Newyddion: Tachwedd 2020
Gwyddonwyr Gwyddorau'r Eigion yn defnyddio system fapio gwely'r môr i helpu i leoli fferm wynt enfawr
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o baratoi'r ffordd i adeiladu un o ffermydd gwynt mwyaf y byd oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2020
Mynd i'r afael â gwaddol plastig amaethyddol
Er bod defnyddio plastigau mewn amaethyddiaeth wedi gwella cynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd mewn sawl gwlad, mae wedi gadael gwaddol o lygredd plastig ar dir amaethyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2020
Prifysgolion a cholegau’n dod ynghyd i gynnig prentisiaethau yn rhad ac am ddim
PRENTISIAETHAU digidol a gweithgynhyrchu, rhad ac am ddim, fydd ffocws gweminar a fydd yn uno colegau a phrifysgolion yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2020
Gallai robotiaid olygu na fydd pellter yn broblem i fyfyrwyr yn y 'normal newydd'
Mae presenoldeb rhithiol mewn darlithoedd a seminarau trwy ddefnyddio robotiaid tele-bresennol yn opsiwn sy'n cael ei dreialu gan academyddion yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor wrth iddynt archwilio dulliau blaengar o gyflwyno addysgu a dysgu yn ystod y pandemig byd-eang.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2020
Prehistoric communities off the coast of Britain embraced rising seas- what this means for today's island nations
Dyma erthygl yn Saesneg gan Sophie Ward, o'r Ysgol Gwyddorau Eigion a Robert Barnett o Brifysgol Exeter sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2020
The future of nuclear: power stations could make hydrogen, heat homes and decarbonise industry
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Bill Lee, a Michael Rushton , sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2020