Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Newyddion

  • Newyddion diweddaraf
  • Ebrill 2022
  • Chwefror 2022
  • Ionawr 2022
  • Rhagfyr 2021
  • Tachwedd 2021
  • Hydref 2021
  • Medi 2021
  • Awst 2021
  • Gorffennaf 2021
  • Mehefin 2021
  • Ebrill 2021
  • Mawrth 2021
  • Holl Newyddion A–Y

Holl Newyddion A–Y

"Modern Maritime Battlefield Archaeology: Case Studies from the Battle of Jutland and the U-boat Wars".

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2017

'Bowlio gyda'i gilydd? Cymdeithas sifil mewn pentref Gogledd Ddwyrain Cymru' - Tîm Ymchwil WISERD Bangor

'Bowlio gyda'i gilydd? Cymdeithas sifil mewn pentref Gogledd Ddwyrain Cymru': darlith gwadd gan Dîm Ymchwil WISERD Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2016

'Documentary in Wales'

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021

'Mapio Dwfn' archifau ystadau: Methodoleg newydd i ddadansoddi tirweddau ystadau c.1500-1930

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2020

'Y bywydau gwaith o feirniaid yn y llysoedd troseddol' - yr Athro Penny Darbyshire

'Y bywydau gwaith o feirniaid yn y llysoedd troseddol': seminar gwadd gan yr Athro Penny Darbyshire, Ysgol Y Gyfraith, Prifysgol Kingston.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2016

50 mlynedd yn ddiweddarach: croesawu rhai o'r graddedigion cyntaf yn ôl i Fangor

Wrth iddi ddathlu ei hanner canmlwyddiant, cafodd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yr anrhydedd o groesawu tri o'i myfyrwyr cyntaf yn ôl i'r ysgol yn ddiweddar. Ymunodd Eryl Davies, Les Jones a David Simmonds â'r ysgol - yr Adran Theori Gymdeithasol a Sefydliadau ar y pryd - ym 1966, blwyddyn ei sefydlu. Roeddent ymysg y garfan gyntaf un i raddio ym Mangor gyda gradd yn y Gwyddorau Cymdeithas.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2016

A great year for signed languages in film – and what we can learn from it

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Sara Louise Wheeler o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018

A tale of two nations: why the Scottish nationalists outperformed Plaid Cymru

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Mari Wiliam, Darlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru a Dr Andrew Edwards, Deaon Celf a Dyniaethau ac Uwch Ddarlithydd Hanes Modern yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2015

Academydd o Fangor yn cefnogi rhieni ifanc

O ystyried y penawdau a welir am dadau eithriadol ifanc a daliadau cyffredinol am geisiadau am fudd-daliadau a thai, mae magu plant gan rieni ifanc iawn wedi dod i gael ei weld fel perygl i gymdeithas. Fodd bynnag, mae astudiaeth ymchwil ddiweddar o Fangor ar y project 'Rhieni Ifanc Ni' a gynhelir gan GISDA ar draws Gogledd Orllewin Cymru, yn herio'r safbwyntiau hynny. Rhoddodd y project Rhieni Ifanc Ni gefnogaeth unigol i dros 100 o rieni dan 25 oed, y rhan fwyaf ohonynt yn famau. Ei brif nod oedd datblygu gallu rhieni i ymdopi. Roedd agweddau ar hyn yn cynnwys hyrwyddo cynhwysiad economaidd drwy gefnogi rhieni i ennill cymwysterau perthnasol, cefnogi cysylltiadau teuluol a galluogi rhieni i ffurfio rhwydweithiau â rhieni eraill. Cyflawnodd Prifysgol Bangor astudiaeth flwyddyn o hyd yn ymwneud â phrofiadau rhieni o 'fagu gwytnwch'. Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Myfanwy Davies ac fe'i gwnaed gan Karen Wyn Jones ac Elin Williams yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Academyddion y Coleg yn derbyn grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC

Mae'n bleser mawr gan y Cyfarwyddwr Ymchwil gyhoeddi llwyddiant nifer o gydweithwyr ar draws y Coleg Busnes, Y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas sydd wedi ennill grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2016

Aelod Seneddol yn canmol Prifysgol Bangor am ei gwaith arloesol ar Fanciau Bwyd

Mae’r AS lleol Hywel Williams wedi canmol Prifysgol Bangor am ei gwaith ymchwil arloesol yn dilyn Cynhadledd Undydd i Fudd-ddeiliaid Lleol: Mapio Tlodi Bwyd , a oedd yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth a barn am y twf sydd y dyddiau hyn yn y defnydd o Fanciau Bwyd. Mae project ymchwil gan David Beck, myfyriwr PhD Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, wedi canfod bod yna 157 banc bwyd yng Nghymru ar hyn o bryd, yn cefnogi pobol mewn peryg o beidio â gallu bwydo’u hunain a’u teuluoedd (data a gasglwyd Gorffennaf 2015), o gymharu ag 16 yn 1998.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2016

Agoriad yr Arddangosfa ar Fywyd yr Iddewon – Gyda Derbyniad Cosher

Mae Goleufa Cymru wedi dyfarnu £19,000 i Dr Nathan Abrams o Ysgol Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor a Dr Sally Baker o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gan gydweithredu ag Esther Roberts o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, i gynnal arddangosfa deithiol ar fywyd yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Trwy’r arddangosfa hon, caiff pobl leol gyfle i ddysgu am hanes yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Mae Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru ers o leiaf ganrif a hanner, ac wedi chwarae rhan bwysig yn ei hanes. Er enghraifft, roedd Isidore Wartski yn faer ar Fangor, ac ef oedd y maer Iddewig cyntaf yng Nghymru. Cynhelir yr arddangosfa mewn cyfuniad o leoliadau o fewn Prifysgolion ac adeiladau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Cynhelir hefyd gyfres o weithdai yn y Brifysgol, ac mewn lleoliadau ac ysgolion yn y cylch. Mae Sally and Nathan wedi derbyn gwahoddiad gan Yr Adran Astudaiethau Crefyddol, Coleg Menai Bangor, i gyflwno eu hymchwil yn benodol i fyfyrwyr Lefel ‘A’ sydd ar hyn o bryd yn astudio Iddewiaeth ac hefyd i aelodau staff y Coleg.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2010

Ail Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru 2016

Dylan Williams, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn oedd un o'r siaradwyr yn ail Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru - digwyddiad cyfnewid gwybodaeth a gynhaliwyd yn rhad ac am ddim ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Cyflwynodd Mr Williams broffil y prif brosiectau trawsnewidiol sydd ar y gorwel yng ngogledd Cymru ac yn Ynys Môn, a chynnig ei sylwadau ynglŷn â sut y gall gogledd Cymru fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r fath ddatblygiadau’n eu cynnig i'r gadwyn gyflenwi.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2016

All aboard for a train ticket to bring Europe together again

Dyma erthygl yn Saesneg gan Nikolaos Papadogiannis , Ysgol Hanes ac Archaeoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2017

Anne sy'n Ymgeisydd PhD yn ennill Gwobr Effaith y Brifysgol

Llongyfarchiadau i Anne Collis, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, sydd wedi ennill Gwobr yr Is-ganghellor am Effaith Ymchwil Ôl-radd.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2015

Apwyntio Dr Rebecca Thomas yn Gymrawd Ôl-Ddoethurol yr Academi Brydeinig

Mae Dr Rebecca Thomas wedi ymuno â’r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas o fis Medi 2019 ymlaen fel Cymrawd Ôl-Ddoethurol yr Academi Brydeinig i weithio ar brosiect tair blynedd yn dwyn yr enw ‘Writing the Medieval Welsh World’.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2019

Ar frig y dosbarth: Myfyriwr hŷn, Bryn, yn canfod doniau cudd

Mae myfyriwr hŷn o Ynys Môn, a adawodd yr ysgol gyda 'llond llaw o ganlyniadau TGAU gwael', wedi gorffen ar frig ei ddosbarth ym Mhrifysgol Bangor. Mae Bryn Moore, sy'n 43 oed ac a adawodd yr ysgol yn 16, yn graddio'r wythnos hon gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol , a'r marciau gorau yn ei flwyddyn yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015

Arbenigwr ym maes iechyd meddwl ym Mangor yn helpu i lansio'r European Mental Health Integration Index

Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 10 Hydref. I nodi'r achlysur mae'r Mental Health Integration Index (MHII) yn edrych am y tro cyntaf ar y sialensiau sy'n gysylltiedig ag integreiddio Ewropeaid gyda salwch meddwl i gymdeithas a chyflogaeth yn y 28 o wledydd sy'n perthyn i'r Undeb Ewropeaidd, a hefyd Norwy a'r Swistir. Comisiynwyd yr ymchwil gan Janssen ac fe'i gwnaed gan yr Economics Intelligence Unit.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2014

Arbenigwyr yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor i drafod dyfodol cynllunio ieithyddol

Bydd arbenigwyr yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener, 8 Mawrth i gymryd rhan mewn symposiwm undydd i drafod dyfodol cynllunio ieithyddol. Mae 'Tu Hwnt i'r Dosbarth: Dyfodol Cynllunio Ieithyddol' yn dod yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2011, sy'n dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ystod y degawd diwethaf.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2013

Archeoleg fodern yn datgelu cyfrinachau Eliseg

Bydd Prynhawn Agored rhwng 2-5 Ddydd Sadwrn 8 Medi yn rhoi cyfle i’r cyhoedd canfod mwy am waith cloddio o gwmpas Colofn Eliseg, heneb garreg o’r nawfed ganrif OC a saif ar dwmpath ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen. Mae archeolegwyr o brifysgolion Bangor a Chaer yn cychwyn trydydd dymor o gloddio ar y safle rhwng 26 Awst -16 Medi 2012

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2012

Archeoleg fodern yn datgelu cyfrinachau Eliseg

Bydd archeolegwyr o brifysgolion Bangor a Chaer yn cychwyn ail dymor o waith cloddio o gwmpas Colofn Eliseg, heneb garreg o’r nawfed ganrif OC a saif ar dwmpath ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen, rhwng 4-16 Medi 2011. Bydd prynhawn agored ar y safle cloddio archeolegol ddydd Gwener 16 Hydref, rhwng 3- 6 y.p.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Awst 2011

Archeolegwyr yng Ngŵyl Gwyddoniaeth Bangor

Ymunwch â ni yn yr Arddangosfa Bydoedd Cudd yn ystod Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2014

Archifau Ystadau: Mapio Amlhaenog Diweddariad gan Jon Dollery

Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2021

Archwilio’r berthnas dymhestlog yr oedd Margaret Thatcher yn ei rhannu â Chymru

Ar raglen newydd ar Radio Wales, bu'r hanesydd o Fangor, Dr Andrew Edwards (Deon Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau) yn archwilio’r berthnas dymhestlog yr oedd Margaret Thatcher yn ei rhannu â Chymru. Darlledwyd Thatcherism and Wales fel rhan o gyfres Histories of Wales ar Radio Wales ar Ionawr 2il 2014. Gellir gwrando ar y rhaglen ar y ddolen hon: http://www.bbc.co.uk/programmes/b03mnmbf

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2014

Arddangosfa yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth trethi hanesyddol

Mae arddangosfa sy’n amlinellu hanes trethi yng Nghymru ac yn annog ymwelwyr i roi eu barn ar ddeddfwriaeth drethi gyntaf y wlad yn y cyfnod modern i’w gweld yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor tan 28 Tachwedd. Bu’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn lansio’r arddangosfa yn y Brifysgol cyn ymuno â’r cyfarfod Fforwm Trethi cyntaf yn y Gogledd. Grŵp o randdeiliaid yw’r Fforwm sy’n cynghori ar gyfraith trethi, gweinyddu a’r ffordd y caiff polisi a deddfwriaeth trethi Cymru eu datblygu. Mae’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol y Gyfraith hefyd yn aelod.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014

Arddangosfa: Astudiaethau Celtaidd ym Mangor

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019

Astudiaeth Fewnfudo WISERD yn y newyddion

Mae astudiaeth a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, fel rhan o WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru), wedi darparu data newydd ar farn pobl Cymru am fewnfudo a sut mae hyn yn cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2012

Astudiaeth yn awgrymu mai graddedigion gwyddorau cymdeithas sydd â’r rhagolygon gorau am yrfa

Mae gan raddedigion gwyddorau cymdeithas well rhagolygon am yrfa na raddedigion yn y celfyddydau neu wyddoniaeth, yn ôl astudiaeth gan yr Ymgyrch am Wyddorau Cymdeithas.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2013

Astudio/Gweithio Dramor yn 2020/21

Os hoffech chi ymgeisio i fynd dramor yn y flwyddyn academaidd 2020/21, hoffir eich atgoffa mai’r dyddiad cau yw 10 Rhagfyr 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019

Athro er Anrhydedd Prifysgol Bangor i arwain y gwaith ar addysgu hanes cyfoethog Cymru a adeiladwyd ar sail gwahaniaeth ac amrywiaeth

Mae’r Athro Charlotte Williams OBE wedi’i phenodi gan Lywodraeth Cymru i arwain gweithgor newydd i roi cyngor ar addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm ysgol, a gwella’r broses addysgu honno. Mae'r Athro Williams yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor a chyn Deon Cysylltiol ac Athro mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol RMIT, Melbourne, Awstralia. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2020

Athro o Brifysgol Bangor yn siarad â Grŵp Diddordeb Senedd Ewrop ar Iechyd Meddwl, Lles ac Anhwylderau Ymenyddol

Rhoddodd yr Athro Peter Huxley o'r Gaolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor arweiniad arbenigol i'r gwaith o ddatblygu mynegai cynhwysiant cymdeithasol iechyd meddwl (gan yr "Economist Intelligence Unit") sy'n cymharu'r polisïau a'r arferion cynhwysiant iechyd meddwl mewn 38 o wledydd yn Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2014

Banciau Bwyd ar gynnydd yng Nghymru

Bellach mae gan Gymru 157 banc bwyd, yn cefnogi pobol mewn peryg o beidio â gallu bwydo’u hunain a’u teuluoedd (data a gasglwyd Gorffennaf 2015), o gymharu ag 16 yn 1998. Daw’r ystadegau newydd hyn o broject ymchwil gan David Beck, myfyriwr PhD Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016

Bangor yn cymryd rhan yn y gynhadledd gwyddor gymdeithasol fwyaf yng Nghymru

Mae Cynhadledd Flynyddol Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), sydd bellach yn ei phumed flwyddyn, yn dwyn ynghyd ymarferwyr, llunwyr polisïau a gwyddonwyr cymdeithasol i drafod themâu fel iechyd; gofal cymdeithasol; lles; addysg; diwylliant a gwerthoedd; yr amgylchedd; marchnadoedd llafur; datganoli; a chymdeithas sifil.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2014

Bangor yn rhannu profiadau am ddatganoli Cymreig

Ddydd Gwener, 31 Mai 2019, aeth grŵp o ymchwilwyr o’r Ysgol, ac o’r brifysgol yn ehangach, i Awdurdod Cyfun Manceinion Ehangaf (GMCA – y corff sy’n cydlynu datganoli grymoedd i ardal Manceinion Ehangaf) er mwyn arwain gweithdy i rannu profiad Cymru o weinyddiaeth ddatganoledig .

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2019

Bangor yn uwch na Manceinion, Lerpwl a phrifysgolion eraill o ran profiad myfyrwyr

Rhoddwyd Prifysgol Bangor yn 18fed allan o 111 o brifysgolion y Deyrnas Unedig o ran profiad myfyrwyr mewn arolwg gan grŵp 'Times Higher Education'.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2014

Bangor yn ymuno â sesiwn holi ac ateb The Guardian heddiw

Mae Dr Roger Slack, Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Dulliau Ymchwilio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb The Guardian ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Cymdeithaseg heddiw (Mercher 18 Mai) rhwng 1.00- 4.00.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2011

Bangor yn yr 20 uchaf ym Mhrydain am safon Profiad Myfyrwyr yno

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Beth sy’n ein rhwystro rhag sefyll i gael ein ethol i’r Cynulliad?

