Newyddion: Mawrth 2021
Cyfuno iechyd cyhoeddus a gwyddoniaeth amgylcheddol i ddatblygu rhagolygon paill
Gall ymchwil newydd sy'n cyfuno data gofal iechyd gyda thechnegau ecolegol arloesol, osod cynllun i wella’r rhagolygon paill yn y dyfodol. Mae'r rhagolygon paill presennol, sy'n hanfodol i bobl ag asthma acíwt neu glefyd y gwair reoli eu symptomau, yn dibynnu ar fesur cyfanswm paill glaswellt yn yr atmosffer. Ond nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng paill o wahanol fathau o laswellt. Mae cysylltiad posibl wedi ei ddangos erbyn hyn rhwng paill o rai rhywogaethau glaswellt a phroblemau iechyd resbiradol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2021
Cangen myfyrwyr IEEE Bangor yn cynnal ei hail ddarlith wadd
Cynhaliwyd ail ddarlith wadd cangen myfyrwyr IEEEE Prifysgol Bangor ar-lein ar 24 Chwefror 2021.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2021
Astudiaeth newydd yn dangos cysylltiad rhwng gradd tir amaethyddol ac ansawdd dŵr afonydd mewn dalgylchoedd gwledig
Mae astudiaeth newydd, a gynhaliwyd gan dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, wedi dangos bod cysylltiad cryf rhwng ansawdd dŵr yn afonydd Conwy a Chlwyd yng Ngogledd Cymru â gradd y tiroedd amaethyddol yn eu priod ddalgylchoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2021