Newyddion: Awst 2018
Extreme weather in Europe linked to less sea ice and warming in the Barents Sea
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yueng-Djern Lenn a Benjamin Barton o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a Camille Lique o’r Institut Français de Recherche pour l’Exploitation de la Mer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2018
Gwneud arolwg o gynefin y salamandr yn Honduras
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor newydd ddychwelyd gartref o daith chwech wythnos i Honduras yng Nghanolbarth America. Mae Molly Mannion, 20, o Fangor, newydd gwblhau ail flwyddyn ei chwrs pedair blynedd MZool Sŵoleg gyda Herpetoleg . Cafodd Molly, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Friars, gyfle i gymryd rhan yn y daith Operation Wallacea fel rhan o fodiwl cwrs maes.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2018
Gall dulliau ymchwil sy'n dod o hyd i droseddwyr cyfresol helpu i arbed teigrod
Gallai offeryn proffilio daearyddol a ddefnyddir i ddal troseddwyr cyfresol helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu gan deigrod, yn ôl gwyddonwyr a fu'n cydweithio ar astudiaeth ymchwil cadwraeth arloesol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2018
Prifysgol Bangor yn sicrhau mwy o gyllid yr UE ar gyfer canolfan ymchwil newydd
Bydd Prifysgol Bangor yn manteisio ar £2.8m arall o gyllid yr UE ar gyfer canolfan wyddoniaeth ac arloesi newydd i roi hwb i ddiwydiant pysgod cregyn Cymru, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw [dydd Llun 13 Awst].
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2018
Dod â bwrlwm Bangor i Brifwyl y Bae
Unwaith eto eleni, bydd staff Prifysgol Bangor yn cyfrannu â’u harbenigeddau at nifer o weithgareddau craidd ac ymylol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal yn ardal Caerdydd rhwng 3 - 11 Awst.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2018
Datgelu bod y Cobra Affricaniadd anferth gyffredin yn bum rhywogaeth wahanol
Mae’r cobraod ymysg y nadroedd gwenwynig mwyaf adnabyddus. Eto, mae papur ymchwil newydd (ZOOTAXA 1 Awst 2018 http://dx.doi.org/10.11646/zootaxa.4455.1.3 ) wedi dangos bod un rhywogaeth o gobra, sef cobra’r fforest, yn cwmpasu pum rhywogaeth wahanol mewn gwirionedd. Mae dwy o’r rhywogaethau hyn, Cobra Ddu’r Fforest a Chobra Rhesog Gorllewin Affrica, yn hollol newydd i wyddoniaeth ac yn cael eu henwi am y tro cyntaf yn y papur hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2018