Mae ymchwilwyr yng Ngholeg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor wedi ennill cytundeb ymchwil pwysig gan Fwrdd Taliadau Annibynnol Cymru y Cynulliad Cenedlaethol i nodi ac ymchwilio i rwystrau a all atal unigolion rhag cyflwyno eu henwau i gael eu hethol i'r Cynulliad.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2014

Britons see volunteering as a hobby or a way to network rather than a chore

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephanie Jones myfyrwraig PhD o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2017

Bwrsariaeth Ymchwil Ddathlu

Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn cynnig 5 Bwrsariaeth Ymchwil Ddathlu gwerth £7,000 yr un.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011

Bwyd Da Bangor

Mynychodd Dr Hefin Gwilym o'r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ddigwyddiad agoriadol Bwyd Da Bangor ddydd Llun, 1af Tachwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2021

Bywyd o wleidyddiaeth Llafur: Sgwrs gyda Kim Howells

Bydd y cyn-Aelod Seneddol ac aelod o gabinet Tony Blair, Dr Kim Howells yn cael ei holi mewn sgwrs ym Mhrifysgol Bangor nos Iau 23 Chwefror. Bydd y drydedd Dadl a Seminar Blynyddol er cof am yr Athro Duncan Tanner yn cychwyn am 5.30 yn Ystafell Teras 3 ym Mhrif Adeilad y Brifysgol ac yn addo bod yn noson ddifyr ble ceir clywed barn a phrofiadau Kim Howells, cyn-AS Pontypridd, ac un a weithredodd mewn sawl swydd weinidogol yn llywodraethau Blair a Brown. Bydd Kim Howells yn sgwrsio â’r Athro Andrew Edwards, hanesydd Llafur a Deon y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2017

CAHB Graduate Research Induction Event (MRes, MPhil, PhD)

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2019

CERQual: Dull newydd o gefnogi defnyddio tystiolaeth ansoddol wrth wneud penderfyniadau

Mae papur newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn PLOS Medicine yn disgrifio dull gweithredu arloesol ac eglur i asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn darganfyddiadau o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol. Bwriad y dull gweithredu newydd, a elwir yn CERQual (‘Confidence in the Evidence from Reviews of Qualitative research’), yw helpu rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol ar gyfer penderfyniadau a pholisiau’n ymwneud â gofal iechyd a lles cymdeithasol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2015

CYFARFOD CYNTAF YNG NGOGLEDD AMERICA

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016

CYFRES SEMINARAU SYYC 2016/17

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2016

CYNHADLEDD YMCHWIL ÔL-RADD Y GWANWYN

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2022

Cais Erasmus+ ar thema Radicaleiddio a Strategaethau Dadradicaleiddio

Aeth Dr Hefin Gwilym, ar ran yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, i gyfarfod cynllunio ar gyfer cais cyllido Erasmus+ ar thema 'Radicaleiddio Pobl Ifanc yn Ewrop: Strategaethau Dadradicaleiddio' ym Mhrifysgol Georg-Simon-Ohm, Nuremberg ar 15 Tachwedd. Mae rhwystro pobl ifanc rhag cael eu radicaleiddio a chryfhau eu dinasyddiaeth weithredol yn bynciau pwysig ledled Ewrop ar hyn o bryd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2016

Carto Cymru 2017: ‘Measuring the Meadows’

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017

Castell Gwrych: lleoliad hanesyddol I’m a Celebrity…

I nodi dechrau cyfres 2020 o I’m a Celebrity … Get Me Out of Here! yng Nghastell Gwrych yn Abergele, mae Prifysgol Bangor yn mynd ati i dynnu sylw at rywfaint o hanes y castell.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2020

Catherine yn derbyn gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn

Mae Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor wedi cael eu llongyfarch a diolchwyd iddynt am y gwaith allweddol y maent wedi ei wneud yn cefnogi eu cyd-fyfyrwyr. Gan Brifysgol Bangor y mae un o’r Cynlluniau Arweinwyr Cyfoed hynaf a mwyaf ymysg prifysgolion Prydain. Mae'r 'Arweinwyr Cyfoed' hyfforddedig yn chwarae rhan allweddol mewn cynorthwyo myfyrwyr newydd i ddod i ddygymod â bywyd prifysgol. Maent yn eu helpu gyda materion ymarferol megis symud i mewn a chanfod eu ffordd o amgylch y brifysgol, yn ogystal â’u cynorthwyo i ymaddasu i fywyd prifysgol a'u cyfeirio at wybodaeth a chefnogaeth bellach pan fo'r angen.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2017

Cefnogi Cynllun Enwogion Race Council Wales

Mae Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas yn falch o gael cefnogi Cynllun Enwogion Race Council Wales. Amcan y prosiect yw dathlu amrywiaeth drwy danlinellu llwyddiannau a chyfraniadau pobl dduon i hanes a diwylliant lleol a chenedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018

Cenedl, Dosbarth a Dicter

Mewn astudiaeth gymharol unigryw sydd newydd ei chyhoeddi mae Robin Mann, cymdeithasegydd a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod y gwahaniaethau yn y ffordd y mynegir hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr, a sut mae hunaniaeth genedlaethol yn effeithio ar agweddau tuag at faterion cyfoes megis Brexit a mewnfudo.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2017

Ceri yn mynd y 400 milltir ychwanegol ar gyfer Gofal Dementia a chlefyd Alzheimer

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor sy'n graddio'r wythnos hon wedi datblygu angerdd o'r fath ar gyfer ei phwnc, mae hi wedi beicio ar draws Fietnam.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor

Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017

Chwech o Brifysgol Bangor yn cael eu penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae chwe ymchwilydd ym maes iechyd a gofal cymunedol ym Mhrifysgol Bangor wedi'u penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2016

Cloddfa archeolegol yn agor i'r cyhoedd ar gyfer Gŵyl Archaeoleg Prydain

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i ymweld â chloddfa archeolegol sy'n unigryw i ogledd orllewin Cymru, ger Rhiw ym Mhen Llŷn y penwythnos hwn (15-16 Gorffennaf). Mae archeolegwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn cloddio ‘Project Meillionydd’ ( http://meillionydd.bangor.ac.uk/index.php.cy er 2010, dan arweiniad yr Athro Raimund Karl, Dr Kate Waddington a Katharina Möller o Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Bangor, ac maent yn cymryd rhan yng Ngŵyl Archaeoleg Cyngor Archaeoleg Prydain ( www.archaeologyfestival.org.uk ).

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017

Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi tair o Brifysgol Bangor

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi tair myfyrwraig o Fangor yn llysgenhadon er mwyn ceisio annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg ar lefel addysg uwch.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2016

Colli un o hoelion wyth Hanes Cymru

Ar 4 Hydref eleni bu farw’r Athro Emeritws John Gwynn Williams, gŵr a dreuliodd ei oes yn hyrwyddo a datblygu astudiaeth o hanes Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017

Cristnogion cynnar o Iwerddon a’r Alban yn wladychwyr cyntaf Ynys yr Iâ

Datgelir mewn gwaith archeolegol sydd newydd ei gyhoeddi nad Llychlynwyr o Sgandinafia oedd trigolion cyntaf Ynys yr Iâ ond, yn hytrach, ymfudwyr o Iwerddon neu lannau gorllewinol yr Alban. Mae pobl Ynys yr Iâ wedi ymddiddori ers amser maith yn yr ymfudwyr cynnar a sefydlodd eu cenedl - un o'r ynysoedd ieuengaf yn y byd i gael ei gwladychu - ac mae eu llyfrau hanes a'u chwedlau ar hyd y canrifoedd wedi datgan mai Llychlynwyr oedd preswylwyr cyntaf yr ynys. Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, " Viking beaters: Scots and Irish may have settled Iceland a century before Norsemen " wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Kristjan Ahronson. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2015

Croesawu Darlithwyr Newydd i Brifysgol Bangor

Unwaith eto eleni, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido rhagor o ddarlithwyr newydd i addysgu mewn gwahanol feysydd ar draws prifysgolion Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2015

Croesawu’r 7fed Colocwiwm ar Hanes Cymru i Fangor

Dros y penwythnos bydd Prifysgol Bangor y croesawu ysgolheigion amlwg o hyd a lled Prydain a thu hwnt, i’r Seithfed Colocwiwm ar Hanes Cymru’r Oesoedd Canol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2014

Croesawu’r 8fed Colocwiwm ar Hanes Cymru i Fangor

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2016

Cwrs Newydd: MA Gwaith Cymdeithasol

O Medi 2012, bydd Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor yn cynnig MA mewn Gwaith Cymdeithasol, yn amodol ar ddilysu gan Brifysgol Bangor a chydnabyddiaeth gan y Cyngor Gofal Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2012

Cydnabyddiaeth o Bwys i Archifau'r Brifysgol

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017

Cydweithio ag arlunydd i gyflwyno Cymdeithaseg ar ffurf cofiadwy

Mae dau academydd o Brifysgol Bangor wedi cydweithio â’r cartwnydd Huw Aaron er mwyn cyflwyno maes pwysig Cymdeithaseg ar ffurf hwyliog a chofiadwy yn y Gymraeg, gyda’r gobaith y bydd yn annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfa yn y maes.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2020

Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer prif Ganolfan Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol

Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer prif Ganolfan Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru ( WISERD ) wedi penodi Cyfarwyddwr newydd. Mae’r Athro Ian Rees Jones wedi cael ei benodi yn Gyfarwyddwr newydd WISERD. Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd yn arwain y Sefydliad sydd wedi dod yn brif ganolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, yng Nghymru ac y tu hwnt iddi. Sefydlwyd WISERD yn 2008 i ddod ag arbenigedd ymchwilwyr o brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, De Cymru ac Abertawe ynghyd.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013

Cyfle i Astudio am 20 Credyd yn yr Almaen yn ystod y Semester Cyntaf

Mae yna gyfle i 6 myfyriwr ail flwyddyn o’r Gwyddorau Cymdeithas i astudio am 10 diwrnod yn yr Almaen yn ystod y semester cyntaf yma, o 12 Tachwedd hyd at 22 Tachwedd. Mae’r modiwl 20 credyd yma, Ymwneud Gwirfoddolwyr yn Ewrop, yn cael ei gefnogi gan Erasmus ac wedi ei ddilysu gan Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2012

Cyfle i wneud interniaeth wedi'i chyllido yn y gwaith cloddio ym Meillionydd

Fel rhan o Gynllun Interniaeth Prifysgol Bangor i Israddedigion yn 2014/15, mae'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn cynnig interniaeth o 01-29/06/2015 yn y gwaith cloddio a gynhelir ym Mhroject Meillionydd. Gwaith cloddio yw hwn mewn lloc cylchfur dwbl yn Meillionydd, ger Y Rhiw ar benrhyn Llŷn.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015

Cyflwyniad i leoliadau gwaith a gwaith gwirfoddol yng Nghastell Penrhyn

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2017

Cyfraith a Threfn a Frasier

Ar ochr ysgafnach ysgolheictod, cyhoeddodd yr Athro Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, erthygl eleni gyda’i gyfoed, Olga Litvinova, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, am wrthdaro a chyfraith yn y gyfres gomedi Frasier .

Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2020

Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC i ariannu project ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru

Arloesi a dysgu o fewn Heddlu Gogledd Cymru fydd canolbwynt project cydweithrediadol newydd a arweinir gan Ysgol Busnes Bangor, diolch i grant ymchwil mawr.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016

Cyfrol Er Anrhydedd yr Athro John Christopher Thomas

Llongyfarchiadau i’r Athro John Christopher Thomas (PhD, Prifysgol Sheffield), Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Pentecostaidd a Charismataidd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, ar fod y derbynnydd diweddaraf i gael Fetschrift wedi’i hysgrifennu er anrhydedd iddo.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2021

Cylch Trafod Rhyngwladol ym Mangor

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Cyllid ar gael i ddwy Gymrodoriaeth PhD

Mae'n bleser gan Fenter Gydweithredol Academaidd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol (ASCCA) gyhoeddi y bydd cyllid ar gael i ddwy Gymrodoriaeth PhD i ddechrau yn 2014. Gwahoddir ceisiadau gan ymarferwyr, rheolwyr ac addysgwyr cymwys ym maes gofal cymdeithasol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2014

Cymdeithasegydd o Brifysgol Bangor yn Niwrnod Ewrop yn Kazan, Ffederasiwn Rwsia

Roedd yr Athro Howard Davis yn un o’r siaradwyr gwadd mewn trafodaeth gyhoeddus ar y pwnc ‘Crefydd ac Amrywiaeth’ a gynhaliwyd yn Kazan, prifddinas Gweriniaeth Tatarstan, Ffederasiwn Rwsia, ar 26 Mawrth 2011.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011

Cymhwyso GRADE-CERQual i ganfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol - Cyfres newydd o bapurau

Mae cyfres o bapurau a gyhoeddwyd yn Implementation Science yr wythnos hon yn rhoi canllawiau ar sut i gymhwyso'r dull GRADE-CERQual. Mae CERQual yn helpu i asesu faint o hyder y dylid ei roi yng nghanfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018

Cymrawd Academi y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae gan Brifysgol Bangor ei hail Gymrawd erioed o Academi y Gwyddorau Cymdeithasol gyda Chymrodoriaeth i Howard Davis, Athro Theori a Sefydliadau Cymdeithasol yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019

Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Meave Leakey

Mae Prifysgol Bangor wedi cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Dr Meave Leakey, y palaeontolegydd byd-enwog a raddiodd gyda graddau BSc a PhD o Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2014

Cymru ar flaen y gad mewn Ymchwilio i Gymdeithas Sifil

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael dros £7 miliwn yn dilyn cais llwyddiannus i’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014

Cymru ar flaen y gad mewn Ymchwilio i Gymdeithas Sifil - Sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael £7 miliwn ar gyfer ymchwil gwyddorau cymdeithasol

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael dros £7 miliwn yn dilyn cais llwyddiannus i’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014

Cyn-fyfyriwr Bangor yn dychwelyd i ogledd Cymru fel arbenigwr Antiques Roadshow

Bydd cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn dychwelyd i ogledd Cymru fel arbenigwr ar gyfer y rhaglen boblogaidd BBC Antiques Roadshow yr wythnos hon. Ar ddydd Iau 4 Mehefin, bydd yr Antiques Roadshow yn ymweld â Phlas Newydd, Ynys Môn.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015

Cyn-fyfyriwr yn Brif Olygydd North Wales Live a’r Daily Post

Yn ddiweddar, penodwyd Dion Jones, cyn-fyfyriwr BA Hanes gyda Newyddiaduraeth yma ym Mangor, i swydd Prif Olygydd North Wales Live a’r Daily Post. Dyma ychydig o’i hanes a sut y mae gradd o Fangor wedi helpu ei yrfa:

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2020

Cynhadledd Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru

Rhwng y 25ain a’r 27ain o Orffennaf bydd Bangor, Dinas Dysg, yn croesawu casgliad o ôl-raddedigion ifanc, academyddion gyrfa gynnar ac ysgolheigion profiadol o’r DU, ac o cyn belled ag Ontario, Canada, wrth iddi gynnal 12fed cynhadledd ddwyflynyddol Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru 2018.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018

Cynhadledd Ethnograffeg a Ffiniau Symudol Plismona

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2019

Cynhadledd Gwyddorau Cymdeithas Bangor ar Intersectionality a Pherthyn (28-29 Mehefin)

Ar Ddydd Iau a dydd Gwener, 28 a 29 Mehefin, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd ryngwladol yn edrych ar themâu intersectionality a pherthyn. Mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor, Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Canolfan Ymchwil ar Fudo, Ffoaduriaid a Pherthyn ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain, yn ogystal â’r British Sociological Association Social Theory Study Group.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2012

Cynhadledd Gwyddorau Cymdeithasol fwyaf

Cynhelir cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd yr wythnos hon (30 Mehefin – 2 Gorffennaf).

