Cregyn bylchog yn datgelu cyfrinachau newid yn yr hinsawdd forol

Mae gwyddonwyr morol o Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn y Brifysgol yn casglu data defnyddiol am newid yn yr hinsawdd forol- a hynny o fan annisgwyl- cregyn môr.

Sclerocronolegwyr ydynt- neu wyddonwyr sydd yn astudio’r cylchoedd tyfiant ar gregyn môr. Maent yn medru casglu ystod o wybodaeth fanwl gywir o ran dyddiad am yr amgylchedd lle bu’r cregyn yn tyfu. Mewn modd tebyg iawn i’r ffordd mae dendocronolegwyr yn dyddio coeden drwy gyfri’r cylchoedd yn y bonyn, mae’r gwyddonwyr ym Mangor yn medru cyfrifo oed y cregyn yn fanwl gywir drwy astudio’r cylchoedd  a’r haenau tyfiant ynddynt. Yn yr un ffordd â choed, mae cregyn bylchog yn creu un cylch neu haen  o dyfiant y flwyddyn, ac fel gyda choed, gellir mesur maint y tyfiant y flwyddyn honno trwy fesur lled yr haen.  Wrth ddadansoddi’r deunydd o fewn y gragen yn fanylach, daw rhagor o wybodaeth i’r amlwg.  Wrth ddadansoddi agweddau gwahanol ar wneuthuriad cemegol y gragen, mae’r gwyddonwyr yn medru canfod gwahanol nodweddion yr amgylchedd yr oedd yn byw ynddo.

Gan ddefnyddio gwybodaeth o gregyn sy’n fyw ac o hen gregyn sy’n gorwedd ar wely’r môr, mae’r tîm ym Mhrifysgol Bangor wedi medru cyfrifo tymheredd y cefnfor yn y man lle casglwyd y cregyn. Oherwydd eu bod yn gwybod yn union pa bryd yr oedd y cregyn yn tyfu, maent yn medru adeiladu  cofnod o dymheredd y môr dros gyfnodau maith o amser.

Mae’r Athrawon  James Scourse a Chris Richardson yn arwain yr ymchwil hon yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion  gyda Paul Butler a Dr David Reynolds. Meddent: “Mae ein hymchwil yn darparu data unigryw ar y modd y mae newid hinsawdd yn effeithio ar y cefnfor.  Yr hyn mae ein techneg yn ei gynnig yw modd o ddatgelu tymheredd y môr yn flynyddol yn ystod cyfnod cyn bod offer cofnodi ar gael.”

Daw’r cregyn a ddefnyddir gan y tîm yn eu hymchwil o rywogaeth  cragen fylchog y quahog (Arctica islandica).  Mae’r cregyn hyn yn tyfu yn nyfroedd  oerach y Gogledd yr Iwerydd, ac yn cael eu defnyddio’n fasnachol fel abwyd pysgod ac fel un o gynhwysion clam chowder mewn rhai lleoedd. Mae’r cregyn bylchog hyn yn  arbennig o hirhoedlog, roedd yr hynaf y mae’r tîm wedi  cyfrifo ei oed wedi byw am 507 o flynyddoedd.

Mae gan y Grŵp ddiddordeb hefyd yn y mecanwaith biolegol sy’n galluogi’r cregyn bylchog i fyw cyhyd.

Bu eitem ar newyddion y BBC yn rhoi sylw i'w gwaith (26.9.13)

Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2013