Mae'n bosib bod helyntion priodasol Harri VIII wedi dylanwadu ar gyplau eraill, yn ôl dogfennau sydd newydd ddod i'r fei

Henry VIII between circa 1530 and 1535- around the time of his 'Great Matter' or divorce proceedingas as we'd call them today.: Joos van Cleve (fl. 1485- 1540/42) formerly attributed to Hans HOlbeinHari VIII rhwng oddeutu 1530 a 1535-  tua yr un amser a'r cythrwfwl  ynghylch ei 'ysgariad'.: Joos van Cleve (fl. 1485- 1540/42)  a arferir ei briodoli i waith Hans Holbein

Darganfuwyd dogfennau sy'n dangos o bosib bod helyntion priodasol enwog Harri VIII wedi peri i gyplau eraill ledled y wlad wahanu fel y gwnaeth yntau.

Mae stori ryfeddol hogyn yn ei arddegau a fu'n ymbalfalu rhwng dwy wraig mewn ffordd debyg - ac ar yr un pryd - i ymdrechion y brenin i geisio newid ei gymar yn awgrymu bod cyplau eraill yn gwylio a bod dylanwad achos y brenin yntau ar y gyfraith wedi dylanwadu arnynt.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerwysg wedi darganfod tebygrwydd rhwng digwyddiadau yn y llys brenhinol, a bywyd carwriaethol cymhleth aelod o deulu o  uchelwyr a thirfeddianwyr o Gymru a oedd yn byw ger Bangor, Gwynedd. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cymdeithas yn gwylio'r hyn oedd yn digwydd yn y llys gyda chryn ddiddordeb, ac y gallem ninnau hefyd ddysgu mwy am gymdeithas yr oes trwy astudio'r cofnodion cyfreithiol sydd wedi goroesi.

Roedd Edward Griffith, o ystâd y Penrhyn yng ngogledd-orllewin Cymru, yn briod yn ei arddegau â Jane o Cochwillan. Bu farw Jane yn 13 oed. Gyda chaniatâd Canghellor y Brenin, Cardinal Wolsey, priododd Edward Agnes, chwaer Jane, tua 1527, ond y flwyddyn nesaf dychwelodd hithau i fyw gyda'i thad. Ar yr un pryd daeth yn hysbys bod Harri VIII wedi cychwyn achos dirymu i geisio ei ryddhau ei hun o'i briodas â'i wraig Catherine o Aragon - gweddw ei frawd. Mae'r arbenigwyr cyfreithiol o'r farn bod hyn wedi dylanwadu ar Edward i ysgaru Agnes. Roedd sôn am ysgariad y Brenin yn y dogfennau llys sy'n ymwneud ag achos Edward.

Ailbriododd Edward, â Jane Puleston, tua 1529. Ond ymhen dim dychwelodd at Agnes. Yna dychwelodd at Jane Puleston a chawsant dair merch: Jane, Elin a Katherine. Mae cronoleg y digwyddiadau hyn hefyd yn debyg iawn i ddiwedd cymhleth priodas Henry â Catherine.

Mae'r arbenigwyr yn credu bod y tebygrwydd sydd rhwng y ddau achos yn awgrymu bod Edward yn dilyn digwyddiadau'r llys wrth iddo ymwneud â'i briodasau ei hun.

Dywedodd Dr Gwilym Owen, o Ysgol y Gyfraith Bangor:

"Deuthum ar draws yr achos hwn wrth ymchwilio i'r ymgyfreitha cymhleth ynghylch pwy ddylai etifeddu'r ystâd. Mae'r dystiolaeth wedi'i chynnwys mewn dyddodion tystion a gymerwyd mewn achos Siawnsri. Mae'r dyddodion hyn yn eiddo i Ymddiriedolwyr ystâd Powis ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Ymddiriedolwyr am eu caniatâd caredig i gyhoeddi canlyniadau ein canfyddiadau. Mae’r rhan fwyaf o gofnodion eglwysig y cyfnod ar goll. Felly, mae'r dyddodion hyn yn oroesiad ffodus.

Mae hynny'n awgrymu y gallai papurau o'r fath fod yn fodd inni ddysgu mwy am anghydfodau ynghylch priodas yng nghyfnod y Tuduriaid.”

Dywedodd yr Athro Rebecca Probert, arbenigwr yng nghyfraith priodas o Brifysgol Caerwysg:

“Rydym wedi cymharu’r dystiolaeth sydd gennym am fywyd Edward ac mae’n drawiadol iawn bod digwyddiadau ei fywyd yn adleisio digwyddiadau'r briodas frenhinol. Mae hyn yn awgrymu bod yr hyn oedd yn digwydd yn y llys wedi dylanwadu ar Edward.

“O’i ystyried ar wahân, mae Edward i'w weld yn anwadal ar y gorau ac ar y gwaethaf yn gnaf llwyr. Ond os ystyriwch ei weithredoedd yng nghyd-destun gweithredoedd y Brenin, mae'n ymddangos ei fod yn teimlo ei fod yn rhwym wrth ddadleuon y brenin. Mae'n bosib hefyd mai llanc ifanc teimladwy oedd o a welai fod y Brenin yn credu bod ei briodas yn groes i gyfraith Duw, ac a gredai y dylai yntau hefyd goleddu’r un teimladau.”