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2015

Cynhadledd Prifysgol am archwilio dyfodol y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru

Bydd cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor yn archwilio goblygiadau deddf newydd hanesyddol i drawsnewid y gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2014

Cynhadledd yn ystyried Chwyldro ym mywydau oddeutu hanner miliwn o bobl Cymru

During 2015 around 500,000 households across Wales will start to feel the effects of the new Universal Credit. What effects, will this huge change have on the disabled and unemployed; landlords and tenants or paying for child care? A Conference at Bangor University will discuss this momentous change. It is organised by Bangor University with the cooperation of the Coleg Cymraeg Cenedlaethol and will be held at Reichel Hall on Friday 23 January 2015. It is the only open event in Wales, as far as organisers are aware, which will discuss the new changes.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2015

Cynllun Rheoli Ariannol i Raddedigion 2019 - GIG Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2018

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cynllun peilot Cymrodoriaethau Academaidd gyda Phrifysgol Bangor

Mae dau academydd o Brifysgol Bangor i rannu eu harbenigedd i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddatblygu polisi ac ymarfer er budd pobl Cymru. Bydd Dr Alexandra Plows o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, a Dr Catrin Hedd Jones o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd , yn treulio amser yn gweithio ar brojectau penodol gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, dan Gymrodoriaethau Academaidd newydd sy'n cael eu peilotio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth a Barddoniaeth Bangor

Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn cynnal Cystadleuaeth Ffotograffiaeth a Barddoniaeth fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC. Mae dau gategori, sef 14 i 18 oed ac 18+. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeision yw Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2016.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2016

DARLITH PENRHYN YN LLWYDDIANT YSGUBOL

Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016

Darlith gyhoeddus yn canolbwyntio ar Gymru'r oesoedd canol cynnar

Mae hunaniaeth yn destun dadleuol yn y gymdeithas sydd ohoni ac yr un modd mae'n destun dadlau brwd rhwng archeolegwyr yr oesoedd canol cynnar. Dyna fydd pwnc darlith gyhoeddus a roddir gan yr hanesydd blaenllaw, Yr Athro Nancy Edwards, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mawrth, 31 Ionawr am 6.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Teitl y ddarlith yw ' Early medieval Wales: material evidence and identity', ac mae croeso i bawb ddod iddi.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017

Darlithiwr yn defnyddio trydar i helpu disgyblion astudio

Yn dilyn llwyddiant a phoblogrwydd cyfrif trydar Adolygu Cymdeithaseg , a lansiwyd y flwyddyn ddiwethaf, bydd darlithydd o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor yn ail gychwyn trydar negeseuon adolygu Cymdeithaseg yn y Gymraeg i ddisgyblion Lefel A Cymru yr wythnos hon.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2015

Darlithydd Prifysgol Bangor yn Feistres Defod y Coroni

Mae Dr Rhian Siân Hodges, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael ei dewis yn Feistres Defod y Coroni yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2015

Darlithydd WISERD yn trafod patrymau ymfudiad i Gymru ar BBC Radio Cymru

Bu Dr Robin Mann, Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac WISERD ym Mhrifysgol Bangor, yn cymryd rhan yn rhaglen Taro’r Post ar BBC Radio Cymru, lle bu’n trafod ymfudiad i Gymru.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Darlithydd o Fangor yn Cymryd ei Arbenigrwydd i’r Ffindir

Bu Dr Stefan Machura, Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor, yn treulio wythnos yn y Ffindir fel Darlithydd ar Ymweliad.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2011

Darlithydd yn cyhoeddi gwerslyfr anghonfensiynol

Mae Marcel Stoetzler, Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg, newydd gyhoeddi ei lyfr newydd, Beginning Classical Social Theory , gyda Manchester University Press .

Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2017

Darlithydd yn cymryd rhan mewn cyfnewid staff i Wlad y Basg

Bu darlithydd o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar daith cyfnewid staff Erasmus i Wlad y Basg, yng Ngogledd Sbaen, yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012

Darlithydd yn dechrau blwyddyn academaidd newydd gyda dwy wobr

Mae Dr Teresa Crew, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithaso l, yn cychwyn ar flwyddyn newydd o ddarlithio ym Mhrifysgol Bangor yn ddeiliad dwy wobr arbennig. Gwobrwywyd Dr Crew gyda Gwobr Outstanding Teaching in Social Policy gan y Social Policy Association. Hefyd, yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol yn ddiweddar, fe ddyfarnwyd Cymrodoriaeth Dysgu’r Brifysgol i Teresa, sydd yn Gydlynydd y Flwyddyn Gyntaf ( Gwyddorau Cymdeithas ) yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas .

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2018

Darlithydd yn dod yn Uwch Gymrawd

Mae Dr Sue Johns, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ar gyfer yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, wedi cael ei chydnabod fel Uwch Gymrawd gan yr Academi Addysg Uwch (AAU). Mae hi’n gyfrifol am ansawdd dysgu ac addysgu yn yr Ysgol; mae hyn yn cynnwys holl agweddau’r ddarpariaeth, o oruchwylio prosesau dilysu modylau newydd i ddatblygu strategaeth i sicrhau datblygiad parhaus y cynllun gradd. Mae Uwch Gymrydoriaeth yn gategori o gydnabyddiaeth sy’n dynodi profiad helaeth wrth arwain a darparu dysgu ac addysgu mewn Addysg Uwch. Yn nodweddiadol bydd gan Uwch Gymrodyr brofiad o arweinyddiaeth strategol ar lefel Ysgol, cyfrifoldeb am wirio ansawdd a llunio pholisi yn ogystal â medru arddangos impact oddi mewn i’w Hysgol a’u Sefydliad.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2014

Darlithydd yn ennill y Fedal Ddrama

Congratulations to our Dr Gareth Evans-Jones who is a lecturer in Religious Studies for being awarded the Playwright Medal in the AmGen National Eisteddfod this year, and for the second time.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2021

Darlithydd yn trydar i helpu disgyblion astudio

Mae darlithydd o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor yn paratoi i ddefnyddio Twitter fel adnodd adolygu ar gyfer disgyblion chweched dosbarth. Fel rhan o raglen o waith er mwyn pontio'r bwlch rhwng ysgolion ac astudio Cymdeithaseg yn y Brifysgol, bydd Cynog Prys, Cymdeithasegydd sy’n arbenigo yn y defnydd o Gymraeg ar lein, yn cyflwyno cyngor adolygu o’r cyfrif Twitter @CymdeithasegUG yn ystod y tair wythnos cyn arholiadau lefel A yr haf yma.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014

Darllenwch rifyn diweddaraf cylchlythyr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor

Cliciwch yma i ddarllen y newyddion a digwyddiadau diweddaraf yng nghylchlythyr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2011

Dathlu 50 mlynedd o ragoriaeth ymchwil

Cynhaliwyd Diwrnod Ymchwil Ysgol Gyfan gan yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yr wythnos ddiwethaf fel rhan o'i dathliadau hanner canmlwyddiant.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2016

Dathlu Canlyniadau Gwych yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr

Mewn blwyddyn pan ddaeth Prifysgol Bangor i’r brig yng Nghymru a chyrraedd y 10 uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr, mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wrthi’n dathlu ei chanlyniadau gwych ei hun yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2015

Dathlu Merched!

Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas yn dathlu Mis Hanes Merched

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2021

Dathlu cyfraniadau eithriadol i addysgu a dysgu

Cyflwynwyd Gymrodoriaethau Addysgu yng Ngholeg Celfyddydau, Dynoliaethau a Busnes eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2021

Dathlu ymchwil i’r gymdeithas sifil: pennod newydd

Yr wythnos hon lansiodd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru ( WISERD , cydfenter rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor , Caerdydd, De Cymru ac Abertawe), eu cynllun pum mlynedd ar gyfer ymchwil i’r gymdeithas sifil mewn digwyddiad i randdeiliaid yn y Senedd. Bydd eu hymchwil newydd yn edrych ar anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, mudo ac amlddiwylliannaeth, yr economi sylfaenol, deinameg newidiol gwaith, a hawliau anifeiliaid a deallusrwydd artiffisial. Mynychodd dros 70 o bobl Dathlu ymchwil i’r gymdeithas sifil – pennod newydd, gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat, polisi a’r trydydd sector. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Mark Drakeford, AC, Prif Weinidog Cymru a’r Athro Alison Park, Cyfarwyddwr Ymchwil yn y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2020

Dau semester ym Mhrifysgol Bond yn Awstralia

Darllenwch ‘Blog’ Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Alex Wuergler.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2018

Defnyddio'r gwyddorau cymdeithas i fynd i'r afael â thlodi

Daeth myfyrwyr chweched dosbarth o Ysgol David Hughes, Ysgol Tryfan ac Ysgol Friars i gynhadledd undydd ym Mhrifysgol Bangor ar 7 Tachwedd i drafod y Gwyddorau Cymdeithas a syniadau ar gyfer eu haseiniadau ar gyfer Bagloriaeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2016

Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned

Fel rhan o werthusiad o Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas , Prifysgol Bangor i’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn chwe chymuned yng Nghymru. Canfuwyd bod sefyllfa’r Gymraeg yn parhau i fod yn fregus o fewn cymunedau’r astudiaeth sef Aberteifi, Aberystwyth, Bangor, Llanrwst, Porthmadog a Rhydaman. Er hynny, gwelwyd tystiolaeth o ddefnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau yn ogystal ag awydd i gael mwy o gyfleoedd amrywiol i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn bywyd bob dydd (e.e. wrth siopa neu dderbyn gwasanaethau cyhoeddus).

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015

Digartrefedd - cymharu dulliau

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2020

Diwylliannau, Heriau ac anghyfiawnderau: Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yng Ngŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol eto eleni, gan estyn gwahoddiad i’r cyhoedd fynychu amrediad eang o ddigwyddiadau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Dod â Gwyddorau Cymdeithas yn fyw ym Mangor

Cafodd disgyblion chweched dosbarth o bob cwr o Ogledd Cymru gyfle i elwa ar gyflwyniad cynhwysfawr i wyddorau cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor. Daeth dros 100 o ddisgyblion i Ddiwrnod Gwŷl yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar ddydd Mercher, 9 Tachwedd, lle cawsant eu harwain gan staff a myfyrwyr Bangor drwy gyfres o sesiynau rhyngweithiol ym meysydd cymdeithaseg, troseddeg a gofal iechyd a chymdeithasol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2016

Dod â’r oesoedd canol i’r oes ddigidol

Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2015

Dosbarth 2015: gwobrau a ddyfarnwyd i israddedigion gorau'r flwyddyn

Llongyfarchiadau i'n holl fyfyrwyr a raddiodd o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yr wythnos ddiwethaf. Yn dilyn y seremoni raddio cafwyd derbyniad i'r graddedigion a'u teuluoedd yn y Ganolfan Rheolaeth, lle cyflwynwyd gwobrau i'r israddedigion a berfformiodd orau yn y flwyddyn.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2015

Dosbarth cymdeithasol yn rhwystr i heneiddio llwyddiannus

Mae ymchwil gan Ian Rees Jones, Athro Cymdeithaseg yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, wedi dangos bod gwell cyfleusterau addysg a thai, a gwella amodau materol pobl drwy lefelau incwm a phensiwn uwch, yn gallu cael mwy o effaith er gwell ar iechyd y boblogaeth nag ymyriadau wedi’u hanelu at newid ymddygiadau iechyd unigolion.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011

Dosbarth graddedigion 2013 o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Ddydd Llun, 15 Gorffennaf 2013, graddiodd 118 o fyfyrwyr o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2013

Dr Marcel Stoetzler wedi ei wneud yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd gan y Pears Institute

Mae Dr Marcel Stoetzler, Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg ym Mangor, wedi cael ei wneud yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd gyda'r Pears Institute for the Study of Antisemitism, Coleg Birkbeck, Prifysgol Llundain.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2017

Dr Rebecca Thomas yn ennill Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt 2021.

Llongyfarchiadau i Dr Rebecca Thomas, Cymrawd ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ar ennill Gwobr YsgrifO’r Pedwar Gwynt(mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) am ei hysgrif, ‘Cribo’r Dragon’s Back’.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2021

Dr Stefan Machura yn cael ei ethol i fwrdd ymchwil y Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol

Yn ddiweddar, cafodd Stefan Machura, sef uwch Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, ei ethol i fwrdd y Pwyllgor Ymchwil ar Gymdeithaseg y Gyfraith, sydd yn adran o’r Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2014

Dr. Bethan Loftus yn cael ei gwahodd i gyflwyno ei hymchwil ar blismona cudd ym Mhrifysgol Rhydychen

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018

Drink a Glass of Water for World Kidney Day

Mae Diwrnod Arennau'r Byd (9 Mawrth 2017) yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gynnal ledled y byd i addysgu a chodi ymwybyddiaeth a chaiff ei gynnal ar yr ail ddydd Iau ym mis Mawrth. Bob blwyddyn, cynhelir digwyddiadau dirifedi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan elusennau arennol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, grwpiau cleifion ac unigolion sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Yfwch wydraid o ddŵr a dangoswch eich cefnogaeth ar twitter # @kidneydayUK -

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017

Dwy Ddarlith ar Hanes Cymru

Bydd dau gyfnod gwahanol iawn yn hanes Cymru o dan y chwyddwydr mewn dwy ddarlith ym Mhrifysgol Bangor ar 7 a 12 Tachwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2014

Dyfarnu Aur i Fangor

Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon. Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Dyfarnu Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yn y Brifysgol

Dr Alexander Sedlmaier, a reader in Modern History at Bangor University has been awarded a prestigious Marie Skłodowska-Curie Fellowship . These highly competitive fellowships are aimed at fostering interdisciplinary research, innovative academic training and international collaborations.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2017

Dyfarnu Cymrodoriaeth Ymchwil o fri i Archaeolegydd o Fangor

Mae cronfa cymrodoriaeth tair mlynedd Ymchwil Leverhulme wedi-i ddyfarnu i'r Athro Nancy Edwards, Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2015

Dyfarnu Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Wybodaeth (KESS II) yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wedi dyfarnu dwy ysgoloriaeth KESS: un grant Gradd Meistr trwy Ymchwil 12 mis ac un grant PhD tair blynedd. Mae prosiectau Kess yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr Doethuriaeth a Gradd Meistr trwy Ymchwil wedi eu hariannu mewn cydweithrediad â'r cwmni partner.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016

Dyfarnu grant pwysig i brosiect 'smART cities and waste'

Dyfarnwyd grant rhwydwaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau sy'n werth £37,449 i Dr Alexandra Plows ar gyfer prosiect 'smART cities and waste'.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016

Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Cyflwynwyd medalau Cwmni'r Brethynwyr i ddau fyfyriwr o Brifysgol Bangor. Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig. Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018

Dylid canfod ‘edau aur’ i gefnogi economi’r rhanbarth

Mae un o brif ganfyddiadau adroddiad cwmpasu ar economi gogledd Cymru yn awgrymu bod rhan-ddeiliaid mewn economi’r rhanbarth yn ceisio sicrhau bod ‘edau aur’ yn rhedeg drwy’r gadwyn gyflenwi er mwyn galluogi i gwmnïau bach lleol gael budd o gyfleoedd economaidd sy’n dod mewn i’r rhanbarth. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru gyfle, drwy’r potensial i gael pwerau datganoledig ar reolau caffael, i sicrhau swyddi o ansawdd a thelerau ac amodau gwaith o ansawdd i weithwyr ar brojectau mewnfuddsoddiadau

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2017

Dyma Shân mewn Cwmni Da!

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C. Mae Shân Pritchard sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth KESS i astudio ar gyfer PhD mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da. Diolch i’r ysgoloriaeth arbennig hwn, caiff Shân y cyfle i weithio ar nifer o brosiectau cyffrous, megis ‘Dyma Fi’.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015

Dynodi Statws Athro ar Ymweliad i Academydd o Ysgol Hanes, y Gyfraith, a Gwyddorau Cymdeithas

Mae’r Athro Lucy Huskinson wedi derbyn swydd Athro ar Ymweliad yn y Pontificia Universidad Católica De Chile, y Brifysgol uchaf ei statws yn America Ladin.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2021

EMPYRE: Project Gwaith Ieuenctid yn Ewrop

Mae'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas bellach yn un o bartneriaid project Erasmus EMPYRE sydd yn canolbwyntio ar waith ieuenctid yn Ewrop. Mae sefydliadau addysg uwch eraill o bob cwr o'r Undeb Ewropeaidd a sefydliadau elusennol mewn pedair gwlad yn bartneriaid yn y project, sy'n archwilio, yn casglu ac yn datblygu arferion gwaith ieuenctid llwyddiannus sy'n cael eu defnyddio i rymuso pobl ifanc yn Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019

Edrych yn ôl ar 50 mlynedd o wyddorau cymdeithas

Roedd yn gyfnod euraid i Brifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf wrth i'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ddathlu ei hanner canmlwyddiant. Ymunodd staff a myfyrwyr o’r gorffennol a'r presennol ar y campws i ddathlu twf a chyflawniad yr ysgol ers ei sefydlu yn 1966.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016

Effeithiau Datganoli ar Bolisi Cymdeithasol Cymru

Mae’n bleser o’r mwyaf gweld bod cyfrol a gyd-olygwyd rhwng Dr Hefin Gwilym, Darlithydd Polisi Cymdeithasol yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, a Charlotte Williams, yn cael ei thrydedd-argraffu, sef Social Policy for Welfare Practice in Wales (BASW 2021).

Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2021

Efrydiaeth MA Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2014

Efrydiaeth PhD AHRC mewn Archaeoleg

Gwahoddir ceisiadau gan Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau Efrydiaeth PhD AHRC mewn Archaeoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012

Efrydiaeth PhD lawn-amser: 'Ffurfiau Lleol ar Gymdeithas Sifil yn Trawsnewid'

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser, dan nawdd WISERD, o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, yn dechrau ar 1 Hydref 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2015

Efrydiaeth PhD: Cymdeithas Sifil WISERD

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser, dan nawdd WISERD, o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, yn dechrau ar 1 Hydref 2015 neu’n fuan ar ôl hynny.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015

Efrydiaeth PhD: Cymdeithas Sifil WISERD

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser, dan nawdd WISERD, o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, yn dechrau ar 1 Hydref 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2015

Efrydiaethau PhD: Ffiniau, ymfudo a chymdeithas sifil

Gwahoddir ceisiadau am ddwy efrydiaeth PhD a ariennir yn llawn, a gynigir fel rhan o ganolfan ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD , a ariennir gan yr ESRC.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2019

Efrydiaethau PhD: Ffiniau, ymfudo a chymdeithas sifil

Gwahoddir ceisiadau am ddwy efrydiaeth PhD a ariennir yn llawn, a gynigir fel rhan o ganolfan ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD , a ariennir gan yr ESRC. Bydd yr efrydiaethau wedi'u lleoli yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2020

Eisiau dysgu mwy am gyfloedd i astudio dramor?

Bydd Andrew Griffith, Swyddog Ryngwladol y Brifysgol, yn cynnal sesiwn wybodaeth cyffredinol am gyfleoedd i astudio dramor ar yr amseroedd canlynol...

Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2012

Eisteddfod Genedlaethol- Gweithgareddau Dydd Mercher: Hanes, Aduniad a Cherddoriaeth

Y Brifysgol Ddoe a Heddiw; Aduniad; Cerddoriaeth: Trydedd Iaith ein Cenedl?

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Eisteddfod Genedlaethol- Gweithgareddau Prifysgol Bangor Dydd Mawrth

Pontio’n datgelu manylion y cynhyrchiad Cymraeg gyntaf i’w lwyfannu yn y ganolfan newydd & Dathlu hyfforddi gweithwyr cymdeithasol drwy’r iaith Gymraeg

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Enwebiadau Gwobrau Dysgu dan arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Rydym yn falch o gyhoeddi bod saith o staff yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg wedi eu henwebu ar gyfer Gwobrau Dysgu dan arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor 2013: pump ohonynt am Athro/ Athrawes y Flwyddyn dau am Oruchwylydd Traethodau Hir/Thesis y Flwyddyn ac un am Aelod o Staff Cymorth y Flwyddyn.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013

Erin Hughes yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd

Enillydd Coron Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed 2018 yw myfyrwraig Prifysgol Bangor, Erin Hughes o Ben Llŷn. Mae’n ennill am ddarn o ryddiaith ar y thema ‘Terfysg’, i ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, Catrin Beard a Lleucu Roberts. Mae Erin, 20, yn byw yng Ngheidio, yn ardal Boduan ger Pwllheli ac yn blentyn canol o bump o blant.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2018

Erthygl ar y rhestr fer cystadleuaeth y Western Mail, ‘The most important object in Welsh History'.

Mae erthygl a ysgrifennwyd gan Nia Powell, Darlithydd yn Hanes Cymru, wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer yng nghystadleuaeth y Western Mail, ‘The most important object in Welsh History'. 3314281

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2013

Estyn allan i leihau hunan-niwed a hunanladdiad

Tra bo llawer o ymchwil wedi cael ei gwneud i hunan-niwed a hunanladdiad ymhlith pobl Ewrop ac America, ac mae dealltwriaeth o'r ffactorau risg, rydym yn gwybod llawer iawn llai am yr ymddygiadau hyn yn ne Asia, lle mae'r cyfraddau'n uchel iawn. Mae Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas Prifysgol Bangor wedi derbyn grant clodwiw o gronfa ymchwil heriau byd-eang Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig i weithio gyda chydweithwyr yn India a Phacistan i ymdrin â'r materion hyn. Bydd y project yn rhoi'r sgiliau i ymchwilwyr lleol y mae arnynt eu hangen i ddatblygu rhaglenni hir dymor i leihau marwolaeth, anabledd a thrallod. Mae'r Grant Galluogi yn elfen allweddol yn strategaeth cymorth y DU i dyfu'r sylfaen ymchwil yn y DU a chryfhau gallu dramor. Y nod yw mynd i'r afael â sialensiau ymchwil sy'n ymateb i anghenion a fynegwyd mewn gwledydd sy'n datblygu.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017

Estyniad i ddyddiad cau Efrydiaethau PhD Menter Gydweithredol Academaidd Cymru i Ymchwil Gofal Cymdeithasol (ASCC)

Rydym yn falch o gyhoeddi bod estyniad wedi ei roi i ddyddiad cau Efrydiaethau PhD Menter Gydweithredol Academaidd Cymru i Ymchwil Gofal Cymdeithasol (ASCC). Rhaid i rai sy’n dymuno gwneud cais ei anfon erbyn y dyddiad cau newydd, sef Dydd Llun, 30 Medi 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2013

Ethol Athro o Fangor yn Gymrawd o’r Academi Brydeinig

Mae hanesydd ac archeolegydd blaenllaw o Brifysgol Bangor wedi ei hethol yn Gymrawd o’r Academi Brydeinig ( FBA ). Mae Nancy Edwards, Athro Archaeoleg Ganoloesol yn Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg y Brifysgol wedi derbyn y Gymrodoriaeth, sef yr anrhydedd uchaf y gall ysgolhaig yn y celfyddydau a'r dyniaethau ei gael ym Mhrydain, mewn cydnabyddiaeth o’i chyfraniad nodedig i ymchwil mewn archeoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2016

Ethol Athro yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Y mae Huw Pryce, Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, wedi’i ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn Etholiad Agoriadol y Gymdeithas o gymrodyr newydd yn 2011.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

Family habit of inheriting volunteer roles could help small charities

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephanie Jones, Myfyrwraig Phd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn r #mce_temp_url# hannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018

Fe all llyfr newydd gyfranu at ddiogelu henebion Cymru

Mae Athro ym Mhrifysgol Bangor newydd gyhoeddi'r drydedd gyfrol a'r olaf mewn cyfres o lyfrau sy'n rhoi golwg gwerthfawr i ni ar henebion yr oesoedd canol cynnar yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2013

Fears for offender rehabilitation as Britain embraces US-style probation

Dyma erthygl yn Saesneg gan Martina Y. Feilzer o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor a John Deering , Prifysgol De Cymru, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015

Ffair Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018

Ffair y Gyfraith Prifysgol Bangor, 20 Tachwedd 2019

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2019

Fflur yn ennill gradd dosbarth cyntaf a gwobr uchaf y Brifysgol

Fflur Elin o Donyrefail yw enillydd Gwobr Dr John Robert Jones o fewn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg eleni. Hon yw un o brif wobrau Prifysgol Bangor, sy’n cael ei ddyfarnu i’r graddedigion gorau yn eu maes pwnc.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015

Food banks are becoming institutionalised in the UK

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Dave Beck o’r Ysgol Hanes. Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2019

From Salad Cream to the Severn bridge, renaming is an emotive issue

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Sarah Louise Wheeler, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg) yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2018

GALW AM BAPURAU: PATRYMAU PATRIARCHAIDD? SWYDDOGAETHAU A PHROFIADAU MERCHED AR YSTADAU TIRIOG CYMRU

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018

GALWAD AM BAPURAU / POSTERI: Cynhadledd Flynyddol WISERD 2020

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2020

Galwad agored am gynigion gan Grwpiau Datblygu Ymchwil

Mae gan Fenter Gydweithredol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Academaidd Cymru Gyfan (ASCC) alwad agored am gynigion gan Grwpiau Datblygu Ymchwil (RDGs). Diben yr RDGs yw cynyddu'r gallu i ymchwilio a chynhyrchu deunyddiau ym maes ymchwilio gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae cronfeydd RDG ar gael yn benodol i alluogi grwpiau i ysgrifennu a chyflwyno cynigion am brojectau ymchwil ar raddfa fawr.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2014

Galwad am Bapurau Gweithdy Hanes Pobl Ddu ym Mhrydain

Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2021

Generation Beth yn datgelu cenhedlaeth sy’n gwerthfawrogi eu pleidlais ac yn teimlo’n Ewropeaidd

Mae S4C yn galw ar Gymry ifanc i rannu eu profiadau fel rhan o broject rhyngweithiol Ewropeaidd. Gwahoddir y darlithydd Dr Cynog Prys a myfyriwr doethuriaeth Shân Pritchard, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas , i drafod a dadansoddi canfyddiadau’r project sydd â phartneriaid mewn 12 o wledydd Ewropeaidd. Mae’r project arloesol hwn, sef ‘ Generation Beth ’ yn esblygiad o arolwg hynod o lwyddiannus a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2013 a elwir yn ‘Generation Quoi’. Y tro hwn, mae 12 o wledydd, gan gynnwys Cymru wedi ymuno â Ffrainc i greu digwyddiad gwirioneddol Ewropeaidd. Mae'r project yng Nghymru yn cael ei arwain gan S4C a'r cwmni cynhyrchu Cwmni Da.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016

Golwg newydd ar Gymru yng Nghynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America

Bydd academyddion a myfyrwyr rhyngwladol sydd yn astudio Hanes Cymru yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon (25 - 27 Gorffennaf), wrth i’r Brifysgol groesawu 12fed cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America 2018 . Cynhelir y gynhadledd hon bob dwy flynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018

Golygu cyfrol newydd

Llongyfarchiadau i ddau aelod o staff Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Dr Owain Wyn Jones a Dr Rebecca Thomas, ar gyd-olygu’r gyfrol newydd The Chronicles of Medieval Wales and the March [ : ] New Contexts, Studies and Texts .

Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2020

Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i Eira

Mae Eira Winrow, 38, sydd yn wreiddiol o Gaergybi, newydd raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth gyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Gradd a gwobr i ferch o’r Bala

Ar ôl tair blynedd anhygoel, bydd cyn-fyfyrwraig Ysgol Y Berwyn, Y Bala yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yn nathliadau’r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Nid yn unig bydd Anna Prysor Jones, 20, Arenig, Y Bala yn graddio gyda BA Cymraeg a Hanes Cymru ond fe fydd hefyd yn derbyn Gwobr Blanche Elwy Hughes gwerth £100.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015

Gradd dosbarth cyntaf i ferch o Lŷn

Ar ôl tair blynedd anhygoel, bydd cyn-fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yn nathliadau’r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Gradd meistr KESS a gaiff ei ariannu’n llawn: dyddiad cau 29/01/14

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer gradd Meistr ymchwil wedi ei ariannu’n llawn, wedi ei leoli yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2014

Gradd plismona newydd gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn dechrau yn 2019/20

O fis Medi 2019, bydd Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai (GLlM), yn cynnig gradd israddedig mewn Plismona Proffesiynol sydd wedi ei thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Bydd hyn yn cyflwyno sgiliau i'r myfyrwyr y byddant eu hangen i weithio fel swyddogion heddlu ac mae'n adeiladu ar y Radd Sylfaen lwyddiannus iawn mewn Plismona a fu’n cael ei chynnig ers rhai blynyddoedd gan GLlM.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019

Grant Bach wedi’i ddyfarnu gan ESRC

Mae Dr. Simon Cottee wedi ennill grant bach gan ESRC i gynnal project ymchwil ar brofiadau cyn-Fwslemiaid sy’n byw yng ngwledydd Prydain, a’r sialensiau sy’n eu hwynebu.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011

Grant nodedig ar gyfer ymchwil i Hanes Ewrop i hanesydd o Fangor

Yn ddiweddar, bu i’r Dr Katharine Olson, darlithydd mewn hanes canoloesol a modern cynnar ym Mangor, dderbyn Grant nodedig Bernadotte E. Schmitt am Ymchwil i Hanes Ewrop gan yr ‘American Historical Association’.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2012

Grŵp Amgylchedd Hanesyddol

Mae’r Grwp Amgylchedd Hanesyddol (GAH) yn gorff sydd yn cynghori’r Cynulliad ar amgylchedd hanesyddol Cymru, ac yn Nhachwedd 2013 cyfarfu ym Mhrifysgol Bangor. Mae nifer o aelodau staff o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn cyfrannu at y GAH, o dan arweiniad yr Athro Ray Karl.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2013

Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig - lansio gwefan

Mae Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig, sef consortiwm o ysgolheigion ac ymchwilwyr sy'n astudio croniclau Cymru'r oesoedd canol, yn falch o gyhoeddi lansio eu gwefan , a gynhelir gan Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2015

Gwahoddir ceisiadau am gymrodoriaethau PhD mewn Gofal Cymdeithasol

Mae'n bleser gan ASCCA (Menter Gydweithredol Academaidd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol) gyhoeddi y bydd cyllid ar gael i nifer o gymrodoriaethau PhD ym maes gofal cymdeithasol o ddechrau 2014 ymlaen. Gwahoddir ceisiadau gan ymarferwyr, rheolwyr ac addysgwyr cymwys ym maes gofal cymdeithasol am hyd at 9 cymrodoriaeth a gyllidir gan ASCCA.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2013

Gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor

Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2019 yn Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor rhwng 10.30 ac 11.30 o'r gloch y bore, ddydd Llun 28 Ionawr. Thema gwasanaeth eleni yw 'Torn from Home' a bydd yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, a staff y brifysgol. Cynhelir y gwasanaeth, sydd am ddim ac yn agored i'r cyhoedd, yn Neuadd Prichard-Jones ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau a bydd lluniaeth ysgafn ar gael wedi'r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2019

Gweithdai ar Adeiladu Cymuned wedi'u cynnal ym Mangor

Cynhaliwyd dau weithdy llwyddiannus ar Adeiladu Cymuned ym Mhrifysgol Bangor yn ystod May 2013, a threfnwyd y ddau ar y cyd gan Dr Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, a Dr Dinah Evans, Darlithydd mewn Hanes Modern.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013

Gweithdy Stiward Tir

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2015

Gweithio wrth astudio ym Mangor

Mae nifer cynyddol o fyfyrwyr yn chwilio am waith rhan-amser yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Efallai nad er mwyn ennill arian yn unig yw eu rheswm dros wneud hynny, ond hefyd i wella eu cyflogadwyedd ar ôl graddio.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2015

Gwersi mewn dwyieithrwydd: be all Corsica dysgu o Gymru?

Mae myfyriwr o Corsica yn ymweld ag Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar interniaeth i ddysgu am ddwyieithrwydd yng Nghymru. Bydd Petru Filippi, sy’n fyfyriwr Meistr ym Mhrifysgol Corsica, yn treulio 4 mis ym Mangor o dan oruchwyliaeth Dr Cynog Prys, Darlithydd mewn Cymdeithaseg ac arbenigwr mewn cynllunio ieithyddol yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016

Gwneud ei farc ar restr fer y British Education Awards

Mae Mark Barrow, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn gynharach eleni, wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr y British Education Award (BEA). Mae’r Gwobrau hyn yn hybu arbenigedd o fewn y gyfundrefn addysg ym Mhrydain ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn y system addysg yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018

Gwobr Anrhydeddus i Marian Gwyn

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2021

Gwobr Goffa Duncan Tanner 2013

Graddiodd Martin Andrew Hanks 50, o Benmaenmawr, gydag MA mewn Hanes, gan dderbyn hefyd Wobr Duncan Tanner am y Traethawd Hir Gorau ar gyfer MA, yn dwyn y teitl ‘ Can I Help You? The Early Life of Douglas Houghton ’.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2013

Gwobr Llyfrau i Athro Nancy Edwards

Mae Athro Archeoleg Oesoedd Canol, wedi ennill Gwobr G. T. Clarke gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

Gwobr Ryngwladol i Athro

Mae Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, wedi derbyn Gwobr Ryngwladol Anrhydeddus 2020 Cymdeithasfa Cyfraith a Chymdeithas (LSA) “i gydnabod ei gyfraniadau arwyddocaol i helaethiad gwybodaeth ym maes cyfraith a chymdeithas.” Mae’r LSA wedi’i lleoli yn yr UD ond mae ganddi aelodau ar draws y byd, a hi yw’r gymdeithasfa ysgolheigaidd fwyaf blaengar yn ei maes.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2020

Gwobr a gradd i wirfoddolwr

Mae myfyriwr a fu’n gwirfoddoli drwy gydol ei gyfnod yn y brifysgol, yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos yma.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Gwobr am y thesis PhD gorau mewn Astudiaethau Celtaidd

Mae Dr Greta Anthoons, a enillodd ei doethuriaeth mewn Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill grobr Johann-Kaspar-Zeuss am y thesis PhD gorau mewn Astudiaethau Celtaidd gan y SCE (Societas Celtologica Europaea).

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2012

Gwobr ym maes hanes morwrol i fyfyriwr o Fangor

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2015

Gwobrwyo Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr am ei ymroddiad i gynrychioli ei gyd-fyfyrwyr yn ddiweddar Enillodd David Loveday, 34, o Rotherhithe, Llundain y teitl "Cynrychiolydd Cwrs" blwyddyn 1 neu 2 Ede & Ravenscroft ynghyd â gwobr ariannol gwerth £1,000. Mae David yn gyn-fyfyriwr Coleg St Dunstans, Llundain, ac ar hyn o bryd mae yn ei drydedd flwyddyn ar y cwrs gradd Polisi Cymdeithasol a Throseddeg gyda Chyfiawnder Troseddol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014

Gwrthryfel Glyndŵr ar Radio 4

Bydd yr Athro Huw Pryce ymysg gwesteion rhaglen In Our Time , Radio 4 (31 Ionawr 2019 am 21:00), yn trafod hynt a helynt Owain Glyndŵr, y gŵr a fu’n ddylanwadol yn cynnau gwrthryfel yn erbyn Lloegr (1400-1412), a oresgynnodd amryw rannau o Gymru o a gafodd ei drechu gan Harri V. Cofiwch wrando!

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2019

Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC

Mae Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC yn ôl ym Mangor am ei hail flwyddyn. Mae’r wythnos o ddathlu gwyddoniaeth gymdeithasol yn digwydd yn flynyddol ar draws y DU. Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus y llynedd, mae Prifysgol Bangor eto eleni yn cynnal dau ddigwyddiad er mwyn ymuno â’r dathliadau.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017

Gŵyl Hanes yn dod i Fangor

Bydd yr haneswyr blaenllaw David Starkey, Lucy Worsley, David Olusoga a Trevor Fishlock a welir yn rheolaidd ar y teledu yn ymuno ag arbenigwyr o Brifysgol Bangor ac o ledled y DU i gymryd rhan yn yr Ŵyl Hanes gyntaf a gynhelir ym Mangor ar 25 a 26 Hydref 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2019

Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2021 - Canfyddiadau o Newid Hinsawdd - Sgwrs gan Dr Pelle Tejsner: ‘Fluctuating weather and changing coastlines: perceptions of climate change on Qeqertarsuaq/ Disko Island’

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2021

Hanesion Cudd

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol archebu lle mewn ysgol undydd Hanesion Cudd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Sadwrn, 4 Tachwedd. Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed am hanes, archaeoleg a phensaernïaeth Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017

Hanesydd o Fangor yn trafod Tony Benn

Mae Dr Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern ym Mangor, wedi cyhoeddi darn ar gyfer cylchgrawn BBC History ar ddylanwad y gwleidydd Llafur adain-chwith, Tony Benn, a fu farw ar Fawrth 14eg eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2014

Henebion Coffaol y Cyfnod Canoloesol diweddar yng Nghymru

Mae’r Athro Nancy Edwards wedi derbyn grant o £2,000 gan History Research Wales i gynnal gweithdy ar Henebion Coffaol y Cyfnod Canoloesol Diweddar yng Nghymru, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar 13 o Ragfyr 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2013

How babies became the baked beans of the childcare world

Dyma erthygl yn Saesneg gan David Dallimore Ymchwilydd WISERD: Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2018

How jobs figures mask bogus self-employment in the shadow economy

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Toby Dobbins, Ysgol Busnes , yr Athro Howard Davis ac Alexandra Plows, Ysgol Gwyddorau Cymdeitha s sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2016

How to become a great impostor

Dyma erthygl yn Saesneg gan Tim Holmes o’r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2019

Humphrey Llwyd: the Renaissance scholar who drew Wales into the atlas, and wrote it into history books

This article by Huw Pryce, Professor of Welsh History, was originally published on The Conversation . Read the original article .

Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2018

Hwb ariannol i Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth

Mae Prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £2,249,927 yn ddiweddar gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (NISCHR gynt) i arwain y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), sef Canolfan Ymchwil Cymru gyfan.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015

ISWE at the Eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015

Inaugural Duncan Tanner memorial lecture

Devolution in the aftermath of the Scottish referendum: some observations from Chinese scholars Professor Zhanpeng Wang, Brifysgol Astudiaethau Tramor Beijing

Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2015

Is there such thing as a ‘European identity’?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Nikolaos Papadogiannis , Darlithydd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail-gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2019

Israddedigion ar eu ffordd i Wlad Pwyl ar gyfer Rhaglenni astudio trwy Weithgareddau Gwirfoddol

Bydd chwech o israddedigion yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn teithio i Łódź, Gwlad Pwyl, ym mis Tachwedd, ar gynllun a gyllidir gan yr UE.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2013

Israddedigion yn ymweld â Nuremberg ar gyfer rhaglen Erasmus arbennig

Gallodd chwe myfyriwr o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor fynd ar raglen ddysgu 10 diwrnod i Nuremberg, yr Almaen, diolch i gyllid gan gynllun Erasmus yr Undeb Ewropeaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2012

Kate 'fentrus' yn ennill gradd dosbarth cyntaf

Mae myfyriwr hŷn o Brifysgol Bangor, sydd wedi dilyn llwybr gwahanol i'r arfer yn ei bywyd a'i haddysg, yn teimlo ei bod wedi 'cyflawni rhywbeth o'r diwedd' ar ôl graddio ym Mhrifysgol Bangor. Graddiodd Kate Maura Jones, 28, o Lanberis gyda BA dosbarth cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol er iddi gael diagnosis o ddyslecsia a dyspracsia, ac er iddi orfod jyglo gofynion gwaith a phêl-fasged ar yr un pryd.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016

LLWYDDIANT GRADDIO I FYFYRIWR 'PROSIECT MOSTYN'

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2016

Lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2017

Lansiad Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned

Ar Ddydd Iau, y 10fed o Awst am 10 o’r gloch yn yr Eisteddfod Genedlaethol lansiwyd y Pecyn Cymorth i Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned ym mhabell Prifysgol Bangor yng nghwmni Alun Davies, Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes. Lluniwyd y pecyn gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, mewn cydweithrediad â Mentrau Iaith Cymru. Mae'r pecyn yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ddulliau i hybu’r Gymraeg yn y gymuned. Casglwyd yr enghreifftiau hyn fel rhan o broject ymchwil mewn 8 cymuned wahanol yng Nghymru. Cyllidwyd y prosiect gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor

Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017

Lessons from the Beeching cuts in reviving Britain's railways

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Llawysgrifau Mostyn: Arddangosfa'r Canmlwyddiant

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018

Llwyddiant Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr i Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor

Mae canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2015 yn dangos llwyddiant aruthrol i'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2015

Llwyddiant Seremoni Raddio’r gaeaf

Llongyfarchiadau i bawb a raddiodd yr wythnos diwethaf, yn enwedig i enillwyr gwobrau yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2017

Llwyddo yng Nghanllaw Prifysgol Guardian 2022

Ddydd Sadwrn, 11 Medi, cyhoeddodd y Guardian ei Ganllaw Prifysgol (2022) ac ymysg y sawl a berfformiodd uchaf yr oedd rhai disgyblaethau Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas!

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2021

Llwyfannau digidol newydd yn cynnig cyfleoedd i’r Gymraeg

Mae llwyfannau digidol yn cynnig cyfleoedd i'r iaith Gymraeg fod yn rhan ehangach o fywydau pobl Cymru bob dydd. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn awyddus i glywed sut mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg ar lwyfannau digidol, ac yn cynnal dau arolwg i'r cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2016

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn croesawu symudiadau i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2017

Mae gan Awstriaid ddiddordeb mewn archaeoleg

Wrth i Awstria baratoi i newid y ffordd yr ymdrinnir ag archaeoleg, drwy gadarnhau'r Confensiwn Ewropeaidd ar Warchod Treftadaeth Archeolegol (diwygiedig), mae'r Athro Raimund Karl, sy'n arbenigwr blaenllaw ar gael y cyhoedd i ymddiddori mewn archaeoleg a chymryd rhan ynddo, wedi bod yn gweithio â llywodraeth Awstria i ymchwilio i agweddau Awstriaid tuag at archaeoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2014

Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr ( Times Higher Education Student Experience Survey 2015 ).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016

Mae'n bosib bod helyntion priodasol Harri VIII wedi dylanwadu ar gyplau eraill, yn ôl dogfennau sydd newydd ddod i'r fei

Darganfuwyd dogfennau sy'n dangos o bosib bod helyntion priodasol enwog Harri VIII wedi peri i gyplau eraill ledled y wlad wahanu fel y gwnaeth yntau. Mae stori ryfeddol hogyn yn ei arddegau a fu'n ymbalfalu rhwng dwy wraig mewn ffordd debyg - ac ar yr un pryd - i ymdrechion y brenin i geisio newid ei gymar yn awgrymu bod cyplau eraill yn gwylio a bod dylanwad achos y brenin yntau ar y gyfraith wedi dylanwadu arnynt.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019

Mam yn dathlu ar ôl tair blynedd heriol

Bydd mam i bedwar o blant sydd wedi wynebu sialensiau yn ystod ei chyfnod gradd yn graddio’r wythnos hon mewn BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gadawodd Beverly Price ei gwaith er mwyn magu ei phlant, un sydd gydag awtistiaeth a phlentyn arall gyda nam ar y golwg. Ar ôl i’w phlant ddod i oed ysgol, gwnaeth Beverly gwrs yng Ngholeg Menai. Yno, cafodd ei hannog i roi cais i wneud gradd ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2014

Mapio problem sbwriel gyda’r cyfryngau cymdeithasol

Mae gwyddonwyr lleyg yn cael eu hannog i dynnu lluniau o'r sbwriel y deuant o hyd iddo a'i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu ymchwilwyr ddeall problem sbwriel y wlad.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2022

Marie Stein (11 April 1929 - 16 July 2016) - gan Gabriel Stein

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2021

Mark yn ennill Gwobr y British Education Awards

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi derbyn un o Wobrau y British Education Awards. Enillodd Mark Barrow, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn gynharach eleni, wobr y British Education Award (BEA) ar gyfer myfyriwr Graddedig o Gymru. Mae’r Gwobrau hyn yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn y system addysg yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019

Meini hirion Môn yn llamu i’r oes digidol

Meini hirion Ynys Môn fydd pwnc ffynhonnell wybodaeth gyffrous newydd a gyflwynir mewn tri dimensiwn, ac mae’r diolch am hyn i wyddonydd cyfrifiadurol o Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2014

Merched yn y byd Cyhoeddi: Cynhadledd undydd.

Merched yn y byd Cyhoeddi: Ar 15 Chwefror 2020, bydd Prifysgol Bangor yn croesawu merched dylanwadol o bob cwr o'r byd cyhoeddi i gynhadledd undydd.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2020

Mewn cymdeithas ranedig, pwy sy’n ymddiried yn yr heddlu?

Beth sy’n diffinio fy hunaniaeth genedlaethol ac ym mha sefydliadau gwladol rydw i’n ymddiried ynddyn nhw? Dyma gwestiynau sy’n gorgyffwrdd ac yn rhai y mae amryw yn gofyn iddyn nhw eu hunain. Mae’r heddlu yn un o asintau mwyaf pwerus sy’n cynrychioli’r wlad. Mewn cymdeithas ranedig, efallai y bydd pobl yn ystyried ar ba ochr mae’r heddlu.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2020

Mis o lwyddiant i Hanes

Gwahoddwyd tri aelod staff o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg i fynychu Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor ar Ebrill 30ain yn Neuadd PJ, gan eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dau o’r prif gategorïau.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2014

Mudes a Mwy: Ail-ymweld â theithiau iaith siaradwyr newydd y Gymraeg yng Nghwm Rhymni

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2021

Myfyriwr Aeddfed yn goresgyn salwch i ennill gradd dosbarth 1af

Mae cyn saer coed o Rhyl wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn dilyn newid sydyn yn ei yrfa yn dilyn afiechyd galwedigaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2011

Myfyriwr Hanes yn ennill gwobr mawreddog

Llongyfarchiadau mawr i Ceiri Coker, myfyriwr yn yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg , ar ennill Gwobr Goffa Dr John Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017. Caiff y wobr ei dyfarnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn cyfres newydd ar BBC Radio Wales

Mae myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn gweithio fel hanesydd preswyl ar gyfres cerddoriaeth newydd mewn dwy ran ar BBC Radio Wales.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2016

Myfyriwr PhD yn cipio gwobr poster mewn symposiwm

Llongyfarchiadau i'r myfyriwr ymchwil Stephanie Jones am ennill gwobr 'y poster ôl-raddedig orau' mewn symposiwm ymchwil diweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn cyhoeddi llyfr arloesol ar hanes mwyngloddio lleol

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi lansio llyfr am y pyllau glo yng Nghwm Rheidol ac Ystumtuen ar ôl dechrau gweithio arno yn wyth oed.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill prif seremoni gyntaf Eisteddfod T

Wyneb cyfarwydd i Eisteddfod yr Urdd yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T, yr eisteddfod ddigidol gyntaf erioed. Heddiw (Dydd Llun, Mai 25), mewn seremoni ar sgrin a sain, datgelwyd mai Cai Fôn Davies o Benrhosgarneddsy’n ennill gwobr y Prif Gyfansoddwr.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2020

Myfyriwr arobryn yn graddio

After a strong performance throughout his studies, an award-winning student from Bangor University graduated this week. As well as graduating with a first class BA History degree, Sean Martin, 27, also won the Dr John Robert Jones Prize of £1,500, which is awarded annually to three of the best students across all disciplines at the University.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016

Myfyriwr doethuriaeth yn mynychu lansiad adroddiad seneddol ar newyn

Mae myfyriwr doethuriaeth a gyfrannodd dystiolaeth at adroddiad seneddol pwysig ar newyn yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn Llundain yn lansio'r ddogfen ddilynol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015

Myfyriwr i redeg Marathon Llundain

Bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor ymhlith y miloedd o redwyr sy’n cymryd rhan ym Marathon Llundain fis Ebrill. Mae Leo Atkinson, myfyriwr y flwyddyn gyntaf Hanes ac Archaeoleg yn codi arian ar gyfer elusen St John Ambulance.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2013

Myfyrwraig Archaeoleg yn ennill Gwobr Astudiaethau Celtaidd Ewropeaidd

Mae Greta Anthoons, myfyrwraig hŷn o Wlad Belg sy’n astudio am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Johann Kaspar Zeuss yng Nghymdeithas Astudiaethau Celtaidd Ewropeaidd (Societas Celtologica Europaea). Rhoddir y wobr o €750 i’r traethawd hir gorau ar lefel MA a PhD ym maes Astudiaethau Celtaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2012

Myfyrwraig o'r Rhyl yn ennill dosbarth cyntaf a gwobr er gwaethaf trychineb llifogydd 2013

Bydd myfyrwraig o'r Rhyl yn derbyn gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon er i'r llifogydd enbyd a darodd arfordir gogledd Cymru yn 2013 ddifrodi ei chartref.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Myfyrwraig yn cynorthwyo ar gyfres rhaglenni Dyma Fi ar S4C

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C gyda’r nod o lunio portread gonest o fywydau pobl ifanc Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae Shân Pritchard, sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn gweithio ar gyfres o raglenni mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da fel rhan o’i gradd Meistr.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014

Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn mynychu cynhadledd ar dlodi plant

Cynhaliwyd cynhadledd ar y thema ‘Tlodi Plant’ ym mis Ionawr ym Mhrifysgol Caerdydd. Derbyniwyd cefnogaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe fynychwyd y gynhadledd gan 11 o fyfyrwyr a staff o Fangor (dyma adroddiad gan y myfyrwyr).

