Talu Ffioedd - Dysgu a Neuaddau 2020/21
Myfyrwyr Cartref/UE yn unig
Mae’r holl ffioedd dysgu a ffioedd llety’n daladwy’n llawn cyn ichi gwblhau’r drefn gofrestru, oni bai eich bod yn dewis talu eich ffioedd trwy gynllun talu sy’n berthnasol i’ch statws fel myfyriwr er mwyn rhannu’r gost yn gyfartal trwy’r flwyddyn.
Os ydych wedi gwneud cais am fenthyciad tuag at ffioedd dysgu, telir hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol. Fodd bynnag, bydd gofyn ichi drefnu’n uniongyrchol â’r Brifysgol ynglŷn â thalu unrhyw gostau am lety (ffioedd Neuaddau) a fo’n daladwy.
Gellwch dalu trwy’r naill neu’r llall o’r dulliau isod:
Cynllun Talu
Bydd rhaid i chi sefydlu eich cynllun talu fel rhan o'r broses cofrestru ar-lein a byddwch yn cael gwybod pan fydd cofrestru ar-lein ar agor.
Bydd eich cynllun talu yn cymryd taliadau trwy gerdyn debyd/ credyd.
Byddwn yn gofyn ichi ddarparu cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn creu’r cynllun, ac anfonir rhybudd am y taliad i’r cyfeiriad e-bost hwnnw 5 niwrnod cyn dyddiad pob dyddiad.
Ôl – raddedig: 12 rhandaliad – Misol 11/10/2020 – 11/09/2021
Ôl - raddedig: 3 rhandaliad - 08/10/2020 - 14/01/2021 - 15/04/2021
Ôl - raddedig: 7 rhandaliad - 31/10/2020 - 30/11/2020 - 31/12/2020 - 31/01/2021 - 28/02/2021 - 31/03/2021 - 30/04/2021
Israddedig: 3 rhandaliad - 08/10/2020 - 14/01/2021 - 15/04/2021
Israddedig: 7 rhandaliad - 31/10/2020 - 30/11/2020 - 31/12/2020 - 31/01/2021 - 28/02/2021 - 31/03/2021 - 30/04/2021
Taliadau Lwmp Swm
Os yw’n well gennych dalu eich ffioedd dysgu a neuadd mewn un lwmp swm, cewch wneud hynny hefyd pan yn cofrestru. Edrychwch ar: /Registration am fanylion ynglŷn â’r trefniadau cofrestru ar gyfer eich cwrs.