Newyddion: Hydref 2019
Botswana is humanity's ancestral home, claims major study – well, actually …
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Gwella cynhyrchiant Hyrddod a mynd i'r afael â throseddau
Mae Parc Gwyddoniaeth ar Ynys Môn yn mynd i'r afael â throseddau gwledig, drwy ddefnyddio dyfais IoT (y Rhyngrwyd Pethau) sydd wedi cael ei datblygu’n arbennig. Gan ddod â thechnoleg IoT ac arloesedd ynghyd, mae dyfais sydd yr un maint â bocs matsis wedi cael ei chreu sy’n gallu helpu i fynd i'r afael â dwyn defaid, cŵn yn poeni defaid, ac mae hyd yn oed yn gallu tracio patrymau paru hyrddod.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2019
Gwibdaith Amser a Hwyl Hanesyddol – ar gael yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell
Os ydych chi'n chwilio am dipyn o deithio amser ac antur hanesyddol, mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ei ddarparu Hanner Tymor Hydref hwn, (26 Hydref a 3 Tachwedd) fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor ar agor Dydd Sadwrn, 2 o Dachwedd 11-1 fel rhan o’r Ŵyl.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2019
Gwyddonydd a darlithydd i arddangos ei gwaith mewn arddangosfa gelf genedlaethol o bwys ar fywyd gwyllt
Mae darlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor yn cadw cydbwysedd rhwng ei diddordeb gwyddonol mewn adar a chyfleu ei chariad tuag atynt mewn gwaith celf. Chough gan Rachel Taylor Mae gwaith celf Dr Rachel Taylor bellach wedi ei ddethol o blith 600 o geisiadau i ymddangos ynghyd â gwaith gan rai o artistiaid bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw Prydain. Mae’r arddangosfa i’w gweld yn y Mall Galleries rhwng 24 Hydref a 3 Tachwedd 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2019
Cyllid gwerth £4 miliwn yn rhoi hwb ar gyfer ymchwil i 5G yng Nghymru
Mae Cymru ar fin dod yn un o arweinwyr y byd ym maes technoleg 5G, ar ôl i Ganolfan Rhagoriaeth Ddigidol gael ei chyhoeddi, a fydd yn derbyn cyllid gwerth £4 miliwn gan yr UE. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Prosesu Signalau Digido l yn gwneud ymchwil arbenigol iawn i systemau cyfathrebu digidol fel ffonau symudol, hybiau WiFi a llinellau gweithgynhyrchu modern. Mae gwella Prosesu Signalau Digidol yn ffordd gost-effeithiol o gyflymu rhwydweithiau, gan wella'r ffordd mae ffonau symudol, dyfeisiau a phensaernïaeth rhwydwaith yn gweithio'n sylweddol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019
Researchers invent device that generates light from the cold night sky – here's what it means for millions living off grid
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jeff Kettle o’r Ysgol Cyfrifiaduref a Pheirianneg Electronig sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2019
Airbus, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn dechrau partneriaeth sgiliau newydd
Gwnaeth dri Phrentis Gradd yn Airbus ddechrau'r rhaglen Gwyddor Data Cymhwysol newydd gyda Phrifysgol Bangor a'i phartner cyflenwi, Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2019
Gallai adleoli diwydiant moch Tsieina arwain at ganlyniadau anfwriadol
Mewn erthygl yn y cyfnodolyn Nature Sustainability (30/9/19) mae grŵp rhyngwladol o wyddonwyr amaethyddiaeth ac amgylcheddol yn rhybuddio y gallai awydd Llywodraeth Tsiena i adleoli ei diwydiant moch o'r De, er mwyn amddiffyn ansawdd dŵr, arwain at ganlyniadau niweidiol anfwriadol. Yn 2015 gwaharddodd Llywodraeth Tsiena gynhyrchu da byw mewn rhai rhanbarthau i reoli llygredd dŵr wyneb yn agos at afonydd, llynnoedd neu gronfeydd dŵr. Mae hyn wedi lleihau'r porc sydd ar gael a hynny mewn cyfnod pan ragwelir y bydd ei fwyta'n cynyddu o 690 i 1,000 miliwn o bennau y flwyddyn rhwng 2018-50.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019
Ymchwil U-boats y Brifysgol yn cael sylw ar raglen Drain the Oceans
Bydd ymchwil gan Brifysgol Bangor yn cael sylw mewn rhaglen sy’n rhan o gyfres Drain the Oceans ar sianel y National Geographic nos Lun 7 Hydref rhwng 8 a 9pm. Bydd rhaglen nos Lun yn sôn am ddatblygiad llongau tanfor yn yr Almaen, a sut y bu i hynny newid rhyfela ar y môr am byth. Cafodd y Cynghreiriaid eu gorfodi i newid eu tactegau. Mae gwaith y Prince Madog, llong ymchwil Ysgol Gwyddorau’r Eigion , Prifysgol Bangor yn cael sylw ar y rhaglen. Mae’r llong wedi bod yn mapio nifer o longddrylliadau o amgylch Môr Iwerddon fel rhan o broject ymchwil ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Noddir y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a’i fwriad yw coffau’r rhyfel yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru rhwng 1914 ac 1918.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019
Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor i rymuso'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr
Nod Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw dangos nad cenhedlaeth o liprod yw ein pobl ifanc trwy gyhoeddi galwad am fyfyrwyr sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth i broblemau'r byd. Datgelwyd mewn arolwg* diweddar nad lliprod gwangalon a gor-sensitif yw 85% o bobl ifanc, yn wahanol i'r darlun a gawn ar y cyfryngau, a'u bod yn teimlo bod y grym ganddynt i fynd i'r afael â materion fel y cynhesu byd-eang, lefelau'r môr yn codi a llygredd diddiwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019