Newyddion: Mai 2020
Sut gall Awdurdodau Lleol annog dinasyddion i gymryd rhan mewn trawsnewid ynni
Mae pecyn newydd Ynni Glân i bobl Ewrop yr Undeb Ewropeaidd yn arwain y ffordd i ddinasyddion Ewrop fod yn gyd-gynllunwyr ac arweinwyr ar brojectau cynhyrchu ynni, trafnidiaeth a datblygiadau cymdeithasol sy’n adnewyddadwy a chynaliadwy, yn hytrach na bod dan orfodaeth i dderbyn projectau o'r fath.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2020
Gall coedwigoedd trofannol ymdopi â'r gwres, i ryw raddau
Mae coedwigoedd trofannol yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd newid yn yr hinsawdd, ond mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Science yn awgrymu y gallant barhau i storio llawer iawn o garbon mewn byd cynhesach, os bydd gwledydd yn cyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae coedwigoedd trofannol y byd yn storio gwerth chwarter canrif o allyriadau tanwydd ffosil yn eu coed. Mae pobl yn ofni y gall cynhesu byd-eang leihau'r storfa hon os bydd llai o goed yn tyfu neu os bydd mwy o goed yn marw, gan gyflymu newid yn yr hinsawdd. Roedd Dr Simon Willcock o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn un o dîm ymchwil rhyngwladol a fesurodd dros hanner miliwn o goed mewn 813 o goedwigoedd ledled y trofannau i asesu faint o garbon sy'n cael ei storio gan goedwigoedd sy'n tyfu o dan amodau hinsoddol gwahanol heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020
Prifysgol Bangor a Phrifysgolion Santander yn cefnogi Pŵer Pobl ar gyfer PPE (Cyfarpar Diogelu Personol)
Mae Prifysgolion Santander yn cefnogi Prifysgol Bangor a'r rhanbarth i greu Cyfarpar Diogelu Personol am ddim
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2020
Sgwrs am gadwraeth primatiaid
Zoe Melvin, ymchwilydd PhD yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol yn cyfweld Dr Tim Davenport, cyfarwyddwr cadwraeth rhywogaethau (Affrica), y Wildlife Conservation Society. Wrth i gyfres newydd BBC One Primates ddod i ben nos Sul (17 Mai, 8:15 PM BST) mae primatolegwyr o Brifysgol Bangor (@BangorPrimates) yn parhau i drydar eu sylwadau am y gyfres ar Twitter dan yr hashnod #BangorDoesPrimates.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2020
Mae gwyddonwyr Bangor yn troi gwlyptiroedd a gafodd eu niweidio'n storfeydd carbon
Mae tîm o wyddonwyr wedi datblygu dull newydd i helpu corsydd mawn a brofodd niwed ddal mwy o garbon, a rhyddhau llai o'r nwyon tŷ gwydr i'r awyr. Dywed y grŵp, sydd o dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn y gogledd, y gallai eu gwaith arwain at ddatblygu arferion newydd lle mae adfer mawndiroedd yn y cwestiwn.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2020
Gall microbiomau perfedd iach ddylanwadu ar bysgod a ffermir
Mae'n debyg ein bod i gyd wedi clywed neu ddarllen rhywbeth am sut y gall microbiome perfedd iach effeithio ar ein hiechyd yn gyffredinol. Mae microbiome perfedd yr un mor hanfodol i anifeiliaid a physgod ag yw i bobl. Mae gennym ficrobiomau mewn gwahanol rannau o'n cyrff, ar ein croen, er enghraifft. Mae microbiomau yn cynnwys cymunedau o wahanol ficro-organebau, firysau a germau ac mae'r cymunedau hyn yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn gweithredu. Ceir hyd yn oed dystiolaeth i ddangos y gall biome perfedd gwael arwain at salwch neu afiechyd hyd yn oed. Gan fod tua 45% o'r pysgod rydym yn eu prynu a'u bwyta'n fyd-eang yn dod o ffermydd pysgod, mae deall microbiome perfedd pysgod yn hanfodol i gyflenwi'r galw hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020
Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned
Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned Mae gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac United Utilities i fonitro lefelau cefndirol y coronafeirws mewn gwahanol ardaloedd. Mae'r gwyddonwyr wedi dangos, o olrhain y feirws marw sy'n cael ei ollwng o'r corff yn naturiol, cawn rybudd cynnar ynghylch pryd y gallai rhai ardaloedd fod yn agosáu at anterth nesaf Covid-19, oherwydd gall symptomau gymryd hyd at bythefnos i ddod i'r amlwg, a does dim symptomau ar oddeutu 20% o'r boblogaeth neu fwy.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020
Darganfod Bad Glanio o'r Ail Ryfel Byd oddi ar arfordir Cymru yn datrys dirgelwch 77 oed
Mae cydweithrediad rhwng tîm o wyddonwyr a thechnegwyr môr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor, a'r archeolegydd morwrol a hanesydd o fri rhyngwladol Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth, wedi arwain at ddigwyddiad annisgwyl. Maent wedi darganfod ac adnabod bad glanio a gollwyd ar y môr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2020
Lockdown challenges – what evolution tells us about our need for personal space
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2020
Fideo am Tswnami'n ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr gan y Gymdeithas Ddaearyddol
Mae fideo addysgol am tswnamis, a wnaed gan Time for Geography ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Dundee, wedi ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr 2020 gan y Gymdeithas Ddaearyddol. Y Wobr Arian yw'r clod uchaf sydd yn flynyddol am ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth mewn ysgolion a cholegau sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at addysg ddaearyddol a datblygiad proffesiynol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2020
Cynhyrchu fisorau diogelwch gyda thechnoleg argraffu 3D
Mae disgyblion ac athrawon Ysgol Godre'r Berwyn, gyda chefnogaeth gan Creo Medical, yn cynhyrchu fisorau diogelwch gyda thechnoleg argraffu 3D dan arweiniad Ilan Davies (myfyriwr PhD yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig sy'n gweithio gyda Creo Medical).
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020
Fideo am Tswnami'n ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr gan y Gymdeithas Ddaearyddol
Mae fideo addysgol am tswnamis, a wnaed gan Time for Geography ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Dundee, wedi ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr 2020 gan y Gymdeithas Ddaearyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020
Lleoliadau o fri gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i dri myfyriwr coedwigaeth disglair o Fangor
Mae tri myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi sicrhau lleoliadau 12 mis gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel rhan o'u cyrsiau gradd BSc Coedwigaeth (gyda lleoliad rhyngosod). Byddant yn cael y cyfle i ddysgu am ddulliau CNC o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020