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2016

Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru. Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Myfyrwyr o Ogledd Cymru ar y brig yn eu dosbarth

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn dathlu llwyddiant yr wythnos hon wrth iddynt raddio â'r marciau uchaf yn eu blwyddyn.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl

Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae myfyrwyr caredig wedi rhoi o'u hamser i gynnal grwpiau therapiwteg amrywiol i gleifion yn Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018

Myfyrwyr yn trefnu Cynhadledd Cymru a Rhyfel 1914 - 2014

Heddiw (8 Ebrill 2014) mae tri myfyriwr ôl-radd o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd a fydd yn rhoi golwg newydd ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru ar y pryd ac ar ôl hynny.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014

Mynd am dro'r penwythnos hwn?

Y penwythnos gŵyl y banc hwn, beth am fynd allan i gerdded yn y wlad a thynnu ffotograffau o henebion hynafol? Mae llwybrau gwych ar draws Cymru, a gallwch weld ein treftadaeth hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2016

Mynd i’r afael â thlodi bwyd

Bu tri aelod o staff Prifysgol Bangor yng nghyfarfod cyntaf Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru (NWFPA) yng Nghanolfan OpTIC Llanelwy yn ddiweddar. Mae Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd yn ford gron a nifer o sectorau’n aelodau o dan gadeiryddiaeth Cyngor Sir Fflint. Nod y Gynghrair yw mynd i’r afael â’r heriau lu sydd o ran tlodi bwyd yn y gogledd.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018

Newid Cymru - Canolfan ymchwil genedlaethol yn dathlu deng mlynedd

The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods (WISERD) is celebrating ten years of influencing policy and debate. A collaboration of five Welsh universities (Aberystwyth, Bango r, Cardiff, South Wales and Swansea), WISERD has carried out a decade of pioneering research, providing important insights into the social and economic challenges facing Wales.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2018

OPSWISE – Gwella gofal i bobl hŷn

Mae astudiaeth gan Brifysgol Bangor wedi rhoi golwg newydd ar sut mae gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl hŷn yn cael eu cynnal.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016

Oriel Lluniau Graddio 2013

Llongyfarchiadau i holl raddedigion yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg. Cliciwch yma i weld ein Oriel Lluniau Graddio 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2013

Owain Jones yn ennill gwobr arobryn y Brethynwyr

Llongyfarchiadau i Owain Jones am ennill medal uchaf Cwmni’r Brethynwyr am gyfraniad ôl-radd eithriadol gan fyfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hon yn wobr o fri, sy’n rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2014

PLASTAI CYMRU YN AGOR EU DRYSAU FIS MEDI

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2016

PROJECT DOETHUROL CYNTAF SEFYDLIAD YMCHWIL YSTADAU CYMRU YN CAEL EI GWBLHAU

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2021

Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’

Bydd syniadau arloesol ar sut i hybu defnydd o’r Gymraeg yn y Gymuned yn cael eu rhannu mewn Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’ nos Fercher 25ain o Hydref, 6.30-8yh, yng Nghanolfan Popdy Menter Iaith Bangor, Lôn Bopty, Bangor. Yn ystod y drafodaeth bydd arbenigwyr sydd yn ymwneud â hybu’r Gymraeg yn gymunedol, ar lefel lleol a chenedlaethol, yn rhannu syniadau newydd sy’n cael eu defnyddio gan grwpiau cymunedol a busnesau.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2017

Partneriaid o'r Almaen a Denmarc yn ymweld â Bangor

Y mis yma rydym wedi cael y pleser o groesawu cydweithwyr o ddau o'n sefydliadau partner.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016

Penodi'r Athro Peter Huxley i Grŵp Uwch Arweinwyr Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Llongyfarchiadau i'r Athro Peter Huxley, sydd wedi ei benodi i Grŵp Uwch Arweinwyr Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2016

Penodi’r Athro Peter Huxley i Fwrdd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae Peter Huxley, Athro Ymchwil Iechyd Meddwl yn y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas, wedi cael ei benodi’n aelod o fwrdd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd yr Athro Huxley yn cynrychioli’r Grŵp Uwch Arweinwyr Ymchwil, gan gyfrannu llawer o flynyddoedd o brofiad ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015

Peter Huxley i barhau fel Cymrawd Ymchwil ar Ymweliad yn LEWI

Mae'r Athro Peter Huxley o'r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas wedi cael statws cymrawd ymchwil ar ymweliad gan y David C Lam* Institute for East-West Studies (LEWI) am ddwy flynedd arall.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017

Peter Lord: ‘Portreadu pobl Môn’

Mae'n bleser mawr gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru , mewn partneriaeth â Chymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd gyhoeddi manylion darlith wadd arbennig a gynhelir yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cynhelir y ddarlith am 12.15pm, Dydd Gwener, 11 Awst 2017, ym mhabell Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017

Plant ysgol yn creu celf a ysbrydolwyd gan Feini Hirion Ynys Môn

Bydd arddangosfa o waith celf a ysbrydolwyd gan Feini Hirion Ynys Môn yn ymweld â’r Galeri yng Nghaernarfon rhwng 15 Awst a 5 Medi.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2014

Polisi Cymdeithasol yn cyrraedd 10 uchaf y Deyrnas Unedig yn nhablau cynghrair diweddaraf y Guardian

Mae Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei osod ymysg y 10 uchaf mewn dau faes yn y Guardian University Guide diweddaraf.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017

Polisi Cymdeithasol yn y 10 uchaf yn y DU

Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei gosod yn 8fed yn y DU - ac yn orau yng Nghymru - am Bolisi Cymdeithasol yn ôl y tablau cynghrair pwnc diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Complete University Guide .

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2017

Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru'n rhoi darlith gyhoeddus ym Mangor

Daeth Mark Polin, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, i Fangor i drafod 'Plismona - Heddiw ac ar gyfer Yfory'. Mewn darlith gyda nifer dda o fyfyrwyr a staff o bob rhan o'r brifysgol yn bresennol ynddi, fe wnaeth y Prif Gwnstabl amlinellu newidiadau diweddar yn y ffordd y llywodraethir yr heddlu, eu blaenoriaethau a'r gofynion sydd arnynt, yn ogystal â'r sialensiau sy'n wynebu Heddlu Gogledd Cymru yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2018

Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru - Rhaglenni Gradd yr Heddlu

Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi eu cydweithrediad ar Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) a ddatblygwyd gan y College of Policing. Ymunodd Prifysgol Bangor â phroses gomisiynu gystadleuol a llwyddodd i wneud cais am y contract gyda Heddlu Gogledd Cymru ar sail ei hymrwymiad i addysgu rhagorol a'i enw da mewn perthynas ag addysgu ac ymchwil mewn plismona. Mae Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu Prentisiaethau Gradd newydd Cwnstabl yr Heddlu a'r Rhaglen Mynediad Deiliaid Gradd ar gyfer Gogledd Cymru, a fydd ar gael i Gwnstabliaid sydd newydd eu recriwtio o 2020.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019

Prifysgol Bangor i weithio gydag academyddion clinigol yn Neheudir India i atal marwolaethau drwy hunanladdiad

Mae seiciatrydd cymdeithasol o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol i arwain tîm o seiciatryddion a gwyddonwyr cymdeithas o Brifysgol Bangor a chydweithwyr yn Neheudir India er mwyn atal marwolaethau drwy hunanladdiad.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2015

Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Prifysgol Bangor yn Gwobrwyo Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014

Mae Victoria Allen a Joe Barnett wedi’u henwi’n enillwyr gwobr Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych maent wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2014

Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU

Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am chwe phwnc a gaiff eu dysgu yma, yn ôl The Complete University Guide ar gyfer 2019. Mae'r Brifysgol ymysg y prifysgolion ym Mhrydain sydd â sgor uchel wedi ei nodi ar gyfer Boddhad Myfyrwyr, ac yn ymddangos yn drydydd yn nhabl Prifysgolion Cymru sy’n ymddangos, gan sicrhau safle cyfartal 62 yn y gynghrair gyntaf o’i bath sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n cynnwys pob prifysgol yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018

Prifysgol Bangor yn arwain prifysgolion Cymru o ran boddhad myfyrwyr

Prifysgol Bangor yw'r gorau yng Nghymru, yn ôl y dull diweddaraf o fesur boddhad myfyrwyr, ac mae yn y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol y DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy'n cynnig ystod eang o bynciau. Daw'r canlyniadau o'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy'n graddio o bob prifysgol yn y DU ac sy'n rhoi'r adborth mwyaf cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2014

Prifysgol Bangor yn cael grant i ddatgelu cynnwys llythyrau Mostyn o'r 17 ganrif

Bydd tair mil o lythyrau prin sydd wedi goroesi o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif ar gael i ysgolheigion rhyngwladol yn dilyn grant ymchwil newydd gan Gronfa Marc Fitch. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru , Prifysgol Bangor wedi cael grant o £40,000 i ddigido ac ymchwilio i gasgliad eithriadol o lythyrau a gedwir yn llyfrgell Plas Mostyn yn Sir y Fflint.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018

Prifysgol Bangor yn cydnabod darlithwyr am eu cyfraniad at addysgu a dysgu

Yn ddiweddar, bu i ddau ddarlithydd o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas dderbyn gwobrau gan Brifysgol Bangor i gydnabod eu cyfraniad at addysgu a dysgu.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015

Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod o hwyl canoloesol yng Nghastell Caernarfon

Bu bron i 500 o ddisgyblion ac athrawon o ysgolion lleol yn mwynhau rhaglen â’i llond o hanes, addysg, creadigrwydd a hwyl mewn Diwrnod Hwyl Canoloesol yng Nghastell Caernarfon, a drefnwyd gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2016

Prifysgol Bangor yn lansio Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB) yn cael ei lansio i israddedigion ym mhob ysgol academaidd ar hyn o bryd. Bwriad y cynllun yw gwella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor drwy ddarparu rhaglen o ddatblygiad personol ac ymarferion rheoli gyrfa, yn ogystal â chydnabod llawer o weithgareddau all-gwricwlaidd a chyd-gwricwlaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012

Prifysgol Bangor yn lawnsio Cynllun Interniaeth Is-raddedig

Mae Prifysgol Bangor wedi lawnsio Cynllun Interniaeth Is-raddedig er mwyn cynnig cyfleoedd a gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2012

Prifysgol Bangor yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

Unwaith eto, Prifysgol Bangor yw’r uchaf o brifysgolion Cymru yn y mesur diweddaraf o foddhad myfyrwyr, ac mae hi ymhlith y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol gorau’r DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2015

Prifysgol Bangor yn uchel yng ngraddau’r Times Higher Education ym mhynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau

Mae’r tabl celfyddydau a'r dyniaethau 2018 yn rhestru prifysgolion gorau’r byd ar draws eu cenhadaeth - addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agweddau rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2017

Prifysgol Lodz yn ymweld â'r Ysgol

Daeth dau o academyddion o Gyfadran y Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Lodz, Gwlad Pwyl i ymweliad â'r ysgol yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2018

Proffil Graddio: Gwenlli Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Project Rhug

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2017

Project gan Brifysgol Bangor yn anelu at wella gwasanaethau’r GIG

Mae project newydd, gwerth £300,000, yn ymgais i sicrhau y bydd adborth mwy manwl gan gleifion yn dylanwadu ar benderfyniadau gan y GIG ynglŷn â gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf. Bydd y project dwy flynedd yn gwella’r modd y mae ymchwilwyr yn defnyddio ymchwil ansoddol bresennol i wasanaethau iechyd, fel y bydd yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio gan y rheiny sy’n cymryd penderfyniadau o fewn y GIG.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015

Project ymchwil i archwilio effeithiau ystadau ar gymunedau Dyffryn Ogwen

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn grant o £10,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i weithio gyda chymunedau yn Nyffryn Ogwen yng Ngwynedd i edrych ar fywydau a phrofiadau'r cenedlaethau hynny o bobl a fu'n byw a gweithio ar ystâd y Penrhyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018

Project ymchwil newydd i gwmpasu cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn y cyfnod 1650-1930

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2021

Prosiect Penrhyn: Efrydiaeth PhD 3 blynedd ar hanes cymdeithasol a gwleidyddol gogledd orllewin Cymru, c.1860-1980.

Efrydiaeth PhD dair blynedd, wedi’i chyllido’n, fydd yn canolbwyntio ar effaith a dylanwad ystâd y Penrhyn ar hunaniaeth gymdeithasol a gwleidyddol gogledd orllewin Cymru yn ystod y cyfnod c.1860-1980. Yn dechrau ym yn dechrau ym hydref 2017 / Ionawr 2018

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2017

Pryd daeth pobl Cymru'n Gymry?

Mae Cwpan Rygbi'r Byd ymlaen, a gwelwn ddarlledu hunaniaeth Gymreig ar y sgrin fawr ledled y byd. Ond, yng nghanol miri canu’r anthem, y dreigiau a’r cennin Pedr, a ydych chi erioed wedi pendroni pryd y dechreuodd pobl eu hystyried eu hunain yn Gymry, ac mai Cymru oedd eu gwlad? Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno bod ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn bodoli erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond nid ydym yn gwybod eto pryd yn union y datblygodd hynny a pham. Mae'r hanesydd canoloesol Dr Rebecca Thomas o'r farn bod modd dirnad awgrymiadau o hunaniaeth Gymreig mor gynnar â'r nawfed ganrif.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019

REF 2014: Llwyddiant ar lefel uchel ac effaith ymchwil

Mae ymchwil gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor wedi cael sgôr uchel ar draws nifer o ddisgyblaethau a'i rhoi yn yr 20 uchaf yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014

REF 2014: Cyfraddau uchel i ymchwil Hanes

Mae ymchwil a gyflwynwyd gan Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Prifysgol Bangor wedi cael ei chydnabod fel gwaith sydd yn yr hanner uchaf yn ei sector ym Mhrydain.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014

Rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn i ganolbwyntio ar archifau ystadau

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2017

Rhifyn newydd newyddlen yr Ysgol arlein NAWR

Mae rhifyn diweddaraf newyddlen yr Ysgol ar gael arlein nawr.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2012

Rhoi tlodi o dan y chwyddwydr

Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas P rifysgol Bangor yn cyfuno trafodaethau a drama er mwyn rhoi sylw i dlodi mewn digwyddiad cyhoeddus ddydd Mercher 8 Tachwedd. Bydd ‘Poverty: Local, National and International’ yn rhoi sylw i waith arloesol gan academyddion a myfyrwyr yn yr Ysgol, sydd yn dangos sut mae tlodi yn effeithio ar hunaniaeth pobol ac yn llywio eu bywydau. Mae’r digwyddiad yn rhan o wythnos o weithgareddau Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas sy’n digwydd ar draws Prydain dan nawdd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y Deyrnas Unedig.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017

SEMINARAU YMCHWIL – WEDI’I GANSLO

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2018

Sefydliad Confucius yn ymuno â Choleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes

Yr haf hwn bydd sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dod yn rhan o Goleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes y brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019

Sefydliad Tai Siartredig yn dilysu modiwl israddedig

Mae'r Sefydliad Tai Siartredig wedi dilysu modiwl trydedd flwyddyn Gwyddorau Cymdeithas SXP3210 Materion Tai. Daw hyn â manteision i fyfyrwyr sy'n meddwl am yrfa ym maes tai neu astudiaethau pellach yn y maes. Mae'r manteision yn cynnwys credyd rhannol tuag at aelodaeth siartredig y Sefydliad Tai Siartredig.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2016

Sefydliad Ymchwil Stadau Cymru, Prifysgol Bangor

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Bangor fydd yn canolbwyntio ar amrywiaeth o agweddau yn gysylltiedig â stadau yng Nghymru. Bydd Sefydliad Ymchwil Stadau Cymru yn amcanu i gefnogi ymchwil ar stadau tir yng Nghymru, i gydweithio ar brojectau rhyng-ddisgyblaethol, i drefnu cynadleddau a gweithdai yn ogystal â gweithio gyda’r sector treftadaeth, ysgolion a grwpiau hanes a chymdeithasau ar draws Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2013

Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru - Cynhadledd

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar led

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Seiciatrydd o Wrecsam yn derbyn gwobr cyflawniad oes

Mae seiciatrydd a leolir yn Wrecsam wedi derbyn gwobr cyflawniad oes gan y Coleg Seiciatryddol Brenhinol, am ei waith di flino yn gwella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ddifreintiedig a'r rhai ar y cyrion.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2017

Seminar am ddim: Cydgynhyrchu a Gofal Cymdeithasol – Rhoi’r Agenda Les ar Waith

Digwyddiad seminar am ddim wedi’i drefnu gan Fenter Gydweithredol Academaidd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol (ASCC) a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2014

Sgwrs Bwysig Marzana Kamal ym Mhrifysgol Califfornia

Yn ddiweddar, traddododd Marzana Kamal, myfyriwr PhD mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, sgwrs am effaith ymfudo llafur rhyngwladol dynion ar eu gwragedd ym Mangladesh ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019

Should the state provide free meals to children in the school holidays?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Hefin Gwilym , Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2016

Sioned Davies yn cael ei henwi'n 'Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn'

Llongyfarchiadau i Sioned Davies, Gweinyddwr a Chynorthwywr Personol yr Ysgol, a dderbyniodd wobr 'Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn' yn ddiweddar yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2016

Spartacus @ 60: Cynhadledd Ar-lein

Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2020

Staff Gwyddorau Cymdeithas ar ymweliad cyfnewid gwybodaeth yn India

Yn gynharach eleni, aeth staff o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas â grŵp o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ymweliad cyfnewid gwybodaeth ag India.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2013

Staff a Myfyrwyr Hanes yn trafod Cynllun Gweithredu’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)

Ar ddydd Mercher, 9 Hydref cyfarfu staff a myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg i drafod canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2013 (NSS). Roedd hyn yn rhan o gynhadledd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau i ystyried yr NSS, ac i annog Ysgolion i ddatblygu cynllun gweithredu ar y cyd â myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2013

Sut dylem ni yng Nghymru greu cymdeithas lwyddiannus?

