Efrydiaeth PhD lawn-amser: 'Ffurfiau Lleol ar Gymdeithas Sifil yn Trawsnewid'
Efrydiaeth PhD: Cymdeithas Sifil WISERD
Dyddiad cau: 29 Mai 2015
Swm cyllid: Ffioedd llawn y DU/UE, ynghyd â thâl
Hyd: 3 Blynedd
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser, dan nawdd WISERD, o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, yn dechrau ar 1 Hydref 2015.
Teitl y project: Ffurfiau Lleol ar Gymdeithas Sifil yn Trawsnewid
Mae cysyniad cymdeithas sifil wedi dod i’r amlwg yn nechrau’r 21ain ganrif fel term sy’n destun dadl, ond yn un sy’n golygu, yn fras, fyd o ddeialog a chysylltiadau dynol sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth, marchnadoedd a bywyd preifat, er ei fod ar wahân iddynt. Bwlch pwysig yn ein gwybodaeth yw’r effaith a gaiff newid cymdeithasol ar ffurfiau lleol ar gymdeithas sifil a sefydliadau o fewn cymdeithas sifil, a’r hyn a olyga hynny o ran cydlyniad a lles cymdeithasol. Mae’n arbennig o ddiddorol dysgu sut y mae cymdeithas sifil yn datblygu yng nghyd-destun moderneiddio cyflym, canlyniad gwrthdaro, neu le mae unigolion yn wynebu argyfwng economaidd, anhrefn diwydiannol ac anghydraddoldeb cynyddol. Bydd y project yn edrych ar y modd y mae unigolion, cymunedau a sefydliadau cymdeithas sifil yn ymateb i’r grymoedd hyn. Mae’n arbennig o addas ar gyfer ymchwil empeiraidd i gyfranogiad dinesig mewn cymdeithas ar lefelau lleol a rhanbarthol yng nghyd-destunau datblygiad cyflym, creu cenhedloedd, llywodraeth ddatganoledig a chyfundrefnau gwleidyddol newydd. Mae’r project yn agored i ymchwil gymdeithasol gymysg, gymharol ac aml-ddull.
Bydd y project wedi’i leoli yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, ac ynghlwm wrth Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)/ y Ganolfan Ymchwil i Gymdeithas Sifil. Am fwy o wybodaeth am WISERD, ewch i’w wefan.
Goruchwylwyr: Yr Athro Howard Davis a Dr Robin Mann.
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2015
Cyllid
Cyllidir efrydiaeth yn hael gan yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas/ WISERD. Mae’n cynnwys ffioedd llawn y DU/UE, ynghyd â thâl doethurol yn cyfateb i Leiafswm Cenedlaethol Cynghorau Ymchwil y DU (£14,167 y flwyddyn ar gyfer 2014/15, i’w ddiweddaru bob blwyddyn).
Mae cyllid ychwanegol o £750 y flwyddyn ar gael ar ffurf grant Ymchwil a Hyfforddiant.
Cymhwyster
Dylai ymgeiswyr fod â chefndir academaidd rhagorol ym maes gwyddorau cymdeithas, yn cynnwys gradd gyntaf ddosbarth I neu II(i) a hefyd gradd Meistr (gorau oll gradd Meistr a gydnabyddir gan ESRC nad gefndir cyfatebol mewn hyfforddiant ymchwil).
Mae grantiau llawn (ffioedd ynghyd â thâl cynnal) yn agored i Ddinasyddion y DU a myfyrwyr o’r UE a all ateb gofynion o ran preswyliad yn y DU. Er mwyn bod yn gymwys am y grant llawn, rhaid i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd fod ym Mhrydain ers o leiaf dair blynedd cyn dechrau’r cwrs y maent yn ceisio cyllid ar ei gyfer, yn cynnwys at ddibenion addysg lawn-amser. Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd nad ydynt yn cyflawni’r gofynion preswylio uchod yn gymwys i gael grant ffioedd yn unig, ar yr amod iddynt fod yn breswylwyr yn yr Undeb Ewropeaidd am o leiaf 3 blynedd cyn dechrau eu rhaglen astudio arfaethedig.
Sut i Wneud Cais
Rhaid i ymgeiswyr lenwi a chyflwyno’r dogfennau isod erbyn y dyddiad cau, sef 29 Mai 2015:
Llythyr ategol a CV – Anfonwch Lythyr Ategol, yn amlinellu’r hyn sy’n eich gwneud yn ymgeisydd addas (Dylai hyn gynnwys pa fedrau/ gwybodaeth a gyflwynwch i’r project, pa agweddau sydd, yn ôl eich tyb, yn arbennig o ddiddorol, ac unrhyw syniadau a fo gennych ar y modd y gellid ei ddatblygu). Ni ddylai hyn gymryd mwy na 2 dudalen. Bydd angen hefyd ichi gyflwyno CV gyda hwn.
Ffurflen gais – Llenwch y Ffurflen Gais ar-lein gan Brifysgol Bangor am Fynediad i Astudiaeth Ôl-radd (yma).
Cynnig ymchwil 1,000 o eiriau – Dylai ymgeiswyr gyflwyno Cynnig Ymchwil mewn 1,000 o eiriau mewn dogfen Word ar wahân.
Datganiad personol – Dylai ymgeiswyr ddefnyddio adran ‘datganiad personol’ y ffurflen gais i ategu’r wybodaeth a geir yn y llythyr ategol, ac ymhelaethu ar eu cefndir a’u diddordeb mewn astudiaeth ôl-radd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r drefn ymgeisio, cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyn Ôl-radd:
E-bost: postgraduate@bangor.ac.uk
Ffôn: (01248) 383762
Rhagor o wybodaeth
Mae croeso ichi wneud ymholiadau anffurfiol am y project, a dylech eu cyfeirio at yr Athro Howard Davis (h.h.davis@bangor.ac.uk; +44 (0)1248 382123) neu Dr Robin Mann (r.mann@bangor.ac.uk; +44 (0)1248 382232).
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2015