Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Mark yn ennill Gwobr y British Education Awards

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi derbyn un o Wobrau y British Education Awards.

Enillodd Mark Barrow, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn gynharach eleni, wobr y British Education Award (BEA) ar gyfer myfyriwr Graddedig o Gymru. Mae’r Gwobrau hyn yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn y system addysg yn y DU.Mark Barrow yn seremoni wobrwyo y British Education AwardsMark Barrow yn seremoni wobrwyo y British Education Awards

Graddiodd Mark, sy’n hanu o Saddleworth, Oldham, gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes a Newyddiaduraeth, gan ennill marc o 84%.

Derbyniodd Mark ei wobr mewn Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty’r Hilton, Manceinion, yn ddiweddar. Mae Mark  yn ymuno â chriw dethol, wrth i Maisie Prior, un o raddedigion diweddar y Brifysgol, ennill y Wobr Addysg Uwch y llynedd.

Meddai Mark: “ Yn naturiol, rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y Wobr. Mae cael enwebiad ar gyfer gwobr genedlaethol yn anghredadwy, ond mae ennill y wobr yn anhygoel, a rhywbeth na faswn byth wedi ei ddisgwyl. Mae’n dangos sut y mae’r Brifysgol yn rhagori ar ddarparu myfyrwyr gyda phrofiad addysgol arbennig. Ni faswn wedi llwyddo heb yr holl gefnogaeth ac arweiniad yr wyf wedi ei dderbyn gan y Brifysgol. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i Dr Nikolaos Papadogiannis am fy enwebu. Mae’n dda fy mod yn dal i gael ymwneud â’r Brifysgol, ac rwy’n wir mwynhau fy rôl fel Swyddog Sabothol dros Addysg yn Undeb y Myfyrwyr.”

Llwyddodd Mark, sy’n gyn-fyfyriwr Oldham Sixth Form College, i gyrraedd y brig yn y Brifysgol gan ennill Gwobr Dr John Robert Jones, a ddyfernir i’r myfyriwr neu’r fyfyrwraig orau sydd wedi llwyddo i ennill y marciau uchaf ar draws pob pwnc yn y Brifysgol.

Enwebwyd Mark gan Dr Nikolaos Papadogiannis, darlithydd mewn Hanes Modern a Chyfoes, a ddywedodd:

“Roedd Mark yn fyfyriwr penigamp ac roedd ei berfformiad yn neilltuol yn achos pob modiwl. 

Enillodd dair gwobr yn ystod ei seremoni raddio. Yn ogystal â’r brif wobr, enillodd wobrau’r Ysgol am y marc uchaf ar gyfer traethawd hir a’r wobr am y marc uchaf un.  Roedd Mark hefyd yn neilltuol yn y modd yr oedd yn cydweithio gyda myfyrwyr eraill: roedd ymysg y rhai oedd yn parchu barn eraill, hyd yn oed pan yr oedd yn anghytuno â hwy. Roedd yn mynd ati i annog eraill i gyfrannu.” 

Bellach mae Mark, 22 oed, yn Is-Lywydd (Addysg) Undeb Myfyrwyr Bangor. Meddai Mark am ei gyfnod fel myfyriwr:

“Roedd yr Ysgol lle bûm yn astudio ynddi yn wych. Roedd y gofal bugeiliol yn well nag y byddech yn ei ddisgwyl, gydag academyddion ar gael i roi cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr.”

“Mwynheais y cwrs yn fawr.  Roedd dewis eang o fodiwlau ac asesiadau, ac mae hynny’n hanfodol ar gyfer ennill profiad o sgiliau trosglwyddadwy.”

Wrth edrych tuag at y  dyfodol, dywedodd Mark: “Rwy’n gobeithio aros ym myd addysg, gan ddatblygu gyrfa academaidd. Hoffwn fynd mewn i fyd gwleidyddiaeth yn y pendraw!”

Dewisodd Mark astudio ym Mhrifysgol Bangor gan ei fod yn un o’r ychydig rai i gynnig yr union gwrs yr oedd yn dymuno’i ddilyn. Ychwanegodd:

“Mae’r myfyrwyr yn dod i adnabod y darlithwyr wrth eu henwau cyntaf, drwy  ymdeimlad cymunedol y Brifysgol, a chan ein bod yn Brifysgol ganolig ei maint.”

“Gan fy mod yn berson sy’n mwynhau’r awyr agored, dim ond un lle oedd yn gweddu gen i. Mae Gogledd Cymru’n ardal anhygoel i dreulio cyfnod prifysgol ac ni fuaswn yn newid dim ar y profiadau yr wyf wedi eu hennill yma.”

Mae Mark yn mwynhau’r her o fod yn Is-Lywydd dros Addysg yn Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, lle mae’n cynrychioli barn a diddordebau academaidd y myfyrwyr ac yn cydweithio gyda’r Brifysgol er mwyn ymestyn profiad y myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr adran
      • Staff
      • Bangor a’r ardal
      • Cysylltu â ni
    • Israddedigion
      • Proffiliau Myfyrwyr
      • Astudio tramor
    • Cyrsiau Ôl-raddedigion Trwy Ddysgu
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedigion
    • Archebu Prospectws
    • Ymchwil
      • Ymchwil Moeseg
    • Newyddion a Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
      • Cynhadleddau
    • Fideos
    • Cysylltu â ni
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor