Pam astudio yma?
- Cafodd 95% o ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor ei chydnabod gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol gan REF 2014.
- Mae Bangor yn y 25% uchaf ar gyfer boddhad myfyrwyr ôl-radd (cyrsiau hyfforddedig) – Arolwg Profiad Astudiaethau Ôl-radd (Cyrsiau Hyfforddedig) 2018.
- Mae Bangor yn y 10fed safle ar gyfer boddhad myfyrwyr PhD – Arolwg Profiad Astudiaethau Ôl-radd (Ymchwil) 2018.
- Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus a gynhelir yn ein safleoedd ym Mangor a Wrecsam, wedi'u hanelu at weithwyr proffesiynol iechyd a gofal a myfyrwyr.
- Gellir astudio rhai cyrsiau trwy amryw o ddulliau a'u dilyn ar gyflymder sy'n gweddu i amgylchiadau'r ymgeiswyr.
- Gellir cymryd modiwlau fel cyrsiau unigol neu fel rhan o lwybr yn dibynnu ar ddyheadau ac anghenion yr ymgeiswyr.
- Mae gweithgaredd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) yn cysylltu â thimau ymchwil ar draws y DU i gefnogi treialon mewn dementia, canser, iechyd newydd-anedig, iechyd y geg ac ymyriad i droseddwyr sy'n ddynion ac yn oedolion.
- Mae gennym gysylltiadau cadarnhaol â’r Bwrdd Iechyd Prifysgol lleol (BIPBC) a darparwyr gofal eraill yng Ngogledd Cymru, ac yng Ngogledd Orllewin Lloegr.
- Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i ymateb i’r amgylchedd gwaith, sy’n newid yn gyson.
- Rydym wedi comisiynu lleoedd i rai modiwlau a chyrsiau'n benodol i aelodau staff BIPBC a WAST.
- Bydd cyfleoedd i gael profiad o ymarfer dwyieithog
- Mae gennym ymchwilwyr a darlithwyr profiadol mewn Iechyd/Gofal Cymdeithasol a Lles.
- Rydym yn cynnig cynadleddau, seminarau a gweithdai ar faterion allweddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Mae gennym Gynllun Achredu Dysgu Blaenorol, fel y gall profiadau academaidd blaenorol gael eu hachredu.
- Rydym yn cynnig Cyrsiau Iaith Saesneg am ddim i fyfyrwyr tramor (ELCOS).
- Costau byw isel – llety rhatach a chostau byw is nag yn y rhan fwyaf o ddinasoedd prifysgol. Yn ôl The Independent's A-Z of Universities and Higher Education Colleges, mae Bangor yn "un o’r llefydd rhataf ym Mhrydain".