Dosbarth 2012 Ysgol y Gyfraith Bangor yn dathlu Graddio
Fe wnaeth myfyrwyr y Gyfraith ym Mangor ddathlu eu llwyddiannau academaidd ddydd Llun, 16 Gorffennaf 2012, wrth i’r Ysgol gynnal ei seremoni i’r garfan a oedd yn graddio eleni. Batool Al Mohsin
Ymysg llwyddiannau mawr eleni roedd Batool Al Mohsin o Bahrain, a raddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn Y Gyfraith gydag Astudiaethau Busnes. Roedd yn un o ddim ond pedwar a enillodd wobr Dr John Robert Jones y Brifysgol, gwobr bwysig a ddyfernir yn flynyddol i’r myfyrwyr sy’n graddio gyda’r marciau gorau o unrhyw gynllun gradd ym Mhrifysgol Bangor.
“Ennill gwobr Dr John Robert Jones oedd un o funudau hapusaf fy mywyd,” meddai Batool. “Rydw i wedi gweithio'n galed i gael y canlyniad yma, ond heb arweiniad a chefnogaeth pob un o’m darlithwyr fyddwn i ddim wedi cael yr anrhydedd yma. Felly, hoffwn ddiolch iddynt am eu hanogaeth. Mae’r wobr Kate Longsonyma wedi fy ysgogi i weithio hyd yn oed yn galetach at fy ngradd Meistr ac mae wedi rhoi hyder i mi wireddu fy mreuddwyd o fynd yn gyfreithiwr.”
Hefyd fe wnaeth Kate Longson, myfyriwr LLB o Swydd Stafford, raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Mae nawr yn mynd i ddechrau astudio Cwrs Hyfforddi Proffesiynol y Bar, ar ôl ennill ysgoloriaeth hynod gystadleuol Yr Arglwydd Denning o Lincoln’s Inn – ysgoloriaeth sy’n werth £15,000.
Hefyd yn graddio eleni roedd dau fyfyriwr lleol, Joshua Simpson ac Iwan Emlyn Jones. Yn ystod ail flwyddyn eu hastudiaethau yn y gyfraith, fe wnaethant sefydlu Cyfraith Stryd, cynllun dan Joshua Simpson, chwith, ac Iwan Emlyn Jonesarweiniad myfyrwyr sy’n anelu at wella dealltwriaeth o faterion cyfreithiol yn y cymunedau lleol. Tra bydd Joshua ac Iwan yn awr yn symud ymlaen, un i ddilyn y Cwrs Ymarfer Y Gyfraith a’r llall gynllun hyfforddi rheolaeth Cyngor Gwynedd, bydd Cyfraith Stryd yn parhau i gael ei gynnal er budd myfyrwyr Bangor ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Yn y seremoni eleni hefyd derbyniwyd y trydydd Cymrawd er Anrhydedd i’w benodi gan yr Ysgol ers ei sefydlu. Cymrodoriaeth er Anrhydedd yw'r anrhydedd uchaf y gall y Brifysgol ei rhoi ac fel rheol bydd gan y rhai a fydd yn ei derbyn gysylltiad â'r Brifysgol neu â Chymru. Y Cymrawd a dderbyniwyd eleni oedd Yr Athro Malcolm Evans, Athro Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus ym Mhrifysgol Bryste. Mae’n un o gyfreithwyr rhyngwladol amlycaf gwledydd Prydain ac yn 2004 derbyniodd OBE gan Y Frenhines am ei gyfraniad ym maes atal poenydio a hyrwyddo rhyddid crefyddol. Daw Cymrodoriaeth er Anrhydedd yr Athro Evans wrth i’r Ysgol Yr Athro Malcolm Evans OBE, canol, gyda'r Athro Suzannah Linton (chwith) a Phennaeth yr Ysgol, yr Athro Dermot Cahillbaratoi i lansio Canolfan Cyfraith Ryngwladol Bangor, a chyhoeddwyd y bydd yn rhoi dosbarthiadau meistr i fyfyrwyr mewn meysydd fel y Gyfraith a Chrefydd, Atal Poenydio a Pharchu Hawliau Dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2012