Uchafbwyntiau
Amserlen Rhaglen Hyfforddi a Datblygu am 2020/21
Mewngofnodi i Blackboard yr Ysgol Ddoethurol
Ewch i’n tudalen Digwyddiadau i gofrestru ar-lein ar gyfer unrhyw o'r gweithdai.
Dewch o hyd i ni drwy gyfryngau cymdeithasol:
Twitter: Doctoral School BU - @BangorUni_PGR
Facebook: Bangor University Doctoral School
You Tube: Doctoral School Bangor University
Cynaliadwyedd
Mae’r Ysgol Ddoethurol wedi ymrwymo i roi lle blaenllaw i lesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol a chyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (WFGA) a nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Her yr 1457.
Na, nid ein rhif PIN yw hwn ond llaw-fer ar gyfer cofio sut mae datblygu cynaliadwy, y proses o wellau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn cael ei ddiffinio:
-
UN egwyddor cynaliadwy (sicrhau fod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau)
-
PEDWAR Piler (amgylchedd, cymdeithas, diwylliant a’r economi)
-
PUMP ffordd o weithio
-
SAITH nôd llesiant
-
UNDEGSAITH Nod Datblygiad Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig
Gweithdy Cynaliadwyedd yr Ysgol Ddoethurol
Mae’r gweithdy hwn yn anelu i’ch cynorthwyo i ddeall sut mae eich hymchwil yn cyfrannu at gynaliadwyedd a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Nodau Datblygiad Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, y prif fframwaith datblygu cynaliadwy yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae ymdrin â chynaliadwyedd yn y dull yma yn rhoi cyfle i ni fod yn arloesol, gweithredu’n greadigol ac ymchwilio a mentro yn gyfrifol a’r nôd yw dangos fod eich ymchwil doethurol yn cyfrannu at rhain.
Bydd y gweithdy yn gael ei gynnal gan Y Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor.
Cyflwyniad a lluniau o’r gweithdy cynaladwyedd ar y 27/11/2019.
Mae KESS2 wedi partneru gyda’r Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor er mwyn sicrhau bod ein tîm a’n partneriaid yn gallu dangos ein bod yn rhoi ystyriaeth briodol i lesiant y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yn ein holl weithgareddau.
Gwybodaeth bellach:
Yr Hanfodion: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Fideo defnyddiol yn cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Megan
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: dangosyddion cenedlaethol
Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig
Cyswllt:
Dr Gwenith Elias: gwenith.elias@bangor.ac.uk
Swyddog Datblygu Cynaliadwy & Cydlynydd Dysgu ac Addysgu
Y Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor.