Israddedigion yn ymweld â Nuremberg ar gyfer rhaglen Erasmus arbennig
Gallodd chwe myfyriwr o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor fynd ar raglen ddysgu 10 diwrnod i Nuremberg, yr Almaen, diolch i gyllid gan gynllun Erasmus yr Undeb Ewropeaidd.
Gyda’r darlithwyr Hefin Gwilym, Dr Diane Seddon a’r Athro Catherine Robinson, ymunodd y criw o Fangor – sef myfyrwyr ar wahanol gyrsiau gradd israddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas – ag ysgolorion o Sbaen, y Ffindir, yr Almaen a Gwlad Pwyl ar Raglen Erasmus Ddwys yn ymwneud â gweithgareddau gwirfoddol. Yn ystod y profiad 10 diwrnod, edrychodd y myfyrwyr ar amcanion, dulliau a chanlyniadau gweithredu gwirfoddol mewn cyd-destun Ewropeaidd cymharol, gyda themâu’n cynnwys ysgogiadau i ddod yn wirfoddolwyr a strategaethau ar gyfer recriwtio. Cawsant ddarlith gofiadwy hefyd gan Barbara Lochbihler, Aelod o Senedd Ewrop a Chadeirydd y Pwyllgor Sefydlog ar Hawliau Dynol yn Senedd Ewrop.
Roedd Bangor yn un o ddim ond pum prifysgol drwy Ewrop a fu’n llwyddiannus yn ei chais am gyllid at y rhaglen, a oedd yn cynnwys 75% o’r costau teithio, yr holl lety a lwfans tuag at fwyd. Y prifysgolion eraill a ddewiswyd i gymryd rhan yn y rhaglen oedd Mikkeli University of Applied Sciences, Y Ffindir; Uniwersytet Lodzki, Gwlad Pwyl; Universidad de Zaragoza, Sbaen; a Georg-Simon-Ohm-Fachhochschule Nürnberg, Yr Almaen.
“Roedd y Rhaglen Erasmus Ddwys - “Ymwneud â Gwirfoddoli yn Ewrop” yn gyfle rhagorol i astudio gyda myfyrwyr o wledydd Ewropeaidd eraill,” meddai Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol a Chydlynydd Erasmus yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. “Gweithiodd y myfyrwyr yn ddyfal iawn dros gyfnod o 10 diwrnod gan feithrin sgiliau a sicrhau gwybodaeth newydd. Gobeithiwn fedru ailadrodd y rhaglen ddwys hon yng Ngwlad Pwyl y flwyddyn nesaf.”
Meddai Krissie Leyland, un o’r myfyrwyr a gymerodd ran: “Roedd y daith yn wych. Fe wnes i gyfarfod llawer o bobl ryfeddol a dysgu llawer am y gwahanol wledydd. Roedd y nosweithiau allan yn grêt a’r darlithoedd hefyd, wrth gwrs. Er inni gael llawer o waith, cawsom gyfle hefyd i ymweld â nifer o lefydd o ddiddordeb (a siopa!). Cefais olwg dda iawn ar ffordd o fyw a diwylliant yr Almaen – mi fyddwn i’n argymell y profiad i unrhyw un”.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2012