Gradd a gwobr i ferch o’r Bala
Ar ôl tair blynedd anhygoel, bydd cyn-fyfyrwraig Ysgol Y Berwyn, Y Bala yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yn nathliadau’r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Nid yn unig bydd Anna Prysor Jones, 20, Arenig, Y Bala yn graddio gyda BA Cymraeg a Hanes Cymru ond fe fydd hefyd yn derbyn Gwobr Blanche Elwy Hughes gwerth £100. Sefydlwyd y wobr ym 1960 er cof am y ddiweddar Miss Blanche Elwy Hughes, cyn-fyfyrwraig y Brifysgol, a oedd am flynyddoedd lawer yn Brifathrawes Ysgol Ramadeg i Ferched ym Mangor. Roedd yn parhau i fod â diddordeb mawr yn y Brifysgol tan ei marwolaeth yn 1960. Dyfernir y wobr gan yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg i'r myfyriwr hanes Cymru gorau.
O glywed y newyddion am ennill y wobr, dywedodd Anna: “Mae’n fraint ac anrhydedd ennill Gwobr Blanche Elwy Hughes wedi tair blynedd o weithio’n galed, mae ennill gwobr o’r fath yn profi fod yr holl waith wedi talu ar ei ganfed.”
Am ei chefndir a’i phrofiadau ym Mangor, dywedodd: “Rwyf wedi cael fy magu ar fferm ar lan Llyn Celyn hefo fy rhieni, dwy chwaer a brawd ac wedi derbyn magwraeth gwbl Gymraeg ac yn hynod ddiolchgar o’r fagwraeth honno. Roeddwn yn mwynhau astudio’r Gymraeg a Hanes fel pynciau yn Ysgol Y Berwyn ac felly roedd yn benderfyniad hawdd dewis cwrs i astudio’r ddau bwnc yn y Brifysgol.
“Wedi astudio fy holl gyrsiau Lefel A drwy gyfrwng y Gymraeg, roeddwn yn awyddus iawn i barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac felly roedd Prifysgol Bangor yn lle delfrydol ar gyfer hynny. Pan fynychais y diwrnod agored roedd y darlithwyr a’r holl staff yn gyfeillgar ac yn barod iawn eu cymwynas ac o hynny ymlaen roeddwn yn gwybod y buaswn yn teimlo’n gartrefol iawn ym Mangor.
“Roeddwn yn aelod o UMCB ac wedi mwynhau cymryd rhan mewn sawl gweithgaredd er enghraifft canu gydag Aelwyd JMJ a chymryd rhan yn chwaraeon Rhyngol a’r Eisteddfod Ryngol yn cystadlu yn erbyn Undebau Cymraeg Prifysgolion eraill Cymru.
“Yn ystod y tair blynedd ym Mangor fy uchafbwynt oedd cael byw a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg a drwy wneud hynny dod i adnabod pobl ifanc eraill o gefndir Cymraeg a gwneud ffrindiau am oes. Roedd fy amser yn Neuadd John Morris Jones am y ddwy flynedd gyntaf a bod yn aelod o UMCB yn rhan bwysig iawn yn hynny ac rwyf wedi mwynhau’n fawr iawn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dros y tair blynedd ddiwethaf a oedd yn gysylltiedig gyda’r Undeb Gymraeg.
“Yn dilyn tair blynedd o waith caled mae’n rywfaint o ryddhad ac yn deimlad reit ryfedd fy mod i’n graddio. Er y bydd yn achlysur ac yn ddathliad hapus, mae’n deimlad reit drist o wybod fy mod yn dod i ddiwedd cyfnod ond hefyd yn gyfnod cyffrous o wybod bod cyfnod newydd ar ddechrau hefyd.
“Nid wyf yn hollol sicr o beth fydd o fy mlaen yn y dyfodol, ond efallai fe af ymlaen i wneud cwrs MA Hanes Cymru, ond pa bynnag drywydd y byddaf yn cymryd rwyf yn siŵr y bydd fy ngradd o fudd mawr ar gyfer y dyfodol ac wrth chwilio am swydd.”
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015