid iddo arwain at gymhwyster Gradd Meistr drwy Ymchwil; MRes neu PhD.
- Rhaid iddo gael ei gwblhau cyn pen 3.5 blynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn a 3 mis ar gyfer Gradd Meistr Ymchwil.
Ar ôl cymeradwyo’r prosiectau arfaethedig, bydd ysgoloriaeth yn cael ei chynnig.
Mae’r ysgoloriaeth yn cynnig y canlynol i’r cyfranogwr (myfyriwr) cymwys :
- Tâl misol yn unol â chyfraddau RCUK: 3 blynedd o gyllid sef £14,002 ar gyfer PhD; blwyddyn o gyllid sef £11,313 ar gyfer Gradd Meistr Ymchwil.
- Ni fydd Prifysgol Bangor yn codi ffioedd dysgu.
- Cyfle i fanteisio ar lu o hyfforddiant sgiliau lefel uwch a phresenoldeb yn Ysgol Breswyl Graddedigion KESS.
- Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan gwblhau Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig KESS.O leiaf 30 diwrnod y flwyddyn yn gweithio gyda’r partner cwmni ar eu prosiect penodol.
- Cyllideb KESS safonol ar gyfer costau eraill sy’n ymwneud â’r prosiect ymchwil (teithio, nwyddau traul ac offer).
- Rhaid i’r myfyrwyr gwblhau a chyflwyno eu traethawd mewn 3.5 blynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn a 3 mis ar gyfer Gradd Meistr Ymchwil.
Dylai’r ymgeiswyr fyw yn ardal cydgyfeirio Cymru wrth gael eu penodi, a dylen nhw fod â’r hawl i weithio yn y rhanbarth wrth gymhwyso.
Taflenni ffeithiau cwmni KESS II ar gael fel a ganlyn:
Galwad KESS II:
Ewch i wefan KESS 2 am wybodaeth ar ein dyddiadau galwad nesaf.
Mwy o ddogfennau KESS II ar gael.