« Ebrill 2022 »
Su | Ll | Ma | Me | I | G | Sa |
---|---|---|---|---|---|---|
1 | 2 | |||||
3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 |
10 | 11 | 12 | 13 | 14 | 15 | 16 |
17 | 18 | 19 | 20 | 21 | 22 | 23 |
24 | 25 | 26 | 27 | 28 | 29 | 30 |
Lansiad llyfr PUMED GAINC Y MABINOGI
- Lleoliad:
- PL2, Pontio, Prifysgol Bangor
- Amser:
- Dydd Iau 28 Ebrill 2022, 19:00–21:00
- Cyswllt:
- gwenllian@ylolfa.com
Lansiad llyfr ffuglen newydd Yr Athro Peredur Webb-Davies, Pumed Gainc y Mabinogi.
Gan bod angen gwybod o flaen llaw pwy sydd yn dod, bydd angen i chi anfon ebost at Gwenllian Jones (Y Lolfa) gwenllian@ylolfa.com i nodi eich bwriad a cynnwys rhif cyswllt. Mae mynediad am ddim, wrth gwrs.
Crynodeb o’r llyfr:
Anghofiwch beth rydych chi'n ei gredu sy'n wir. Rhiannon, Gwydion, Mathonwy – oeddech chi'n meddwl mai dim ond chwedlau ydyn nhw?
Mae'r Llyfr Glas wedi cael ei ailddarganfod. Mae creaduriaid amhosib yn ymgasglu yn y cysgodion. Ac mae grymoedd sydd tu hwnt i'ch dealltwriaeth yn ymestyn eu crafangau er mwyn rhwygo'ch realiti yn ddarnau...