Newyddion: Tachwedd 2019

Did human hunting activities alone drive great auks’ extinction?

Datganiad i'r Wasg gan eLife. Nid yw ar gael yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019

Scientists complete largest global assessment of ocean warming impacts

Datganiad i'r wasg gan y Scottish Association for Marine Science. Nid yw ar gael yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019

Cynllun trydan dŵr bach yn amddiffyn y Beibl Cymraeg hynaf

Bydd Beibl Cymraeg 431 oed yn cadw’n gynnes dros y gaeaf ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol osod tyrbin trydan dŵr bychan yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn Eryri, gan helpu i reoli lefelau lleithder yn y ffermdy o’r 16egganrif.

Trwy gydweithio â Phrifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn, mae’r cynllun ynni adnewyddadwy yn helpu’r elusen i sicrhau bod un o’r llyfrau pwysicaf i ddiwylliant Cymru’n cael ei amddiffyn mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2019

Un llaw a dau hemisffer: Sut mae dwy ochr yr ymennydd yn ymaddasu ar ôl colli rhan o'r corff

Mae seicolegwyr wedi dangos, am y tro cyntaf erioed, sut mae plastigrwydd a gallu'r ymennydd i addasu, yn ymestyn dros ddwy ochr yr ymennydd.

Mae'n hysbys ers tro os collir rhan o'r corff neu ryw swyddogaeth o'r corff, y gall rhan gyfagos o'r ymennydd, sy'n rheoli swyddogaeth arall, ymestyn  i'r rhan o'r ymennydd sy'n gyfrifol am y swyddogaeth goll a dod yn gyfrifol dros ei reoli.

Bellach mae sganiau MRI swyddogaethol wedi dangos mewn pobl sydd wedi colli llaw, bod y swyddogaethau sy'n rheoli'r llaw arall yn ymestyn dros ddau hemisffer yr ymennydd.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019

Gleiderau tanddwr yn helpu gwella rhagolygon y tywydd

Bydd dulliau newydd o fesur y modd mae dyfroedd yn cymysgu o dan wyneb Cefnfor yr Iwerydd yn cael eu defnyddio i wella rhagolygon y tywydd. 

Mesurwyd tyrfedd y dŵr gan 'gleider' tanddwr a chyhoeddir canlyniadau'r ymchwil, dan arweiniad Natasha Lucas, ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor, mewn erthygl cyfnodolyn.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2019

Pecynnu ein bwydydd heb blastig

Mae pobl ledled y byd yn poeni fwyfwy am faint o blastig untro a ddefnyddir i becynnu'r pethau rydym yn eu prynu, yn enwedig bwyd.

Er bod deunydd lapio o'r fath yn ymddangos yn ddiangen, byddai llawer o gynhyrchwyr ffrwythau a llysiau yn dadlau bod pecynnu nwyddau darfodus yn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cario eu bwyd yn hawdd. Hefyd, mae mwy o fwyd yn cyrraedd y farchnad heb ei ddifrodi, gan gynyddu'r cyflenwad bwyd a lleihau gwastraff bwyd.

Yr ateb yw datblygu dulliau eraill cynaliadwy o becynnu bwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019

Magwrfeydd larfau pysgod yn llawn plastigau yr un maint â'u bwyd

Mae ymchwil newydd wedi dangos am y tro cyntaf, bod larfau pysgod o amryw o rywogaethau pysgod o wahanol gynefinoedd yn y môr yn cael eu hamgylchynu gan blastigau yn eu hoff gynefinoedd magu ac yn llyncu'r plastigau.

Mae llawer o bysgod môr y byd yn treulio eu dyddiau neu wythnosau cyntaf yn bwydo ac yn datblygu ar wyneb y môr, ond nid ydym yn gwybod llawer am brosesau'r môr sy'n effeithio ar oroesiad larfau pysgod. Larfau pysgod yw'r genhedlaeth nesaf o bysgod aeddfed a fydd yn cyflenwi protein a maetholion hanfodol i bobl ledled y byd. Cynhaliodd Canolfan Gwyddoniaeth Pysgodfeydd Ynysoedd y Môr Tawel NOAA a thîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys Prifysgol Bangor, un o'r astudiaethau mwyaf uchelgeisiol hyd yma, i daflu goleuni ar y bwlch hanfodol bwysig hwn yn ein gwybodaeth.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth heddiw yn y cyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences. Roedd yr astudiaeth wedi cyfuno arolygon towio plancton yn y maes ac uwch dechnegau synhwyro o bell i nodi cynefin magwrfeydd larfau pysgod yn y môr ar arfordir Hawai'i.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2019