Darlithydd yn dod yn Uwch Gymrawd
Mae Dr Sue Johns, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ar gyfer yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, wedi cael ei chydnabod fel Uwch Gymrawd gan yr Academi Addysg Uwch (AAU). Mae hi’n gyfrifol am ansawdd dysgu ac addysgu yn yr Ysgol; mae hyn yn cynnwys holl agweddau’r ddarpariaeth, o oruchwylio prosesau dilysu modylau newydd i ddatblygu strategaeth i sicrhau datblygiad parhaus y cynllun gradd.
Mae Uwch Gymrydoriaeth yn gategori o gydnabyddiaeth sy’n dynodi profiad helaeth wrth arwain a darparu dysgu ac addysgu mewn Addysg Uwch. Yn nodweddiadol bydd gan Uwch Gymrodyr brofiad o arweinyddiaeth strategol ar lefel Ysgol, cyfrifoldeb am wirio ansawdd a llunio pholisi yn ogystal â medru arddangos impact oddi mewn i’w Hysgol a’u Sefydliad.
Dywedodd Dr Johns ‘Rwyf yn hynod o falch o gael fy ngwobrwyo gydag Uwch Gymrydoriaeth gan yr AAU; rwy’n falch fod fy nghyfraniad i ddysgu ac addysgu oddi mewn i Brifysgol Bangor wedi cael ei gydnabod ac yn derbyn yr un statws â’r hyn a roddir i Uwch Gymrodyr eraill yr AAU. Mae cwblhau’r broses gydnabyddiaeth wedi fy nghynorthwyo i adlewyrchu ar fy rôl fel athro ac i ddysgu gan gydweithwyr eraill sydd wedi fy ysbrydoli i wella fy addysgu.’
Cynllunir Cymrydoriaeth yr AAU o amgylch Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPSF) sydd yn cefnogi datblygiad proffesiynol cychwynnol a pharhaol staff sydd yn addysgu ac yn cefnogi dysgu mewn Addysgu Uwch. Mae’n darparu modd o trylwyr o feincnodi, datblygu, cydnabod a gwobrwyo swyddogaethau cefnogi dysgu ac addysgu oddi mewn i Addysg Uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2014