Cyflwyno adolygiad systematig CEBC yng Nghyngres Parciau'r Byd
Cyflwynwyd canfyddiadau Adolygiad Systematig arloesol gan CEE o dystiolaeth am 'Effeithiau ardaloedd gwarchodedig daearol ar les pobl' mewn sesiwn arbennig yn ystod Cyngres Parciau'r Byd a gynhaliwyd yn Sydney, Awstralia ar 15 Tachwedd. Trefnwyd y sesiwn gan y Cyfleuster Amgylchedd Byd-eang a oedd hefyd wedi comisiynu'r adolygiad. Erbyn hyn mae ardaloedd gwarchodedig yn gorchuddio tua 13% o arwyneb tir y ddaear a chaiff biliynau o ddoleri eu gwario'n flynyddol ar eu rheoli. O ganlyniad, mae sefydlu ardaloedd gwarchodedig wedi effeithio'n gadarnhaol ac yn negyddol ar nifer o gymunedau pobl, ac mae ansicrwydd ynglŷn â pha bolisïau sydd eu hangen i sicrhau effeithiau cadarnhaol.
Arweiniwyd yr adolygiad gan staff CEBC gyda chyfraniadau gan John Healey, Neal Hockley a Julia Jones yn SENRGY a staff o'r ganolfan EPPI yn Llundain. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn awgrymu bod cymunedau lleol yn cael llawer o wahanol fathau o effeithiau cadarnhaol a negyddol pan sefydlir ardaloedd gwarchodedig. Ond nid oes tystiolaeth ddigonol i ddeall sut i gael canlyniadau lle mae pobl a bywyd gwyllt ar eu hennill a bydd angen cynnal astudiaethau ymchwil o ansawdd uwch yn y dyfodol.
Gellwch weld yr adolygiad llawn yma
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014