Teithiai pobl o ogledd Cymru i Lundain ar fusnes, a byddent yn dod â newyddion o'r llys adref gyda nhw. Roedd tad Edward, Syr William III, yn farwnig a byddai'r teulu wedi clywed clecs o'r llys, ac efallai fod ganddynt gynghorydd cyfreithiol hefyd.

Doedd Syr William ddim o blaid priodas Edward ac Agnes, a oedd yn ferch i un o'i denantiaid, ac felly efallai iddo weld cyfle i ddilyn esiampl y Brenin o ddirymu priodas i berthynas fel y gallai ei fab wneud priodas well. Dywedodd y tystion yn yr achos llys diweddarach fod Edward yn poeni am gael ei dorri allan o ewyllys ei dad. Yn ei briodas â Jane, rhoddodd Edward ei lw gyda'i law dde, gan ddweud ei fod eisoes wedi rhoi ei law dde i Agnes.

Tra oedd achos Henry yn mynd rhagddo yn Rhufain, cafodd Edward ganiatâd gan lys eglwysig i ddychwelyd at Agnes. Tyngodd lw 'na chafodd erioed berthynas gnawdol â Jane Williams, chwaer y ddywededig Agnes'.

Fodd bynnag, nid oedd achos Henry wedi dod i ben eto, ac efallai fod hynny wedi anfon neges anghyson at Edward ynghylch yr hyn y dylai ei wneud, felly gwahanodd oddi wrth Agnes am yr eildro lai na blwyddyn yn ddiweddarach. Cafodd Catherine ei diarddel o'r llys ym 1531. Dywedodd tystion mai dilyn esiampl Harri VIII oedd Edward wrth roi Agnes heibio am yr eildro.

Dywed dogfennau'r llys: “It was asked whether Edward had reconciled himself to the said Agnes as his lawful wife and with her cohabited until that our late sovereign Lord Henry the eighth did put away his most lawful wife Queen Katharine the Queen Majesty’s mother the said Edward by the example of the said late King encouraged (both the cases being of like quality) did again put away the said Agnes”.

Cyhoeddwyd bod priodas Henry yn ddi-rym ym 1533, ac o dan y ddeddfwriaeth ddilynol byddai priodas Edward ag Agnes wedi bod yn ddilys, oherwydd na chyflawnwyd ei briodas gyntaf. Ond ni ddychwelodd ati - efallai oherwydd bod ganddo blant gyda Jane, neu oherwydd bod Agnes wedi ailbriodi. Ond annilyswyd ei briodas â Jane Puleston gan y ddeddfwriaeth newydd, a bu ffraeo yn sgil hynny ynghylch pwy oedd etifeddion cyfreithiol Edward yn y dyfodol.

Mae manylion priodasau Edward gennym oherwydd bod ei etifeddion wedi dwyn achos ynghylch etifeddiaeth Stad Penrhyn ym 1556, ac mae hynny'n awgrymu o bosib bod mwy o dystiolaeth ynglŷn ag ysgariadau oes y Tuduriaid yn llechu mewn cofnodion Siawnsri - yn hytrach na rhai eglwysig.

Ni ddaeth ymchwilwyr o hyd i unrhyw achosion eraill tebyg ar y pryd yng nghofnodion llys.

Cyhoeddir yr ymchwil yn y cyfnodolyn Law and Humanities.

Mae manylion yr ymgyfreitha mewn perthynas ag etifeddiaeth Penrhyn yn destun cyfrol sydd newydd ei chyhoeddi gan Gymdeithas Hanes Cyfreithiol Cymru a gyd-awdurwyd gan Gwilym Owen a Peter Foden o'r enw At Variance the Penrhyn Entail.

Mae yna ddimensiwn Cymraeg posib hefyd ynglŷn â phriodasau Edward. Yn allanol, mae gweithredoedd Edward yn cydymffurfio â chyfraith gwlad Cymru a Lloegr ar y pryd. Fodd bynnag, wrth edrych yn agosach maent hefyd yn ymddangos eu bod yn adlewyrchu deddfau priodas frodorol Cymru.

Nodwedd ddiddorol arall o'r stori yw bod Agnes wedi'i magu yng Nghochwillan a oedd yn rhan o ystâd Penrhyn. Ei mam oedd Lowry Salesbury. Nid Lowri oedd yr aelod cyntaf o deulu Salesbury i fyw yng Nghochwillan. Yn ddiddorol, roedd un arall o ragflaenwyr Agnes, a elwir hefyd yn Agnes, wedi byw yng Nghochwillan. Roedd y rhagflaenydd hwn  yn briod i Foulk Salesbury a’u mab oedd yr ysgolhaig blaenllaw o Gymru Duduraidd, William Salesbury.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019