Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Academydd o Fangor yn cefnogi rhieni ifanc

O ystyried y penawdau a welir am dadau eithriadol ifanc a daliadau cyffredinol am geisiadau am fudd-daliadau a thai, mae magu plant gan rieni ifanc iawn wedi dod i gael ei weld fel perygl i gymdeithas.  Fodd bynnag, mae astudiaeth ymchwil ddiweddar o Fangor ar y project 'Rhieni Ifanc Ni' a gynhelir gan GISDA ar draws Gogledd Orllewin Cymru, yn herio'r safbwyntiau hynny. 

Rhoddodd y project Rhieni Ifanc Ni gefnogaeth unigol i dros 100 o rieni dan 25 oed, y rhan fwyaf ohonynt yn famau.  Ei brif nod oedd datblygu gallu rhieni i ymdopi.   Roedd agweddau ar hyn yn cynnwys hyrwyddo cynhwysiad economaidd drwy gefnogi rhieni i ennill cymwysterau perthnasol, cefnogi cysylltiadau teuluol a galluogi rhieni i ffurfio rhwydweithiau â rhieni eraill. 

Cyflawnodd Prifysgol Bangor astudiaeth flwyddyn o hyd yn ymwneud â phrofiadau rhieni o 'fagu gwytnwch'.    Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Myfanwy Davies ac fe'i gwnaed gan Karen Wyn Jones ac Elin Williams yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. 

Darganfu bod syniadau a dyheadau rhieni ifanc ynghylch magu plant yn eithriadol debyg i rai rhieni hŷn.

Roedd rhieni eisiau datblygu perthynas rwydd, di-straen a chefnogol gyda'u plant.  Roedd y rhain wedi'u seilio ar eu hatgofion cadarnhaol o'u plentyndod hwy eu hunain yn eu bro, cymryd risgiau a pherthynas â brodyr a chwiorydd a chefndryd/cyfnitherod.   Dywedodd rhieni eu bod yn teimlo bod pobl yn gweld bai arnynt a'u condemnio mewn cymunedau lle mae rhieni ifanc iawn yn brin ac amlwg.  Fe wnaethant ddweud hefyd bod problemau gyda diffyg cludiant a chostau cludiant yn eu gwneud yn fwy ynysig.  Fe wnaeth ymyriadau ymarferol a rhad gan y project ddod â rhieni at ei gilydd a'u galluogi i fod gyda'u plant mewn awyrgylch fwy ymlaciol na'r cartref. Roedd gallu rhannu profiadau a chynnig cefnogaeth i rieni eraill yn werthfawr iawn yn eu golwg a theimlai rhieni'n falch o'u llwyddiannau ar ôl medru eu rhannu ag eraill.   Gwerthfawrogwyd yn arbennig gefnogaeth gan gyfoedion-fentoriaid a oedd wedi bod yn rhieni ifanc eu hunain.

Roedd rhai'n gweld dychwelyd i weithio neu i astudio'n broblemus gan ystyried bod hynny'n achosi tensiwn o ran lle canolog y plentyn yn eu bywydau.  I lawer, fodd bynnag, roedd gwaith yn cael ei ystyried yn hynod bwysig gan ei fod yn rhoi esiampl i'r plant ei dilyn.   Ystyriwyd gwytnwch yn nhermau ennill hyder ac ymdopi.  Fe'i gwelwyd yn nhermau hanes o drafferthion a gwaradwydd mewn plentyndod, ond roedd yn ymwneud hefyd â set o sgiliau a ddysgwyd drwy'r project, megis cael gwybodaeth a chefnogaeth a'u rheoli, er mwyn lliniaru effeithiau incwm isel ac unigedd gwledig. 

Meddai Dr Davies, arweinydd yr ymchwil:  "Mae'r canlyniadau'n tanseilio'r syniad bod rhieni ifanc yn grŵp ar wahân.  Er bod dod yn rhieni wedi bod yn sioc i'r rhan fwyaf ohonynt, roedd eu syniadau a'u dyheadau ynghylch magu plant yn hynod debyg i rai rhieni hŷn. 

I'r bobl ifanc hyn, mae'r trawsnewid drwy ddod yn rhieni yn bwynt allweddol pryd y gall eu llwybrau newid.  Yng Ngwynedd mae rhieni ifanc yn debygol o fod yn ynysig yn gymdeithasol a daearyddol a gallant yn aml deimlo'r profiad yn llethol.  Mewn amodau fel y rhain, gall plant beidio â chael y gefnogaeth y maent ei hangen a all arwain at ystod o ganlyniadau gwael, yn cynnwys tangyflawni academaidd a throseddu mewn rhai achosion.  Trwy ymyrryd i gefnogi rhieni mewn ffyrdd syml iawn, weithiau drwy ddim ond trefnu cludiant a chyfle i gyfarfod â rhieni eraill a rhannu profiadau, fe wnaeth y project gefnogi eu trawsnewid i fod yn rhieni hyderus a fydd, mae'n fwy na thebyg, yn arwain at well canlyniadau i'w plant.  Mewn llawer achos mae rhieni a gyfarfu â'i gilydd drwy'r project yn parhau i gefnogi ei gilydd. 

Roedd y project hwn yn unigryw o ran rhoi cefnogaeth mewn cymuned wledig a gallu gwneud hynny'n ddwyieithog.  Oherwydd iddo gael ei gyllido gan y loteri mae'n dod i ben ac ni fydd modd ei gyllido yn yr un ffordd.  Rydym yn gwybod iddo gyflawni'r newidiadau roedd wedi eu haddo ar gost fechan iawn ac mae'n ymddangos yn annheg na fydd cefnogaeth dra gwerthfawr yn ystod y cyfnod allweddol hwn ym mywydau rhieni ifanc ar gael mwyach." 

Ar raglen materion cyfoes 'Y Byd ar Bedwar' ar S4C neithiwr edrychwyd yn fanwl ar y project Rhieni Ifanc Ni a'r ymchwil a wnaed ym Mangor.   Bydd Dr Davies hefyd yn trafod yr ymchwil ar newyddion ITV heno (29/03).   

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr adran
      • Staff
      • Bangor a’r ardal
      • Cysylltu â ni
    • Israddedigion
      • Proffiliau Myfyrwyr
      • Astudio tramor
    • Cyrsiau Ôl-raddedigion Trwy Ddysgu
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedigion
    • Archebu Prospectws
    • Ymchwil
      • Ymchwil Moeseg
    • Newyddion a Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
      • Cynhadleddau
    • Fideos
    • Cysylltu â ni
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor