'Bangor researchers mark First World War Centenary'
Yn ddiweddar, bu i Tim Jones, un o’n myfyrwyr MA Archeoleg, ffilmio rhaglen ddogfen fer ar gyfer Sky News. Mae’r rhaglen yn dilyn bachgen ifanc sy’n ymchwilio i hanes ei hen ewythr a oedd yn filwr yn 2il Fataliwn y Ffiwsiliwyr Brenhinol Cymreig. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar 10fed o Dachwedd am 10.30yb a hefyd ar yr 11eg o Dachwedd am 11.30yb.
Yn ogystal, dyma Stuart Stanton, un o'n myfyrwyr MPhil, yn rhoi blas ar ei ymchwil i gofebau rhyfel, iaith ac 'anghofio'.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2018