A all "cymdeithas fawr" David Cameron drwsio "Prydain doredig"? Yn wir, a fydd yn fwy llwyddiannus na'r rhaglenni adeiladu cymunedol eraill a ddechreuwyd yn yr hanner canrif ddiwethaf? Sut dylem ni yng Nghymru greu cymdeithas lwyddiannus?

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013

Sylw i statws y Gymraeg yng Ngwlad y Basg

Treuliodd rhai o fyfyrwyr Prifysgol Bangor eu hwythnos ddarllen eleni yn cymharu sefyllfa ieithyddol Gwlad y Basg â Chymru wrth ymweld â’r ardal.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2013

Symposiwm undydd: 'TU HWNT I’R DOSBARTH – Dyfodol Cynllunio Ieithyddol' (8fed Mawrth 2013)

Ar Ddydd Gwener, 8fed Mawrth 2013, bydd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gyda chefnogaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnal symposiwm undydd: TU HWNT I’R DOSBARTH – Dyfodol Cynllunio Ieithyddol , ar gyfer y rhai sydd yn gweithio ym maes polisi a chynllunio ieithyddol a meysydd perthnasol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2013

Symud o wasanaethau gofal lliniarol i blant i rai i oedolion: mae'r bwlch yn dal yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd i ymdopi ag ef

Yn ôl ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor mae'r gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac i oedolion yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ymdopi â hwy. Wrth sôn am y darganfyddiadau mae'r ymchwilwyr yn galw ar wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sgôp er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014

TED x

Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2019

Taboo: working for the East India Company could make you rich ... or dead

Dyma erthygl yn Saesneg gan Lowri Ann Rees o’r Ysgol Hanes ac Archeoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2017

Taith Hanes Hudolus

Dewch am 'Daith Hanes Hudolus' yn Ynys Môn yng nghwmni haneswyr o Brifysgol Bangor ddydd Sul 7 Gorffennaf. Bydd staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn arwain taith wedi ei thywys trwy dirwedd hanesyddol yr Ynys. Dyma gyfle gwych i ddysgu am gyfoeth yr hanes sydd i'w gael dafliad carreg o'r brifysgol. Bydd y daith yn mynd â chi i amryw o safleoedd, o feddrodau Neolithig i dai crwn Brythonig-Rufeinig a myntiau canoloesol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2019

Taith Hanes Hudolus

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig y cyfle ichi fynd ar daith hanes hudolus o amgylch Ynys Môn.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2018

Taith y Gymdeithas Gwyddorau Cymdeithas i Barcelona

Ar 26 Mawrth 2018 fe wnaeth y gymdeithas gwyddorau cymdeithas hedfan i Farcelona heulog am drip pum diwrnod. Roedd y daith hon yn dilyn llwyddiant yr un i Berlin y llynedd ac roedd pawb yn teimlo'n gyffrous iawn, er gwaethaf gorfod cychwyn yn blygeiniol am faes awyr Manceinion!

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2018

The Rhug Project: Fully funded 3 year PhD Studentship

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017

Trafod y gyfres The Crown

Wrth i’r gyfres The Crown dychwelyd i Netflix ar gyfer ei thrydedd gyfres fis yma, bydd dilynwyr yn cael gweld un o drefi gogledd Cymru yn cael ei thrawsnewid yn ôl i’r chwe degau. Bydd y drydedd gyfres yn cynnwys digwyddiadau enwog y teulu brenhinol rhwng 1964 ac 1977 yn cynnwys arwisgiad y Tywysog Charles fel Tywysog Cymru yng Ngahaernarfon. Digwyddiad a oedd wedi creu rhwyg mewn cymdeithas yn ô l Dr Euryn Roberts, Darlithydd mewn Hanes Oesoedd Canol a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2019

Tri arall yn dilyn gradd doethur ym Mangor o dan nawdd y Coleg Cymraeg

Three new Bangor University students are among the nine to receive funding from the Coleg Cymraeg Cenedlaethol to enable them to follow a doctorate degree through the medium of Welsh over the next few years. The three are among nine Scholarship winners announced and join another nine students at Bangor University, who are already studying under the scheme.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015

Tynnu sylw at brojectau partneriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Bangor

Rhoddir sylw i brojectau cyffrous a wneir mewn partneriaeth rhwng academyddion Prifysgol Bangor a chymunedau, elusennau, cyrff llywodraethol a busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener (8 Rhagfyr). Canolbwyntir ar 17 allan o 52 project yn y digwyddiad, gyda phob un ohonynt wedi eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Tîm Bangor yn Ennill Grant Covid-19 Sylweddol

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021

Uchel Siryf newydd yn gwobrwyo myfyrwyr am eu gwaith gwirfoddol

Cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau’r Uchel Siryf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Gwobr yr Uchel Siryf yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymdrechion gwirfoddoli gan fyfyrwyr Bangor fel unigolion ac mewn grwpiau.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2013

Universities must look at local employment markets when building their graduates' skills

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Teresa Crew o’r YsgolHanes, Athroniaeth a gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018

Urddo Alumna Prifysgol Bangor yn Gymrawd i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Alumna o Brifysgol Bangor yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddiweddar. Mae’r Cymrodoriaethau yn cael eu dyfarnu er mwyn adnabod cyfraniadau nodedig tuag at Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg ac at waith y Coleg yn fwy cyffredinol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2016

Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru yn annog ailystyried polisïau yn radical i hybu swyddi yng ngogledd Cymru

Trefnwyd Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru ar Sgiliau a Chyflogaeth ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener, Medi 18 gan Dr Tony Dobbins ( Ysgol Busnes Bangor ) a Dr Alexandra Plows ( Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ). Roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i wahanol fudd-ddeiliaid y farchnad lafur ddod ynghyd i drafod ymyriadau polisi sydd eu hangen i wella'r ffordd y defnyddir sgiliau ac i hybu nifer y swyddi o ansawdd da yng Nghymru. Mae'n amlwg bod cytundeb cyffredinol yn datblygu ymhlith gwahanol fudd-ddeiliaid nad yw'r polisïau marchnad lafur presennol ar gyfer Cymru yn gweithio a bod angen ailystyried polisïau i raddau helaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2015

WISERD i dderbyn cyllid sylweddol gan ESRC er mwyn parhau ag ymchwil cymdeithas sifil

Mae WISERD yn un o bedair canolfan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU sydd wedi llwyddo yng nghystadleuaeth hynod gystadleuol Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Bydd WISERD yn cael £6.3 miliwn fel ail-fuddsoddiad i barhad ei hymchwil ar gymdeithas sifil – y trydydd tro i gyllid sylweddol gael ei ddyfarnu yn hanes deng mlynedd WISERD.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019

WISERD yn cael ei nodi fel 'adnodd pwysig' yn Adolygiad Diamond

Cafodd yr Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru , o dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond, ei gyhoeddi yr wythnos hon. Mae'r adolygiad, a gafodd ei gomisiynu yn 2014, yn canolbwyntio ar ehangu mynediad; cefnogi anghenion sgiliau Cymru; cryfhau darpariaeth ran-amser ac ôl-radd yng Nghymru; a chynaliadwyedd ariannol hirdymor. Cafodd cyllid ymchwil sy'n ymwneud ag ansawdd a throsglwyddo gwybodaeth eu hasesu hefyd fel rhan o'r adolygiad. Mae'r adolygiad yn gwneud sylw am y cyfraniad mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn ei wneud yn y mae

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016

Wales's tourism problem is down to a disconnect with its own people

Dyma erthygl yn Saesneg gan Euryn Rhys Roberts o’r Ysgol Hanes Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2018

What Theresa May could learn from Ted Heath about how to respond to a humanitarian crisis

Dyma erthygl yn Saesneg gan Peter Shapely, Darllenyd a Pennaeth Ysgol a Mark David Collinson, myfyriwr doethuriaeth o’r Ysgol Hanes, hanes Cymru ac Archeoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016

Why does the growth of food banks matter?

This article by Dave Beck , PhD Researcher at the School of Social Sciences was originally published on The Conversation . Read the original article . In the last 50 years, we have observed a number of subtle, yet substantial revolutions in the way we approach our choices over food. One of the earliest revolutions saw us shift from shopping little and often with local producers – and investing in the local economy – to being swayed by the “stack ‘em high, sell 'em cheap” rhetoric, sold by supermarkets and the international economy.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2016

Why we should give prejudiced students a voice in the classroom

Dyma erthygl yn Saesneg gan Corinna Patterson o'r Y sgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeitha s sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2018

Y Brifysgol yn diolch i Arweinwyr Cyfoed yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.

Mewn seremoni'n ddiweddar i Arweinwyr Cyfoed cyflwynwyd tystysgrifau i arweinwyr cyfoed israddedig yr Ysgol. Cydnabuwyd eu sgiliau a'u cyfraniad i fywyd y myfyrwyr ac i recriwtio myfyrwyr yn y Brifysgol. Hoffai'r Ysgol eu llongyfarch a diolch iddynt am eu gwaith caled a’u hymroddiad a phopeth y gwnaethant ei gyflawni yn ystod y flwyddyn a aeth heibio!

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2013

Y Chwyldro Digidol a’r Gymraeg - Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni

Bydd Yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, yn cynnal sesiynau ar ‘Y Chwyldro Digidol a’r Gymraeg’ yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2016

Y Ddraig Amryliw: LHDTC+ a Chymru

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2022

Y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn ennill grant y Cyngor Prydeinig

Mae'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn datblygu perthynas bwysig gydag ymchwilwyr yn yr India. Llwyddodd yr Athro Rob Poole a'r Athro Catherine Robinson o'r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas i ennill grant Partneriaeth Economi Gwybodaeth gan raglen fframwaith Rhyngwladoli Addysg Uwch y Cyngor Prydeinig. Yr Athro Raveesh BN o Goleg Meddygol Mysore, Karnataka sy'n arwain y tîm o'r India.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2014

Y Gwir Anrh. Jack Straw i draddodi Darlith Goffa'r Athro Duncan Tanner

Bydd Y Gwir Anrh. Jack Straw ym Mhrifysgol Bangor Ddydd Mawrth 18 Chwefror i draddodi Darlith Gyhoeddus. Teitl darlith Y Gwir Anrh Jack Straw yw: Defeat from the Jaws of Victory: Labour’s Fatal Attraction. Mae’r ddarlith ar agor i’r cyhoedd ac yn rhad ac am ddim. Mae nifer gyfyngedig o docynnau ar gael drwy wefan neu Swyddfa Docynnau Pontio (01248) 382828.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2020

Y Gymraeg a Gwirfoddoli

Mae ymchwil gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas , Prifysgol Bangor, a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi tanlinellu pa mor bwysig ydyw cael sector gwirfoddol iach sydd yn medru diwallu anghenion Cymru ddwyieithog. Mae’r ymchwil a wnaed ar ran Comisiynydd y Gymraeg yn tynnu sylw at bwysigrwydd denu gwirfoddolwyr dwyieithog i gynnig gweithgareddau a darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’r gwaith hefyd wedi tynnu sylw at fannau lle gellid gwella ar y ddarpariaeth a’r cyfleoedd cyfredol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2014

Y Gymuned, Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru - Digwyddiad Rhwydweithio WISERD

Bydd y digwyddiad hwn yn dod â gweithredwyr cefn gwlad, gwneuthurwyr polisi ac academyddion ynghyd o bob cwr o Gymru. Bydd gan y rhain ddiddordebau mewn cynaliadwyedd cymunedau lleol a/neu ymgyrchoedd a mentrau amgylcheddol. Bydd yn gyfle i rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth, a chaiff rhwydwaith thematig WISERD ar yr amgylchedd, twristiaeth a hamdden ei ‘lansio’ hefyd. Bydd Dr John Barry o Brifysgol Queens Belfast yn rhoi’r brif sgwrs ar 'Vulnerability and Resilience in Contemporary Green Thought'.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2011

Y cwrs Radiograffeg gorau yn y DU ar frig tabl cynghrair y Prifysgolion

Yn ôl y Times & Sunday Times University Guide 2016 , Prifysgol Bangor yw’r lle gorau i astudio radiograffeg . Ar ben hynny, myfyrwyr radiograffeg Bangor oedd â’r rhagolygon gyrfaol gorau o blith holl raddedigion radiograffeg y DU, a gosodwyd y cwrs ar y trydydd safle o ran safonau mynediad. Mae Prifysgol Bangor hefyd ymysg 10 uchaf o blith Prifysgolion y DU mewn pum pwnc arall. Yn ogystal â radiograffeg, daw Astudiaethau Celtaidd ( Cymraeg ) yn ail, Polisi Cymdeithasol yn ail, Amaeth a Choedwigaeth yn seithfed, Ysgrifennu Creadigol yn wythfed ac Addysg yn ddegfed.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015

Y ganolfan ymchwil cymdeithas sifil flaenllaw yn mwynhau agoriad swyddogol

Bydd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn dathlu lansiad ei Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD flaenllaw ar ddydd Iau 5 ed Chwefror, 2015. Mae WISERD wedi derbyn dros £10 miliwn mewn cyllid i sefydlu canolfan ymchwil genedlaethol a fydd yn ymgymryd â rhaglen bum mlynedd sy’n arloesol ac yn bellgyrhaeddol o ymchwil sy’n berthnasol i bolisïau yn cyfeirio at y Gymdeithas Sifil yng Nghymru, y DU ac yn Rhyngwladol. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £7 miliwn o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ynghyd â £3m arall gan Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae Cymdeithas Sifil WISERD yn fenter gydweithredol, sy’n ymwneud ag ymchwilwyr o ar draws deuddeg o Brifysgolion y DU ynghyd ag ystod o bartneriaid rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2015

Y myfyrwyr MSocSci cyntaf yn graddio o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Ymysg y 3,062 o fyfyrwyr oedd yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf oedd y garfan gyntaf i raddio mewn cymhwyster cwbl unigryw mewn gwyddorau cymdeithas.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2016

YMCHWILYDD DOETHUROL ISWE YN CAEL INTERNIAETH YN SAVE BRITAIN’S HERITAGE

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2021

YMWELIAD ARBENNIG GAN GANOLFAN ARCHIF IWERDDON

Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2019

Ymchwil Cymhwysol mewn Troseddeg: ennill interniaeth myfyriwr israddedig am y bedwaredd flwyddyn

Bydd myfyriwr troseddeg Catherine Suddaby yn cefnogi grŵp ymchwil dan arweiniad yr Athro Stefan Machura yn astudio canfyddiadau o drosedd ymhlith myfyrwyr a swyddogion yr heddlu, ar ôl sicrhau interniaeth â thâl drwy Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017

Ymchwil ar ddefnydd y Gymraeg yn cael ei gyflwyno yng Nghynhadledd Ryngwladol ar Ddwyieithrwydd yn Addysg

Yr wythnos diwethaf, bu Dr Rhian Siân Hodges a Sioned Wyn Williams, myfyriwr PhD, yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil diweddar ar ddefnydd y Gymraeg yn y gymuned yng Nghynhadledd Ryngwladol gyntaf Prifysgol Bangor ar Ddwyieithrwydd yn Addysg. Bu’r ddwy – sy’n cael eu cynorthwyo gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – yn cyflawni’r prosiect ymchwil (‘Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned’) ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2016

Ymchwil archeolegol Bangor ar y cyfnod cynnar yng Ngwlad yr Iâ yn denu sylw rhyngwladol

Mae darganfyddiadau archaeolegol a phalaeoecolegol yn dangos bod pobl wedi bod yn byw yng Ngwlad yr Iâ er y flwyddyn O.C. 800 - mae hynny 70 mlynedd yn gynharach na’r dyddiad traddodiadol ar gyfer nodi dyfodiad y Llychlynwyr i’r wlad. Mae’n ymddangos bod cysylltiad rhwng y bobl gynnar hyn yng Ngwlad yr Iâ a chymunedau mynachaidd o’r traddodiad Gwyddelig oedd wedi’u lleoli yng ngorllewin yr Alban.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2011

Ymchwil o Fangor yn cynorthwyo llyfr newydd gan yr Amgueddfa Victoria ac Albert

Mae myfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi cadarnhau amheuon fod cynllun patrwm gan Morris a’r Cwmni, mewn gwirionedd, yn hŷn nag a dybiwyd o’r blaen.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2012

Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion

Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion. Fe wnaeth addysgwyr , seicolegwyr , gwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018

Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar broject pwysig i Aelodau’r Cynulliad

Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad. Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011

Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar broject pwysig i Aelodau’r Cynulliad

Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad. Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru. Mae Goleufa Cymru’n hyrwyddo gwaith pontio rhwng prifysgolion a’r cyhoedd, gan ddod â’r cyhoedd yn gyffredinol a phrifysgolion at ei gilydd. Hyd yma mae’r arddangosfa wedi ymweld â Blaenau Ffestiniog a Bangor ac mae ym Mhwllheli ar hyn o bryd. Eisoes denodd ymwelwyr o Gymru benbaladr, o Ewrop ac o’r Unol Daleithiau. Daeth hanner cant o bobl i dderbyniad gyda bwyd a gwin cosher ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar achlysur dyfodiad yr arddangosfa i Fangor.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2010

Ymweliad Myfyrwyr â Berlin

Bu criw o fyfyrwyr Gwyddorau Cymdeithas ar daith gyffrous i Berlin yn ystod wythnos gyntaf gwyliau'r Pasg ym mis Ebrill. Aeth trideg o fyfyrwyr a thri aelod staff i brifddinas yr Almaen ar y daith dramor gyntaf i'w threfnu ar y cyd rhwng yr Ysgol a'r Gymdeithas Gwyddorau Cymdeithas ers rhai blynyddoedd. Roedd y syniad i gynnal y daith yn gysylltiedig yn wreiddiol â dathliadau pen-blwydd yr Ysgol yn 50 y llynedd. Berlin oedd dewis cyntaf y myfyrwyr oherwydd ei hatyniadau hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017

Ymweliad dau Athro o sefydliadau partner

Bu dau athro o sefydliadau partner Erasmus yn ymweld â'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2013

Ymweliad gan fyfyrwyr MA â Gwlad y Basg i weld cynllunio ieithyddol ar waith

Mae myfyrwyr ar gwrs gradd unigryw’r MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol wedi cael golwg unigryw ar bwnc eu hastudiaethau yn sgil taith addysgol i Wlad y Basg yng Ngogledd Sbaen.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2012

Ymweliad yr Athro Vera Trappmann â’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar Gyfnewid Dysgu Erasmus

Bydd yr Athro Vera Trappmann o Brifysgol Otto-von-Guericke, Magdeburg, yr Almaen, yn ymweld â’r Ysgol ar Gyfnewid Dysgu Erasmus yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Mawrth. Mae hi’n Athro Cymdeithaseg a Chymdeithasau Ewropeaidd, ac mae ei hymchwil gymharol yn ymwneud â chydberthnasoedd llafur, lles a chyfrifoldeb corfforaethol yng Ngorllewin, Canolbarth a Dwyrain Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013

Ymwelwyr o Iwerddon

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Ymwelydd academaidd o Tsieina - Dr Qin Li

Mae Dr Qin Li yn Athro Cysylltiol yn y Coleg Economeg a Rheolaeth, Prifysgol Goedwigaeth y Gogledd-ddwyrain, sydd yn ninas ogleddol Harbin yn Tsieina. Mae newydd ddychwelyd adref ar ôl arhosiad llwyddiannus o flwyddyn ym Mangor, a drefnwyd gan yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas a'i gyllido gan Gyngor Ysgolheictod Tsieina.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2017

Ymwelydd o Dŷ'r Cyffredin yn dysgu mwy am Ymchwil Bangor

On Friday 15 February Dr Rhinannon Williams, Wales Affairs Specialist for the House of Commons, visited Bangor University and addressed a packed audience of academics and researchers. Dr Williams’ role is to co-ordinate the collection and submission of evidence to the Welsh Affairs Select Committee.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019

Yr Athro Horst Unbehaun i ymweld â’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar Gyfnewid Dysgu Erasmus

Bydd yr Athro Horst Unbehaun yn ymweld â Phrifysgol Bangor ar Gyfnewid Dysgu Erasmus rhwng yr ail a chweched o Fai. Mae’r Athro Unbehaun yn Athro yn Ngwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Gwyddorau Cymhwysol Georg Simon Ohm, Nuremberg.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013

Yr Athro Nancy Edwards: Cadeirydd benywaidd cyntaf Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi fod yr Athro Nancy Edwards (Athro mewn Archaeoleg) wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru - hi yw'r ddynes gyntaf i fod yn Gadeirydd ers sefydlu'r Comisiwn 110 o flynyddoedd yn ôl.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019

Yr Athro Peter Huxley yn cyflwyno canfyddiadau o ymchwil i gynhwysiad cymdeithasol i ddarparwyr gwasanaeth iechyd meddwl yn Hong Kong

Mae Peter Huxley, Athro Ymchwil Iechyd Meddwl yn y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas, wedi rhannu ei ganfyddiadau o’i broject, a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol mewn gweithdy yn Hong Kong.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015

Yr Athro Ray Karl yn llwyddo i ddenu dros £575,000 mewn grant cydweithredol

Mae'r Athro Ray Karl, sy'n Athro Archaeoleg a Threftadaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn gyd-arweinydd y project 'Cyd-gynhyrchu safbwyntiau amgen am dreftadaeth goll' sydd wedi ennill grant gwerth oddeutu £575,000 o dan geisiadau 'Cymunedau Cysylltiedig' Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2013

Yr Ysgol Hanes yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r staff a myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn darparu ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2015

Yr Ysgol Hanes yn yr Eisteddfod!

Bydd staff yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn cyfrannu at fwrlwm Eisteddfod Genedlaethol, Dinbych [3-11 Awst 2013]…

Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2013

Yr Ysgol yn arwain trafodaeth ar I, Daniel Blake

Nos Sadwrn, 3 Rhagfyr, cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Theatr Ardudwy, Harlech, lle dangoswyd 'I, Daniel Blake' , ffilm arobryn newydd y cyfarwyddwr ffilm adnabyddus Ken Loach. Yn dilyn y dangosiad cafwyd trafodaeth banel yn cynnwys tri academydd o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, sef Dr Hefin Gwilym, David Beck a Gabriella Simak.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016

Ysbrydoli Newid Cymdeithasol trwy Gydraddoldeb Hiliol

Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2021

Ysbrydolwyd gan 2001 Cystadleuaeth i Fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn derbyn grant tuag at Symposiwm Cynllunio Ieithyddol

Mae Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys wedi derbyn grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol tuag at Symposiwm Cynllunio Ieithyddol gyntaf yr Ysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012

Ysgol Haf - Y Celtiaid

Mwynhewch haf yn astudio iaith y Celtiaid ym Mangor ym mis Mehefin a Gorffennaf 2013

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2013

Ysgol Haf Astudiaethau Celtaidd

Cynhaliwyd ysgol haf yn ymdrin â Llenyddiaeth Gymraeg, Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor am bythefnos yn ystod Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2013

Ysgol Hanes Bangor yng nghynhadledd NAASWCH yn Harvard

Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2016

Ysgol yn croesawu cynrychiolwyr o Central College University, Iowa

Ymwelodd aelodau o dîm uwch reolwyr Central College University , Iowa, UDA â'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar ddydd Llun 7 Rhagfyr fel rhan o ymweliad pedwar diwrnod â Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2016

Ysgol yn dathlu Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas

Hoffai'r Ysgol longyfarch yr holl staff a myfyrwyr a oedd yn rhan o Ŵyl ESRC Gwyddorau Cymdeithas.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018

Ysgolheigion Bangor yn cyfrannu at The Cambridge History of Welsh Literature

Mae cyfrol newydd swmpus ar lenyddiaeth Cymru, o'i tharddiadau cynnar hyd at y cyfnod presennol, yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o arbenigwyr o Brifysgol Bangor a bydd yn cael ei lansio'n swyddogol yng Ngŵyl y Gelli ar 24 Mai. Disgrifir The Cambridge History of Welsh Literature (Cambridge University Press, 2019) gan y cyhoeddwr fel “the biggest history of Welsh literature ever published” ac mae'n ganllaw cronolegol i bymtheg canrif o lên Gymraeg a Chymreig.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019

Ysgoloriaeth Ymchwil - Agwedd dadol, Nawdd a Grym: Teulu Pennant Castell y Penrhyn, c.1760-1907

Agwedd dadol, Nawdd a Grym: Teulu Pennant Castell y Penrhyn, c.1760-1907 Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Efrydiaeth Ymchwil PhD Canmlwyddiant a Chwarter i ddechrau ym mis Medi 2013. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan oruchwyliaeth y Prif Oruchwyliwr, Dr Lowri Ann Rees (Darlithydd mewn Hanes Modern), ac mewn cysylltiad agos â'r tîm goruchwylwyr, yr Athro Huw Pryce (Athro Hanes Cymru) a Dr Peter Shapely (Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern).

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2013

Ysgoloriaeth i Elin

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2021

Ysgoloriaeth Ôl-radd Cyfrwng Cymraeg: Polisi Cymdeithasol

Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ôl-radd cyfrwng Cymraeg ym maes Polisi Cymdeithasol i ddechrau 1 Hydref 2011. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae cyllid ar gael am hyd at bum mlynedd, yn cynnwys tair/pedair blynedd fel myfyriwr ymchwil am ddoethuriaeth a blwyddyn ychwanegol fel cymrawd dysgu. Bydd yr ysgoloriaeth ôl-radd yn cynnwys costau hyfforddi’r brifysgol (y gyfradd gyfredol i fyfyrwyr cartref/UE yw £3,466) a hefyd grant gynnal (y gyfradd gyfredol yw £13,590 y flwyddyn). Gwahoddir ceisiadau gan ddarpar ymchwilwyr gyda chefndir ym maes gwyddorau cymdeithas ac sydd â diddordeb mewn polisi iechyd yng Nghymru ers datganoli. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas fel un o amodau'r ysgoloriaeth. Ystyrir blwyddyn olaf yr ysgoloriaeth yn flwyddyn gymrodoriaeth pryd y bydd yr ymrwymiadau dysgu’n cynyddu.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Awst 2011

Zoomposiwm – Cerddoriaeth John Metcalf

Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2021

‘Cymraeg y tu hwnt i’r Ysgol? Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddefnydd Cymdeithasol Disgyblion Ysgol o’r Gymraeg ynghyd ag Oblygiadau ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol Eraill – Rhai Canfyddiadau Cychwynnol’ - Siôn Aled Owen

‘Cymraeg y tu hwnt i’r Ysgol? Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddefnydd Cymdeithasol Disgyblion Ysgol o’r Gymraeg ynghyd ag Oblygiadau ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol Eraill – Rhai Canfyddiadau Cychwynnol’: darlith gwadd gan Siôn Aled Owen, Ysgol Addysg

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2016

‘Life as an Attorney General of British Antarctica’

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2020

‘This Is Who I Am’ – Mynediad Am Ddim

Bangor University’s School of History, Philosophy and Social Sciences are proud to be hosting a performance by Ice and Fire productions, part of the organisation Actor’s for Human Rights, that develops original theatre pieces from human rights testimonies and documentary evidence and are shaped by the people and communities who they work closely with. ‘ This is Who I am’ will be performed in the Univeristy’s Pontio, Room PL2 on Friday 13 March 2020 as 3.00- 4.30 and entry is free.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2020

‘Welsh Women’s response to the First World War’

Eleni, bydd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu Dr Dinah Evans a fydd yn traddodi’r Ddarlith Goffa ar Ymateb Menywod Cymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf'. Yn dilyn y ddarlith, bydd sesiwn Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Dr Elin Royles ac yna derbyniad byr a chyfle i weld arddangosfeydd yn yr Oriel.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2018

‘Why write the history of Wales – then and now?’: darlith gyhoeddus gan hanesydd blaenllaw

Ar adeg pan fo'r cyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru yn bwnc trafod cyhoeddus yng Nghymru, mae'n amserol ystyried dulliau o ysgrifennu hanes Cymru, yn y gorffennol pell ac yn fwy diweddar. Bydd yr hanesydd blaenllaw o Gymro, yr Athro Huw Pryce, yn trafod y pwnc hwn ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun, 25 Mawrth am 6pm, yn Ystafell Ddarlithio 4 Prif Adeilad y Celfyddydau. Mae croeso i bawb i'r ddarlith, sy'n dwyn y teitl 'Why write the history of Wales – then and now?'.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2019

‘Y Gymuned, Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru’ Digwyddiad Rhwydweithio WISERD

Daeth criw da ynghyd i’r digwyddiad hwn ar 15 Mehefin 2011, yn cynnwys gweithredwyr lleol, sefydliadau anllywodraethol, gwneuthurwyr polisi ac academyddion o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt, a chanddynt ddiddordeb yng nghynaliadwyedd cymunedau lleol ac ymgyrchoedd a chynlluniau amgylcheddol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i bobl rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth a hefyd ‘lansiwyd’ rhwydwaith thematig WISERD ar yr amgylchedd, twristiaeth a hamdden.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011

‘Ymwybyddiaeth Ieithyddol Feirniadol - y darn coll allweddol mewn polisi a chynllunio ieithyddol i adfywio’r Gymraeg’ – Dr Steve Eaves

‘Ymwybyddiaeth Ieithyddol Feirniadol - y darn coll allweddol mewn polisi a chynllunio ieithyddol i adfywio’r Gymraeg’: darlith gwadd gan Dr Steve Eaves, Canolfan Cynllunio Iaith.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2016

“The Regulation of Insurance in China” gan yr Athro Zhen Jing

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr adran
      • Staff
      • Bangor a’r ardal
      • Cysylltu â ni
    • Israddedigion
      • Proffiliau Myfyrwyr
      • Astudio tramor
    • Cyrsiau Ôl-raddedigion Trwy Ddysgu
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedigion
    • Archebu Prospectws
    • Ymchwil
      • Ymchwil Moeseg
    • Newyddion a Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
      • Cynhadleddau
    • Fideos
    • Cysylltu â ni
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor