Newyddion: Ionawr 2019
Gwobr gyrfa cynnar o bwys yn cael ei ddyfarnu i fymyrwraig PhD
Myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor yw'r ferch gyntaf i ennill gwobr ryngwladol am ei gwaith rhagorol ym maes gwaddodeg môr. Enillodd Megan Baker WOBR YMCHWIL RICHARD W. FAAS yr International Association of Sedimentologists a gwobr ariannol o €2000. Dyfernir gwobr Faas bob dwy flynedd i ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa. Dyma hefyd y tro cyntaf i'r wobr hon gael ei rhoi i fyfyriwr PhD.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2019
Tiwtor ysbrydoledig o Brifysgol Bangor yn ennill gwobr tiwtor cenedlaethol
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor sy’n atgoffa myfyrwyr i ffonio eu teuluoedd wedi ennill gwobr genedlaethol . Mae’r darlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol, Siân Pierce, sy’n cael ei rhyfeddu’n barhaus gan bobl, wedi ennill Gwobr Tiwtor Ysbrydoli! ar ôl gwylio miloedd o’i myfyrwyr yn graddio dros gyfnod o fwy nag 20 mlynedd. Mae’r gwobrau yn dathlu llwyddiannau tiwtoriaid a mentoriaid eithriadol yng Nghymru sydd wedi dangos brwdfrydedd ac ymroddiad neilltuol i annog, cefnogi ac addysgu oedolion eraill i anelu at nod a thrawsnewid eu bywydau, boed yn eu cymuned neu yn y gweithle.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2019
Gwyddonydd o Brifysgol Bangor yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan brifysgol o Chile
Yn ddiweddar mewn seremoni yn yr Universidad de Magallanes (UMAG) dyfarnwyd 'doctor honoris causa' i Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor. Mae'r UMAG yn ninas Punta Arenas ar Gulfor Magellan yn ne Chile. Mae Dr Russell wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil botanegol yn y rhanbarth yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf. Yn Tierrra del Fuego ceir amrywiaeth hynod eang o fwsoglau a llysiau'r afu, a ystyrir yn bryoffytau, ac fe wnaeth gwaith Dr Russell ar y planhigion bychain hyn - ond pwysig yn ecolegol - gyfrannu'n uniongyrchol at greu 'Gwarchodfa Biosffer Penrhyn yr Horn' yno yn 2005.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2019
Investigating why oak trees are dying is helping scientists understand how infectious diseases work
Dyma erthygl yn Saesneg gan James Doonan o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2019
Why foraging for free is food for the soul
Dyma erthygl yn Saesneg gan Elisabeth S. Morris-Webb Ymgeisydd PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation a r ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019
Diwrnod Fenwm Prifysgol Bangor yn denu rhai o brif arbenigwyr y maes
Fe wnaeth pobl o bob cwr o'r byd sy'n ymddiddori ym maes tocsinau deithio i Ogledd Cymru i ddigwyddiad blynyddol a drefnwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Ymunodd academyddion blaenllaw, arbenigwyr rhyngwladol a seren deledu â dros gant o bobl ar gyfer y gynhadledd Diwrnod Fenwm unigryw ym Mangor i drafod tocsicoleg a rhywogaethau gwenwynig.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019
“Am wasanaeth wrth fynd i’r afael â thlodi tramor ac am wasanaeth i addysg yn Derby”
Mae Dr Daljit Singh Virk, Cymrawd Ymchwil Uwch gyda Phrifysgol Bangor wedi ei ddewis i dderbyn anrhydedd yr OBE. Mae’r anrhydedd yn cydnabod effaith cyfraniad gwyddonol Dr Virk fel genetegydd a bridiwr planhigion yn ogystal â’i gyfraniad blaenllaw wrth sefydlu Ysgol Gynradd Akaal yn Derby yn 2015, ysgol sy’n dilyn crefydd Sikh a sefydlwyd fel ysgol rydd o dan y Ddeddf Academïau. Mae Dr Virk wedi bod wrth wraidd un o brojectau Prifysgol Bangor sydd wedi cael yr effaith fwyaf ac sydd wedi cyfrannu at wella diogelwch bwyd a bywoliaeth miloedd o gartrefi mewn rhai o wledydd tlotaf y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2019