Newyddion: Tachwedd 2018
Ysgol yn dathlu Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas
Hoffai'r Ysgol longyfarch yr holl staff a myfyrwyr a oedd yn rhan o Ŵyl ESRC Gwyddorau Cymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018
Cefnogi Cynllun Enwogion Race Council Wales
Mae Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas yn falch o gael cefnogi Cynllun Enwogion Race Council Wales. Amcan y prosiect yw dathlu amrywiaeth drwy danlinellu llwyddiannau a chyfraniadau pobl dduon i hanes a diwylliant lleol a chenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018
‘Welsh Women’s response to the First World War’
Eleni, bydd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu Dr Dinah Evans a fydd yn traddodi’r Ddarlith Goffa ar Ymateb Menywod Cymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf'. Yn dilyn y ddarlith, bydd sesiwn Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Dr Elin Royles ac yna derbyniad byr a chyfle i weld arddangosfeydd yn yr Oriel.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2018