Gwobrau i fyfyrwyr coedwigaeth yn Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 2016
Gwobrwywyd cyfanswm o 59 o fyfyrwyr coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor ym mis Gorffennaf 2016, gan gynnwys myfyrwyr a oedd wedi cwblhau rhaglenni israddedig, ôl-raddedig a dysgu o bell. Cyflwynwyd nifer o wobrau mewn derbyniad ar gyfer holl yr fyfyrwyr a oedd yn graddio o Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy). Cafodd Robert Turner (BSc Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd, Dosbarth Cyntaf ag Anrhydedd) o Selby yn Swydd Efrog Wobr Dr Richard Poyntz Bower am y prosiect gorau o ran gwyddorau'r pridd. Cafodd Robert hefyd wobr am y prosiect coedwigaeth gorau gan Adain Gogledd Cymru y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol.
Cyflwynodd Jim Waterson, MICFor, Wobr Myfyriwr Sefydliad Siartredig y Coedwigwyr, Bangor i Sam Huddleston (BSc Coedwigaeth) Ail Ddosbarth Uchaf ag Anrhydedd) o Barbon yng Nghymbria. Gwobr yw hon i'r myfyriwr sy'n gwneud y cynnydd mwyaf mewn perfformiad academaidd rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf. Cwblhaodd Sam leoliad blwyddyn gyda Chomisiwn Coedwigaeth yr Alban cyn ei flwyddyn olaf, profiad, ym marn Sam, a fu o gymorth mawr iddo o ran ei ddatblygiad academaidd a phroffesiynol. Mae Sam ar fin dechrau gweithio i Gomisiwn Coedwigaeth Lloegr.
James Walmsley (ar y dde) cyfarwyddwr cwrs BSc Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd yn llongyfarch Robert Turner ar dderbyn ei wobr yn nerbyniad graddio SENRGy.Sam Huddleston (ar y chwith) yn derbyn Gwobr Myfyriwr Sefydliad Siartredig y Coedwigwyr, Bangor oddi wrth Jim Waterson yn nerbyniad graddio SENRGy.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2016