Newyddion: Rhagfyr 2018
Bodaod tinwyn a grugieir coch: Canfod tir cyffredin mewn gwrthdaro parhaus
Bu gwrthdaro ers degawdau rhwng cadwraethwyr sy'n gweithio dros warchod niferoedd y bodaod tinwyn a'r rheiny sy'n gwneud bywoliaeth o saethu grugieir coch yn fasnachol yn ucheldiroedd Lloegr, a hynny heb arwydd o gymod. Gan dynnu ar waith a wnaed ym maes seicoleg, mae astudiaeth newydd a gyhoeddir heddiw yn y cyfnodolyn People and Nature yn ymchwilio i'r gwerthoedd sylfaenol sydd gan saethwyr a chadwraethwyr sy'n ei gwneud hi mor anodd i ddod o hyd i atebion ar y cyd. Mae astudiaethau ecolegol dros y 30 mlynedd ddiwethaf wedi dangos y gall bodaod tinwyn ac adar ysglyfaethus eraill leihau niferoedd y grugieir i'r fath raddau bod perygl i saethu grugieir fynd yn anhyfyw yn economaidd. O ganlyniad, caiff bodaod tinwyn eu lladd yn anghyfreithlon ar weunydd grugieir, er eu bod wedi'u diogelu o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ers 1952.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2018
100 trysor Prifysgol Bangor
Gall ymwelwyr i Storiel, Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, fwynhau arddangosfa newydd, 100 trysor Prifysgol Bangor, yn y cas sydd yn y dderbynfa. Defnyddir y cas arddangos hwn yn unswydd ar gyfer arddangos casgliadau’r Brifysgol, ac mae’r arddangosfa’n newid bob chwe mis.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2018
Astudiaeth £1.85m i ymchwilio i ficrobau'n "ffawdheglu" ar blastig yn y môr
Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda Phrifysgolion Stirling a Warwick ar broject newydd gwerth £1.85 miliwn sy'n ymchwilio i'r ffordd y mae plastig yn y môr yn cludo bacteria a firysau - a'r effaith bosibl ar iechyd pobl. Mae'r gwyddonwyr yn ceisio deall sut mae plastig yn gweithredu fel cerbyd, a allai ledaenu pathogenau ar hyd yr arfordir, neu hyd yn oed o wlad i wlad, a sut mae hynny'n effeithio ar iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Llygredd golau arfordirol
Ydych chi erioed wedi meddwl sut y gall llygredd golau yn ein trefi arfordirol effeithio efallai ar greaduriaid y môr? Mae'r Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn arwain project newydd pedair blynedd a gyllidir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o'r ffordd mae llygredd golau o drefi a dinasoedd arfordirol yn effeithio ar fywyd ar hyd ein glannau.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Myfyrwyr yn gwirfoddoli i blannu cannoedd o goed yn Eryri
Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor wedi plannu cannoedd o goed fel rhan o broject bywyd gwyllt cyffrous gyda busnes twristiaeth yn Eryri. Mae'r grŵp, o Gymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor (BFSA), yn gobeithio y bydd y coed newydd yn gwella tirwedd byd-enwog Dyffryn Ogwen, ger Bethesda.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2018
Mynd i’r afael â thlodi bwyd
Bu tri aelod o staff Prifysgol Bangor yng nghyfarfod cyntaf Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru (NWFPA) yng Nghanolfan OpTIC Llanelwy yn ddiweddar. Mae Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd yn ford gron a nifer o sectorau’n aelodau o dan gadeiryddiaeth Cyngor Sir Fflint. Nod y Gynghrair yw mynd i’r afael â’r heriau lu sydd o ran tlodi bwyd yn y gogledd.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018
Ocean acidification will increase the iodine content of edible seaweeds and their consumers
Dyma erthygl gan Georgina Brennan , o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a'i chyd-ymchwilwyr, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018
Agroforestry can help the UK meet climate change commitments without cutting livestock numbers
Dyma erthygl yn Saesneg gan Charlotte Pritchard ,o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018
Madagascar: fear and violence making rainforest conservation more challenging than ever
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Julia Jones o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2018
Beth mae casglu o'r glannau yn ei olygu i gasglwyr a helwyr yn yr oes sydd ohono.
Mae Liz Morris-Webb, ymchwilydd yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mhrifysgol Bangor, yn chwilio am bobl sy'n casglu o lannau môr Cymru i gymryd rhan yn ei hymchwil. Os ydych chi'n chwilota am fwyd, abwyd, arian, addysg, meddyginiaethau, ymchwil neu rywbeth mwy anarferol, gallwch gymryd rhan.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2018
Y cyfarfod cyntaf i ddatblygu diwydiant pysgod cregyn Cymru
Mae cynhyrchwyr, gwyddonwyr a rheoleiddwyr pysgod cregyn yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor heddiw (4 Rhagfyr) ar gyfer y gweithdy cyntaf i ddatblygu Canolfan Pysgod Cregyn newydd. Bydd y ganolfan yn darparu anghenion ymchwil ac arloesedd y diwydiant, ac yn sicrhau twf cynaliadwy'r sector gwerthfawr hwn yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2018