Myfyrwyr y Gyfraith yn dathlu parhad yn y nawdd gan BPP
Estynnwyd croeso gan gynrychiolwyr amrywiol brojectau a mentrau Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor i westai arbennig wrth iddynt ddathlu blwyddyn arall o nawdd gan BPP.Dave Fallon, Swyddog Cyswllt Addysg Prifysgolion BPP (chwith eithaf), a Stephen Clear, Cyswllt BPP-Prifysgol Bangor (de eithaf) gyda cynrychiolwyr rhai o brojectau myfyrwyr i elwa o nawdd BPP.
Daeth Dave Fallon, swyddog cyswllt addysg prifysgolion BPP, i Fangor i nodi dechrau blwyddyn academaidd newydd sy’n gweld mwy o fentrau myfyrwyr y gyfraith ym Mangor nac erioed o’r blaen yn cael cyllid gan BPP. Mae’r cymorth ariannol hwn yn ei gwneud yn bosib i Ysgol y Gyfraith gynnal amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, ac mae rhestr y derbynwyr eleni wedi ei hymestyn i gynnwys Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith Bangor, Cyfraith Stryd, yr “Innocence Project”, tîm pêl droed Cymdeithas y Gyfraith a chystadleuaeth ffug lys McLaren a’r gystadleuaeth cyfrwng Cymraeg gyfatebol, Cwpan Griffiths. Mae Prifysgol Bangor yn arbennig o ffodus gan mai Bangor yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gael cyllid gan BPP yn y flwyddyn academaidd 2011/2012.
Mae cefnogaeth a nawdd BPP yn amlygu pwysigrwydd cynyddol cymryd rhan mewn gweithgareddau cydgyrsiol ac allgyrsiol. Yn ddiweddar, daeth Ysgol y Gyfraith yn un o’r ysgolion academaidd cyntaf ym Mhrifysgol Bangor i gymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor, cynllun a luniwyd i hybu cyflogadwyedd myfyrwyr trwy eu hannog i ymgymryd â lleoliadau gwaith, gwaith gwirfoddol, gwaith rhan-amser ac astudiaethau tu hwnt i’w gradd. Nod Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yw cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu’r math o sgiliau trosglwyddadwy fydd yn ddefnyddiol iawn iddynt mewn marchnad swyddi sy’n gynyddol gystadleuol i raddedigion.
Er mwyn cefnogi menter Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, bydd BPP yn cynnig rhaglen drawiadol o ddigwyddiadau datblygu gyrfa i fyfyrwyr y gyfraith ym Mangor. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglen y dystysgrif ymwybyddiaeth fasnachol am ddim, taith o amgylch BPP ym Manceinion, gweithdai ar lwybrau gyrfaol, sut i ariannu gyrfa yn y gyfraith a sut i sicrhau contract hyfforddi.
Cysylltwch â Stephen Clear, BPP-Cyswllt Prifysgol Bangor, i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau BPP ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2011