Newyddion: Gorffennaf 2018
Golwg newydd ar Gymru yng Nghynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America
Bydd academyddion a myfyrwyr rhyngwladol sydd yn astudio Hanes Cymru yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon (25 - 27 Gorffennaf), wrth i’r Brifysgol groesawu 12fed cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America 2018 . Cynhelir y gynhadledd hon bob dwy flynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018
Llawysgrifau Mostyn: Arddangosfa'r Canmlwyddiant
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018
Cynhadledd Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru
Rhwng y 25ain a’r 27ain o Orffennaf bydd Bangor, Dinas Dysg, yn croesawu casgliad o ôl-raddedigion ifanc, academyddion gyrfa gynnar ac ysgolheigion profiadol o’r DU, ac o cyn belled ag Ontario, Canada, wrth iddi gynnal 12fed cynhadledd ddwyflynyddol Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018
Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Cyflwynwyd medalau Cwmni'r Brethynwyr i ddau fyfyriwr o Brifysgol Bangor. Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig. Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018
Prifysgol Bangor yn cael grant i ddatgelu cynnwys llythyrau Mostyn o'r 17 ganrif
Bydd tair mil o lythyrau prin sydd wedi goroesi o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif ar gael i ysgolheigion rhyngwladol yn dilyn grant ymchwil newydd gan Gronfa Marc Fitch. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru , Prifysgol Bangor wedi cael grant o £40,000 i ddigido ac ymchwilio i gasgliad eithriadol o lythyrau a gedwir yn llyfrgell Plas Mostyn yn Sir y Fflint.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018